Penderfyniad rheoleiddio: Rheolaeth SoDdGA lle nad oedd y tir yn rhan o Gynllun Cynefin Cymru 2024, ond y bu’n rhan o Gynllun 2025 a bydd yn cael ei reoli o dan gytundeb blaenorol

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol i unrhyw berchennog neu feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) na chafodd ei reoli o dan Gynllun Cynefin Cymru 2024 ond sydd wedi’i reoli yn unol â chydsyniad, cynllun rheoli neu gytundeb SoDdGA (er enghraifft, contract Glastir Uwch neu gytundeb rheoli tir CNC) yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sy’n dyddio’n ôl tan 1 Ionawr 2020, ac y bydd yn cael ei ymrwymo i Gynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2025, o 1 Ionawr 2025.

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2026 ac erbyn hynny bydd wedi cael ei adolygu. Dylech wirio yn ôl bryd hynny i sicrhau bod y Penderfyniad Rheoleiddiol yn parhau i fod yn ddilys.

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • Rydych yn berchennog neu’n feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Ni chafodd y tir ei gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru 2024
  • Mae’r tir wedi’i reoli o dan gydsyniad SoDdGA, contract Glastir Uwch neu gytundeb rheoli tir CNC o fewn y pum mlynedd diwethaf sy’n dyddio’n ôl i 1 Ionawr 2020
  • Mae copi o’r cydsyniad, cynllun rheoli neu gytundeb rheoli SoDdGA perthnasol ar gael i chi ei archwilio
  • Mae’r tir wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru 2025

Gall CNC dynnu’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod angen gwneud hynny.Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn berthnasol iddynt wedi newid.
 

Penderfyniad Rheoleiddiol

Daeth y cydsyniad SoDdGA i gynnal gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â’ch contract Glastir Uwch i ben pan ddaeth y contract i ben ar neu cyn 31 Rhagfyr 2023, neu pan ddaeth eich cytundeb rheoli tir i ben.

Rydych wedi dewis cadw at delerau eich cydsyniad SoDdGA blaenorol, eich contract Glastir Uwch blaenorol neu’r cytundeb rheoli tir a roddodd CNC i chi yn hytrach na rheolau safonol Cynllun Cynefin Cymru 2025. Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn golygu, heb orfod cael cydsyniad ysgrifenedig gennym ni, y byddwch yn gallu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ar SoDdGA ag a nodwyd yn eich cydsyniad SoDdGA, contract Glastir Uwch neu gytundeb rheoli tir CNC blaenorol, hyd at 1 Ionawr 2026.

Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

  • Bydd rheolaeth ar dir y SoDdGA yn parhau’n gwbl unol â’ch hysbysiad o fwriad a chydsyniad SoDdGA diweddaraf sy’n ymwneud â chydsyniad SoDdGA annibynnol neu gontract Glastir Uwch neu gytundeb rheoli tir CNC a oedd yn ddilys ar unrhyw gyfnod o 1 Ionawr 2020 hyd yma
  • Cyn cyflwyno unrhyw newid i reolaeth tir y SoDdGA, rhaid i chi ein hysbysu a chael cydsyniad o dan adran 28E o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Gorfodi

Nid yw’r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael cydsyniad SoDdGA dilys i ymgymryd â gweithrediadau a restrir fel gweithrediad sy’n debygol o achosi niwed i ddiddordeb arbennig o fewn y SoDdGA(au) perthnasol, fel y nodir yn y contract Glastir Uwch sydd wedi dod i ben neu gytundeb rheoli tir neu gydsyniad SoDdGA a roddwyd gan CNC sydd wedi dod i ben.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â’r angen am gydsyniad SoDdGA os ydych yn bodloni’r gofynion yn y Penderfyniad Rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio â gwneud y canlynol:

  • achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
  • achosi niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Cysylltwch â'r tîm

WQBRA@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf