Adolygu, profi a diwygio cynllun llifogydd eich cronfa ddŵr
Mae tair ffordd y gallwch sicrhau bod eich cynllun llifogydd yn effeithiol:
- Ei adolygu er mwyn sicrhau bod y cynllun llifogydd yn gyflawn ac yn gyfredol
- Ei brofi er mwyn sicrhau bod y cynllun llifogydd yn ddealladwy a'i fod yn gweithio'n ymarferol
- Ei adolygu i ddiwygio'r cynllun llifogydd os oes newidiadau mawr wedi'u gwneud i'ch cronfa ddŵr, neu i'r bobl neu'r prosesau a ddefnyddir i'w rheoli
Bydd eich peiriannydd goruchwylio hefyd yn adolygu eich cynllun llifogydd, ac efallai y bydd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau yn ei ddatganiad adran 12.
Adolygu’r cynllun llifogydd ar gyfer eich cronfa ddŵr
Dylech ddiwygio eich cynllun llifogydd os gwneir unrhyw newidiadau i'r gronfa ddŵr neu eich gweithdrefnau gweithredol. Mae'n well eich bod yn gwneud hyn cyn gynted ag y bydd y newidiadau'n cael eu gwneud. Cadwch amserlen o'r newidiadau fel y gallwch ei darparu i'ch peiriannydd goruchwylio er mwyn gwneud y broses adolygu'n haws.
Dylech adolygu eich cynllun llifogydd ar yr adegau canlynol:
- bob 12 mis, i gyd-fynd ag ymweliad gan eich peiriannydd goruchwylio fel arfer
- ar ôl unrhyw brawf neu brawf rhannol o'r cynllun llifogydd
- pan benodir peiriannydd goruchwylio
- pan benodir peiriannydd archwilio
- yn dilyn unrhyw newid yn lefel y dŵr a ragnodwyd gan beiriannydd
- ar unrhyw adeg a argymhellir gan eich peiriannydd neu gennym ni
Dylai adolygiad fod yn ddigonol i wirio bod mân newidiadau wedi'u hymgorffori'n foddhaol. Ni ddylai mân newidiadau newid eich ymagwedd gyffredinol at ddigwyddiad, a dylid eu cyfyngu i ddarparu gwybodaeth newydd i helpu eich ymateb. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn a ystyriwn yn fân newidiadau:
- newidiadau i enwau a rhifau ffôn
- newidiadau i drefniadau mynediad (megis rhifau clo clap)
- diweddariadau i gynlluniau lleoliad a safle
- newidiadau i'ch cynllun cyfathrebu
Dylai newidiadau mawr ysgogi adolygiad llawn – gweler y canllawiau isod.
Ar ôl pob adolygiad, diweddarwch dudalen glawr eich cynllun llifogydd drwy gynnwys dyddiad eich adolygiad.
Profi cynllun llifogydd eich cronfa ddŵr
Paratoi amserlen brofi ar gyfer eich cynllun llifogydd
Dylech greu amserlen ar gyfer profi eich cynllun llifogydd i sicrhau ei fod yn gweithio ac i helpu’r bobl gywir i ddod yn gyfarwydd ag ef. Trafodwch eich amserlen brofi arfaethedig gyda'ch peiriannydd goruchwylio neu archwilio.
Cadwch eich amserlen brofi fel rhan o'ch cynllun rheoli diogelwch cronfa ddŵr cyffredinol. Rydym yn argymell y dylid cadw’r amserlen brofi ar wahân i’r cynllun llifogydd ei hun er mwyn atal dogfen y cynllun llifogydd rhag mynd yn rhy fawr.
Dylech benderfynu ar ddull ac amlder y profion drwy ystyried cymhlethdod eich cronfa ddŵr a nifer y bobl fyddai'n cymryd rhan yn ystod digwyddiad.
Os ydych yn rheoli cronfa ddŵr uchel ei risg, neu os oes adeileddau neu weithdrefnau mwy cymhleth yn perthyn iddi, neu os oes gennych fwy nag un aelod o staff gweithredol, bydd angen i chi ddatblygu system i brofi pob digwyddiad y gellir ei ragweld yn rhesymol, hyd yn oed os yw’r tebygolrwydd yn isel.
Dylai eich adroddiadau archwilio gynnwys barn y peiriannydd archwilio ar y dulliau methiant posibl ar gyfer eich cronfa ddŵr. Dylech ddatblygu senarios prawf o amgylch y rhain.
Os yw eich cronfa ddŵr yn llai a'i seilwaith yn syml, a/neu os mai ychydig iawn o bobl sy’n gofalu amdani, dylech barhau i brofi eich cynllun llifogydd i osgoi hunanfodlonrwydd.
Dylai eich amserlen brofi nodi'r canlynol:
- yr elfen o'r cynllun llifogydd sydd i gael ei phrofi
- y dull profi
- y cyfnod rhwng y profion
Er enghraifft:
Tynnu i lawr mewn argyfwng
Agor y falf sgwrio a chaniatáu i ddŵr redeg nes ei fod yn glir (fel yr argymhellir yn yr adroddiad archwilio) bob chwe mis
Os bydd eich peirianwyr yn nodi unrhyw brofion, disgwylir i chi eu cwblhau o fewn yr amserlen a ddarperir ganddynt. Bydd prawf llwyddiannus yn
- cadarnhau bod y manylion yn gywir a bod yr holl offer yn gweithio yn ôl y disgwyl
- nodi problemau posibl ac annog gwelliant
- cofnodi pwyntiau dysgu y gellir eu rhannu gyda staff newydd yn ddiweddarach
- darparu lefel uwch o ddealltwriaeth a hyder i staff
Profion wrth ddesg a phrofion ymarferol
Gellir profi rhai rhannau o'ch cynllun llifogydd fel ymarfer wrth ddesg, megis gwirio rhifau ffôn a gwirio argaeledd contractwyr neu ddeunyddiau. Bydd angen profi rhannau eraill yn ymarferol, megis agor falfiau.
Cofiwch gofnodi profion falf yn Rhan 16 o'ch ffurflen gofnod ragnodedig.
Sut i brofi cynllun llifogydd eich cronfa ddŵr
Profi rheolaethau mewnlif ac allfa
Dylech agor yr allfa waelod yn llawn (falf sgwrio) ac offer tynnu i lawr eraill pan argymhellir i chi wneud hynny gan eich peiriannydd archwilio neu oruchwylio, neu bob chwe mis os na roddir argymhelliad.
Dylech agor falfiau'n gyfan gwbl yn erbyn pen llawn y gronfa nes bod y dŵr yn rhedeg yn glir ac yn llifo'n gyson. Mae hyn yn atal gwaddodion neu weddillion rhag cael eu dal yn y system. Dylid gweithredu cyfleusterau tynnu i lawr sydd yn eu lle a rhai symudol.
Cyn rhyddhau dŵr o gronfa ddŵr, rhaid sicrhau trwydded amgylcheddol gollwng dŵr. Gall ymgymerwyr dŵr statudol hefyd ddefnyddio cydsyniad o dan adran 166 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 Rhaid i chi gwblhau asesiad risg a'n rhybuddio am unrhyw brofion a allai gael effaith amgylcheddol.
Dylech drafod gyda'ch peiriannydd goruchwylio a all prawf falf fod yn ddilys os caiff y falfiau eu hagor yn llawn mewn trefn heb ryddhau dŵr.
Profi pobl
Dylai eich prawf gynnwys unrhyw staff sy'n debygol o fod yn rhan o ddigwyddiad go iawn.
Bydd hyn yn eu helpu i ymgyfarwyddo â'r cynllun llifogydd ac yn eich helpu i nodi anghenion hyfforddi.
Gwiriwch pa mor dda y gwneir penderfyniadau. Profwch unrhyw gamau gweithredu lle rydych wedi dirprwyo awdurdod penodol.
Os yw eich cynllun llifogydd yn cynnwys y defnydd o gontractwyr neu ymgynghorwyr, dylech brofi eu hargaeledd a'u gallu i gyflenwi deunyddiau, personél neu gyngor.
Profi offer
Gwiriwch a phrofwch yr offer yr ydych yn debygol o'u defnyddio yn ystod digwyddiad.
Cofiwch gynnwys unrhyw offer sydd gennych ond nad ydynt yn cael eu cadw ar safle'r gronfa ddŵr.
Profi systemau cyfathrebu
Dylech brofi cyfathrebiadau ar y safle. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys ffonau llinellau tir a signal ffonau symudol, ond gallai gynnwys ffonau lloeren, radios, Wi-Fi, peiriannau ffacs, larymau a seirenau hefyd.
Ymarfer prawf digwyddiad llawn
Os yw eich cronfa ddŵr wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr uchel ei risg, dylech gynnal ymarfer digwyddiad ffug llawn o leiaf unwaith bob deng mlynedd i brofi pob elfen o’ch cynllun llifogydd. Dylech hefyd gynnal prawf llawn o fewn blwyddyn i unrhyw adolygiad mawr o'ch cynllun llifogydd.
Diben yr ymarfer yw profi pob agwedd ar ymateb i ddigwyddiad sydd o fewn eich rheolaeth. Mae prawf llawn yn ymarfer dysgu gwerthfawr ar sut i ddelio â digwyddiadau, a dylai gynnwys yr holl staff gweithredol a'ch peiriannydd goruchwylio.
Nid oes angen i brawf llawn gynnwys y gwasanaethau brys. Fodd bynnag, os ydych yn rheoli cronfa ddŵr uchel ei risg sydd â’r potensial i achosi llifogydd sy'n effeithio ar boblogaeth fawr neu seilwaith hanfodol, efallai y bydd eich cynllunydd argyfwng lleol yn cysylltu â chi er mwyn deall eich cronfa ddŵr yn well neu er mwyn trefnu ymarfer o’u cynllun ymateb, a elwir yn “gynllun oddi ar y safle”.
Os yw eich sefydliad hefyd yn ymatebwr brys, dylech ymgynghori â'ch cynllunydd argyfwng ar sut i gyfuno prawf o'ch cynllun ar y safle ac oddi ar y safle.
Os nad yw eich cronfa ddŵr wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr uchel ei risg, rydym yn argymell eich bod yn parhau i brofi eich cynllun llifogydd o bryd i’w gilydd a chael cyngor gan beiriannydd cronfeydd dŵr ar faterion technegol.
Profi rhannol
Efallai y gallwch gyfiawnhau profi'ch cynllun llifogydd yn rhannol yn unig – er enghraifft, defnyddio'r falf sgwrio yn rheolaidd. Os byddwch yn cynnal profion rhannol ar wahanol adegau, sicrhewch fod pob prawf yn cael ei gofnodi a bod holl elfennau'r cynllun llifogydd yn cael eu profi dros amser.
Cadw cofnodion profion
Dylech gadw cofnod clir o bob prawf y byddwch yn ei gwblhau. Er mwyn cadw eich cynllun llifogydd yn gryno, dylid cadw eich amserlen a chanlyniadau'r profion ar wahân neu fel rhan o'ch gweithdrefnau gweithredu arferol.
Os oes gennych gronfa ddŵr uchel ei risg, rhaid i chi gofnodi gwybodaeth am brofi falfiau, gatiau a llifddorau yn Rhan 4 o'ch ffurflen gofnod ragnodedig.
Os bydd eich profion yn datgelu problemau neu gyfleoedd i wella, cadwch gofnod o'r gwersi a ddysgwyd, a gwnewch y newidiadau angenrheidiol i'ch cynllun llifogydd. Yn dilyn profion mawr gyda nifer o bobl, dylid cynnal ôl-drafodaeth a llunio adroddiad cryno.
Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw wersi a ddysgwyd fel y gallwn helpu perchnogion cronfeydd dŵr eraill lle bo'n briodol. Rydym yn rhannu gwersi a ddysgwyd yn ddienw, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni fel arall.
Amserlenni profi ar gyfer mwy nag un gronfa ddŵr
Os ydych yn rheoli mwy nag un gronfa ddŵr, dylech baratoi rhestr o brofion sy'n esbonio'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng pob cronfa ddŵr, eu lleoliad, a'r bobl sy'n eu gweithredu.
Os yw eich staff neu weithdrefnau gweithredu yn sylweddol wahanol ar draws gwahanol safleoedd, dylech gadw amserlen ar gyfer pob cronfa ddŵr, yn yr un modd ag un gronfa ddŵr.
Os yw eich gweithdrefnau gweithredol yn weddol debyg ar draws y cronfeydd dŵr, efallai y byddai llunio un amserlen ar gyfer profi yn fuddiol. Ond dylech allu dangos sut:
- y cynhelir y profion
- yr eir i'r afael â materion safle-benodol
- y caiff pwyntiau dysgu eu trosglwyddo rhwng safleoedd
Efallai y byddwch yn ei gweld yn fuddiol nodi grwpiau clwstwr ar gyfer eu profi.
Fel canllaw cyffredinol, rydym yn argymell yr amlder canlynol ar gyfer amserlen eich profion:
- Rhwng dwy a 15 cronfa ddŵr – prawf llawn mewn un gronfa ddŵr neu fwy o leiaf unwaith bob deng mlynedd
- 16 neu fwy o gronfeydd dŵr – prawf llawn mewn un gronfa ddŵr neu fwy o leiaf unwaith bob pum mlynedd
Dylech adolygu a diwygio amlder eich profion i adlewyrchu newidiadau personél sylweddol, er mwyn sicrhau bod staff newydd yn gyfarwydd â'ch cynllun llifogydd.
Gallai'ch peiriannydd goruchwylio wneud argymhellion ar gwmpas ac amlder y profion, a disgwylir i chi gwblhau'r rhain o fewn yr amserlen a roddir.
Adolygu eich cynllun llifogydd
Dylai newidiadau sylweddoli i'ch cronfa ddŵr neu eich gweithdrefnau gweithredol eich ysgogi i wneud adolygiad llawn o'ch cynllun llifogydd. Ystyrir newid sylweddol yn newid sy'n gofyn am ddull gweithredu gwahanol iawn. Mae enghreifftiau o newidiadau sylweddol yn cynnwys y canlynol:
- newidiadau i brif adeileddau'r argae – er enghraifft, gosod falf sgwrio newydd neu osod seiffon
- ad-drefnu o fewn y cwmni sy'n newid lefelau awdurdod, cyfrifoldeb, neu linellau adrodd
- prawf yn datgelu gwallau neu ddiffygion yn eich cynllun llifogydd
- adolygu lefelau trothwy neu gamau ymateb a bennwyd ymlaen llaw
Ychwanegwch eich diwygiadau at eich amserlen o newidiadau. Ar ôl pob adolygiad, dylech ddiweddaru tudalen glawr eich cynllun llifogydd drwy gynnwys dyddiad eich adolygiad.
Darllenwch ein canllaw ar sut i wneud y canlynol Paratoi cynllun llifogydd ar gyfer cronfa ddŵr