Penderfyniad Rheoleiddiol: Rheoli SoDdGA o gynllun Glastir i Gynlluniau Cynefin Cymru 2024 a 2025
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol i unrhyw berchennog neu feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a oedd yn destun contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin yn 2023, ac a oedd yn destun contract Cynllun Cynefin Cymru yn 2024 ac a fydd yn ymuno â Chynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2025, o 1 Ionawr 2025.
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2026 ac erbyn hynny bydd yn cael ei adolygu. Dylech wirio yn ôl bryd hynny i sicrhau bod y Penderfyniad Rheoleiddiol yn parhau i fod yn ddilys.
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- Rydych yn berchennog neu’n feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Roedd y tir yn destun contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin yn 2023
- Mae’r contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin hwnnw wedi dod i ben oherwydd ei fod wedi cyrraedd y dyddiad terfynu rhagnodedig
- Cafodd y tir ei ymrwymo i Gynllun Cynefin Cymru 2024
- Mae’r tir wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2025
Gall CNC dynnu’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol iddynt wedi newid.
Penderfyniad Rheoleiddiol
Daeth y cydsyniad SoDdGA i gynnal gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â’ch contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin i ben pan ddaeth y contract i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Gwnaethom gyhoeddi Penderfyniad Rheoleiddiol ar gyfer 2024 a oedd yn golygu, heb orfod cael cydsyniad ysgrifenedig gennym ni, eich bod yn gallu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ar SoDdGA fel rhan o Gynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2024.
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn golygu, heb orfod cael cydsyniad ysgrifenedig gennym ni, y byddwch yn gallu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ag a nodir yn eich contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin ar SoDdGA o 1 Ionawr 2025.
Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
- Bydd rheolaeth ar dir y SoDdGA yn parhau’n gwbl unol â’ch hysbysiad o fwriad a chydsyniad SoDdGA diweddaraf mewn perthynas â chontract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin
- Cyn cyflwyno unrhyw newid i reolaeth tir y SoDdGA, rhaid i chi ein hysbysu a chael cydsyniad o dan adran 28E o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Gorfodi
Nid yw’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael cydsyniad SoDdGA dilys i ymgymryd â gweithrediadau a restrir fel gweithrediad sy’n debygol o achosi niwed i ddiddordeb arbennig o fewn y SoDdGA(au) perthnasol ac a oedd yn rhan o’ch contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin yn 2023.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â’r angen am gydsyniad SoDdGA os ydych yn bodloni’r gofynion yn y Penderfyniad Rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd neu niweidio iechyd pobl, a rhaid iddo beidio â gwneud y canlynol:
- achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
- achosi niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig