Penderfyniad Rheoleiddiol: Rheoli SoDdGA lle nad oedd tir yn rhan o Gynllun Cynefin Cymru 2024 ond wedi ymrwymo i gynllun 2025

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol i unrhyw berchennog neu feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) nad oedd yn cael ei reoli’n flaenorol o dan gytundeb rheoli tir neu gynllun rheoli ond sydd bellach wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru 2025, o 1 Ionawr 2025.

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2026 ac erbyn hynny bydd wedi cael ei adolygu. Dylech wirio yn ôl bryd hynny i sicrhau bod y Penderfyniad Rheoleiddiol yn parhau i fod yn ddilys.

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • Rydych yn berchennog neu’n feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Ni chafodd y tir ei gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru 2024
  • Mae’r tir wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru 2025

Gall CNC dynnu’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol iddynt wedi newid.

Penderfyniad Rheoleiddiol

Mae Cynllun Cynefin Cymru 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i chi reoli eich tir cynefin o fewn SoDdGA yn unol â'r Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin a’r camau rheoli cynefinoedd sy’n berthnasol i’ch SoDdGA(au). Gall rheolaeth o’r fath fel arfer ofyn am gydsyniad SoDdGA gan CNC.

Mae’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn golygu y byddwch, heb orfod cael cydsyniad ysgrifenedig gennym ni, yn gallu ymgymryd â’r rheolaeth sy’n ofynnol i gydymffurfio â Chynllun Cynefin Cymru 2025.

Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

  • Ymgymerir â rheolaeth ar dir y SoDdGA yn unol â gofynion Cynllun Cynefin Cymru 2025, gan gynnwys y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin a’r camau rheoli cynefinoedd sy’n berthnasol i’ch SoDdGA(au)
  • Cyn ymgymryd ag unrhyw waith rheoli sydd y tu allan i ofynion Cynllun Cynefin Cymru 2025, rhaid i chi ein hysbysu a chael cydsyniad o dan adran 28E o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Gorfodi

Nid yw’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael cydsyniad SoDdGA dilys i ymgymryd â gweithrediadau a restrir fel gweithrediad sy’n debygol o achosi niwed i ddiddordeb arbennig o fewn y SoDdGA(au) perthnasol ac sy’n rhan o ganllawiau Cynllun Cynefin Cymru 2025.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â’r angen am gydsyniad SoDdGA os ydych yn bodloni’r gofynion yn y Penderfyniad Rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio â gwneud y canlynol:

  • achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
  • achosi niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Cysylltwch â'r tîm

WQBRA@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf