Penodi Peiriannydd Goruchwylio ar gyfer eich cronfa ddŵr

Penodi Peiriannydd Goruchwylio

Os ydych yn berchen ar Gronfa Ddŵr Risg Uchel neu'n rheoli un, rhaid i chi benodi Peiriannydd Goruchwylio oni bai fod y gronfa ddŵr yn cael ei hadeiladu neu ei haddasu dan oruchwyliaeth Peiriannydd Adeiladu.

Os nad yw eich cronfa ddŵr wedi’i dynodi’n Gronfa Ddŵr Risg Uchel, nid oes angen i chi benodi Peiriannydd Goruchwylio, ond dylech ystyried cael cyngor gan un i helpu i ofalu am eich cronfa ddŵr.

Dewch o hyd i restr lawn o Beirianwyr Goruchwylio ar Gov.uk

Nid oes rhaid i'r peiriannydd a ddewiswch fyw'n lleol ond dylech drafod ei argaeledd a'i amser teithio i fynychu ar fyr rybudd, er enghraifft yn ystod argyfwng.

Rydym yn cynghori bod eich Peiriannydd Goruchwylio yn unigolyn gwahanol i'r Peiriannydd Arolygu.

Mae'n ofynnol i'ch Peiriannydd Goruchwylio fod ar gael bob amser i roi cyngor. Dylech siarad â'r peiriannydd i gytuno ar Beiriannydd Goruchwylio arall ar gyfer cyfnodau o wyliau neu salwch.

Os na fyddwch yn penodi Peiriannydd Goruchwylio ar gyfer eich Cronfa Ddŵr Risg Uchel, rydych yn cyflawni trosedd. Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi hysbysiad i chi yn gofyn ichi wneud y penodiad priodol.

Pan fyddwch yn penodi Peiriannydd Goruchwylio, rhaid i chi ddweud wrthym am hyn o fewn 28 niwrnod.

Rôl eich Peiriannydd Goruchwylio

Pan fyddwch yn penodi Peiriannydd Goruchwylio, bydd yn ymweld â'ch cronfa ddŵr fel arfer unwaith neu ddwywaith y flwyddyn i fonitro ei pherfformiad a thynnu eich sylw at unrhyw feysydd sy'n peri pryder. Y peiriannydd sy'n pennu amlder yr ymweliadau, ond efallai y bydd yn cael ei arwain gan argymhellion a roddwyd yn yr adroddiad archwilio diwethaf.

Bydd eich Peiriannydd Goruchwylio yn gwirio bod yr argymhellion a wnaed gan y Peiriannydd Adeiladu neu'r Peiriannydd Archwilio ynghylch y pethau i wylio amdanynt yn eich cronfa ddŵr yn cael sylw. Bydd yn gwirio eich bod yn gweithredu ar argymhellion y peirianwyr yn gywir.

Efallai y bydd y peiriannydd yn gofyn i chi am wybodaeth i'w helpu i ddeall eich cronfa ddŵr. Rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth y mae’n gofyn amdani ac unrhyw gyfleusterau sydd eu hangen arno i wneud ei waith.

Gallwch ofyn i'ch Peiriannydd Goruchwylio am gyngor ar waith monitro, cynnal a chadw a chadw cofnodion. Gall hefyd roi cyngor ar atgyweiriadau a gwelliannau. Ar gyfer materion a allai gael mwy o effaith ar ddiogelwch cronfeydd dŵr, gall geisio cyngor gan Beiriannydd Archwilio mwy profiadol.

Deall datganiad eich Peiriannydd Goruchwylio

Bob blwyddyn, byddwch yn derbyn datganiad gan eich Peiriannydd Goruchwylio a bydd y peiriannydd yn anfon copi atom. Gelwir hwn yn Ddatganiad Adran 12 ac mae’n ddogfen statudol bwysig y mae’n rhaid i chi ei chadw’n ddiogel am oes y gronfa ddŵr. Efallai y bydd peirianwyr eraill yn gofyn i chi am y datganiadau hyn yn y dyfodol.

Os nad yw datganiad eich peiriannydd yn glir neu os nad ydych yn deall unrhyw ran ohono, dylech siarad â'r peiriannydd a cheisio eglurhad ysgrifenedig.

Bydd eich Peiriannydd Goruchwylio yn disgrifio ymddygiad cyffredinol y gronfa ddŵr, unrhyw newidiadau ers yr ymweliad diwethaf a'ch gweithredoedd i'w chynnal. Bydd y peiriannydd yn rhoi sylwadau penodol ar y canlynol:

  • Mesurau i'w dilyn er budd diogelwch
  • Argymhellion ar gyfer cynnal a chadw'r gronfa ddŵr
  • Y materion i'w gwylio ganddo fel yr argymhellwyd gan y Peiriannydd Archwilio diwethaf
  • Amlder a digonolrwydd eich gwaith monitro, eich gwyliadwriaeth a’ch gwaith gadw cofnodion
  • Eich cynllun llifogydd ar gyfer delio ag argyfyngau

Mae gan eich Peiriannydd Goruchwylio ddyletswydd gyfreithiol i ddweud wrthych os nad ydych yn cydymffurfio â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac i ddweud wrthym am hyn. Dylech weithredu ar unwaith i wella'r sefyllfa a gwneud newidiadau i'ch cynllun rheoli diogelwch cronfa ddŵr i'w atal rhag digwydd eto. 

Dylech ddarllen ein harweiniad llawn i ddeall eich adroddiad archwilio cronfa ddŵr.

Cyfarwyddiadau ar gyfer archwiliad gweledol o dan adran 12(6)

Mae gan eich Peiriannydd Goruchwylio’r awdurdod i ddarparu copi ysgrifenedig o gyfarwyddyd i gynnal archwiliad gweledol i chi. Dylid darparu hwn fel dogfen ar wahân ond gellir ei gopïo yn natganiad y peiriannydd. Rhaid i’w gyfarwyddyd gynnwys y canlynol:

  • Disgrifiad o'r hyn y mae'n rhaid i chi edrych amdano
  • Amlder yr arolygiad
  • Sut y dylech adrodd eich canfyddiadau

Rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddyd a rhoi gwybod am yr hyn a ddarganfyddwch. Mae cyfarwyddyd ar gyfer archwiliad gweledol yn cael ei gopïo i ni a gallwn wirio cydymffurfedd ag ef unrhyw bryd.

Argymhelliad y Peiriannydd Goruchwylio ar gyfer archwiliad

Mae gan eich Peiriannydd Goruchwylio’r awdurdod i argymell archwiliad llawn. Os bydd, rhaid i chi drefnu archwiliad o'ch cronfa ddŵr ar unwaith. Bydd y peiriannydd hefyd yn rhoi gwybod i ni am ei argymhelliad. Byddwn yn gwirio bod yr arolygiad wedi'i gwblhau.

Troseddau

Os na fyddwch yn dilyn y canllawiau hyn neu gyfarwyddiadau eich Peiriannydd Goruchwylio, gallech fod yn cyflawni trosedd.

ERROR: - CTA Title MAX 50 Characters
Diweddarwyd ddiwethaf