Gor-dyfiant algâu’r môr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn ag ansawdd dyfroedd arfordirol. Mae’r rhan fwyaf yn gysylltiedig ag achosion gwirioneddol o lygru, ond o bryd i’w gilydd maent yn ymwneud â gordyfiant algaidd, sy’n nodwedd naturiol yn ein moroedd. Mae’r daflen hon yn esbonio beth yw gor-dyfiant algâu môr, sut y maen effeithio arnoch chi, a’r hyn y dylech ei wneud os welwch chi enghraifft ohono.
Beth yw algâu’r môr
Mae algâu’r môr yn byw yn naturiol mewn moroedd a chefnforoedd ledled y byd. Maent yn cynnwys gwymon a phlanhigion bach sy’n arnofio yn y dŵr.
Beth yw gor-dyfiant
Gelwir llawer o algâu yn yr un man, sy’n gwneud i ddŵr môr ymddangos fel petae wedi newid ei liw, yn or-dyfiant algâu.
Mae gor-dyfiant fel arfer yn cynnwys un rhywogaeth. Mae rhywogaethau gwahanol o algâu yn gor-dyfu ar adegau gwahanol o’r flwyddyn ac o dan amodau gwahanol.
Mae’r math – a’r nifer ohonynt – yn dibynnu ar olau’r haul, y tymheredd, a lefel y maetholion yn y dŵr.
Mae poblogaethau algâu’n dechrau gor-dyfu yn y gwanwyn, gan ymateb i dymereddau uwch a diwrnodach hirach. Maent yn tyfu’n gyflym yn ystod yr haf.
A yw gor-dyfiant algaidd yn niweidiol?
Mae’r rhan fwyaf o or-dyfiant algâu’r môr yn ddiniwed ac mae effeithiau niweidiol yn brin.
Mae gor-dyfiant o rywogaethau algaidd nad ydynt yn wenwynig yn fwy cyffredin na’r mathau gwenwynig.
Dyma’r rhai sydd fwyaf cyffredin i ddyfroedd Cymru, ac maent yn ddiniwed:
- Noctiluca scintillans - sy’n gwneud i’r dŵr ymddangos yn oren
- Phaeocystis pouchetii - un o’r algâu mwyaf cyffredin yn nyfroedd arfordirol Prydain. Mae’r gor-dyfiant yn ffurfio llysnafedd brown, ewynnog.
Gall gwyntoedd cryf droi’r algâu yn ewyn, sy’n gallu cyrraedd hyd at ddwy fetr o drwch ar wyneb y dŵr. Wedyn, yn aml byddant yn cael eu gwthio i’r lan lle maen nhw’n dadelfennu i greu llysnafedd brown, sy’n arogli ychydig fel carthion.
Fel arfer, niwsans yn unig yw gor-dyfiant sydd ddim yn wenwynig.
Fodd bynnag, gall rhai mathau o or-dyfiant algaidd effeithio ar bysgod a chreaduriaid morol eraill drwy gynhyrchu tocsinau sy’n gallu, os ydynt yn cael eu llyncu, cael effaith niweidiol ar bobl.
Dyma rai enghreifftiau:
- Gyrodinium aureolum – mae hwn yn gysylltiedig â physgod cregyn a marwolaethau pysgod, yn enwedig ar ffermydd pysgod morol. Mae’r rhywogaeth hon yn gwneud i’r dŵr ymddangos yn goch. Fe'i gelwir yn llanw coch ambell waith
- Chaetoceros – mae ganddynt bigynau sy’n gallu tagu a niweidio tegyll pysgod, gan arwain at farwolaethau ymhlith eogiaid sy’n cael eu magu mewn cewyll a rhywogaethau eraill
- Alexandrium and Dinophysis – gall y rhain halogi pysgod cragen, sydd wedyn yn gallu bod yn wenwynig i bysgod, adar a phobl
Mae Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) yn monitro pysgodfeydd masnachol am arwyddion o halogiad. Pan fo angen, byddant yn cymryd camau i atal pysgod cragen rhag cael eu trosglwyddo i’w bwyta gan bobl.
Gall gor-dyfiant algaidd sy’n pydru effeithio hefyd ar rywogaethau môr drwy leihau’r ocsigen yn y dŵr. Os yw’r algâu wedi cronni’n sylweddol mewn dŵr bas, mae’n gallu lladd pysgod a rhywogaethau eraill megis pryfaid genwair y traeth a draenogod môr.
Beth mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud?
Rydym yn gweithio gydag eraill i warchod yr amgylchedd a hybu mwynhad pawb o'n treftadaeth naturiol.
Mae hyn yn cynnwys monitro dyfroedd ymdrochi arfordirol rhwng mis Mai a mis Medi er mwyn gwirio’r ansawdd. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i hysbysu’r cyhoedd.
Beth allech chi ei wneud?
Ffoniwch ni i roi gwybod ynglŷn â digwyddiadau amgylcheddol ar ein llinell gymorth 0300 065 3000 (24 awr)
Unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni: Ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk