Os ydych am wneud newidiadau i'ch trwydded cwympo coed, bydd angen i chi wneud cais am ddiwygiad i'ch trwydded. Mae hyn ond yn berthnasol i bob cais am drwydded cwympo coed a dderbyniwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.

Gallwch wneud cais i wneud dau fath o newid i’ch trwydded cwympo coed:

  • newid gweinyddol
  • newid technegol

Os yw eich trwydded cwympo coed wedi'i diwygio gennym ni, darganfyddwch pam mae eich trwydded wedi'i diwygio a sut i apelio.

Gwneud cais am ddiwygiad gweinyddol i'ch trwydded

Gallwch wneud cais am newid gweinyddol i’ch trwydded cwympo coed os ydych yn newid:

  • enw neu gyfeiriad deiliaid y drwydded
  • enw masnachu deiliaid y drwydded
  • enw cofrestredig cwmni neu gyfeiriad cofrestredig swyddfa
  • mae deiliaid y drwydded wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
  • mae gan y cwmni drefniant gwirfoddol neu'n cau
  • marwolaeth unrhyw un o ddeiliaid y drwydded (os yw deiliaid y drwydded yn cynnwys mwy nag un unigolyn a enwir)
  • mae deiliaid y drwydded yn mynd yn fethdalwyr
  • mae deiliaid y drwydded yn ymrwymo i gytundeb neu drefniant gyda chredydwyr
  • mae deiliaid y drwydded yn diddymu'r bartneriaeth

Bydd angen i chi wneud cais i ni o fewn yr amserlenni canlynol:

  • safleoedd gweithredol - o fewn 14 diwrnod i'r newid
  • safleoedd anweithredol – 28 diwrnod cyn dechrau’r gwaith

Ein nod yw cydnabod ein bod wedi derbyn eich ffurflen gais ar gyfer diwygio o fewn tri diwrnod gwaith.

Os byddwn yn cael yr holl wybodaeth yn gywir, byddwn yn ceisio cwblhau'r newid gweinyddol (atodlen A) i'ch trwydded o fewn 10 diwrnod gwaith.  Byddwn yn cyhoeddi hysbysiad diwygio pan fydd y newid wedi’i wneud i’r drwydded.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r cais diwygio, gallai hyn fod yn dystiolaeth ar gyfer y newid o ran perchnogaeth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais am newidiadau i'r drwydded cwympo coed

Gwneud cais am newid technegol i'ch trwydded

Mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn ystyried ceisiadau i wneud diwygiad technegol i drwydded cwympo coed gymeradwy.

Rhaid i bob newid technegol i'ch trwydded ddilyn y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a Safon Coedwigaeth y DU

Byddwn yn ystyried ceisiadau i ddiwygio trwydded cwympo coed os bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • dileu, ychwanegu, neu ddiwygio amod amgylcheddol. Fel deiliad Trwydded Cwympo Coed gymeradwy, gallwch ofyn i amod amgylcheddol gael ei ychwanegu neu ei amrywio yn y Drwydded.
  • gwneud mân newidiadau i ardal cwympo coed
  • gwneud mân newidiadau i niferoedd a/neu gyfaint coed
  • mân ddiwygiad i'r rhywogaethau o goed, sy'n cyd-fynd â Safon Coedwigaeth y DU
  • Newidiadau mewn amcanion sy'n lliniaru heriau sy’n deillio o argyfyngau’r hinsawdd a natur
  • ymestyn hyd y cyfnod cwympo coed, i uchafswm o ddau dymor cwympo coed
  • ymestyn y terfyn amser ar gyfer ailstocio os bu tywydd eithriadol
  • Newidiadau i amodau er budd rhywogaethau a chynefinoedd

Efallai na fyddwn yn caniatáu’r canlynol:

  • dileu amodau lle nad yw sefyllfa'r safle wedi newid ers i'r cais gael ei ystyried a'i gymeradwyo
  • cynnwys ardal na fyddai wedi’i chymeradwyo fel rhan o’r cais cychwynnol am drwydded

Efallai y bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau canlynol:

  • mapiau cwympo neu ailstocio newydd, fel y bo'n briodol
  • unrhyw arolygon ecolegol neu arolygon o’r safle i gefnogi'r cais am ddiwygiad, fel y bo'n briodol

Os dymunwch wneud cais am newid i'ch trwydded, bydd angen i chi ddarllen y canllawiau manwl hyn.

Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich ffurflen gais ddiwygiedig o fewn tri diwrnod gwaith.

Os byddwn yn cael yr holl wybodaeth yn gywir, byddwn yn ceisio cwblhau'r newid technegol (atodlen B) i'ch trwydded o fewn 60 diwrnod gwaith. Bydd hyn yn dibynnu ar gymhlethdod y cais am ddiwygiad.

Os byddwn yn diwygio eich trwydded, byddwn yn rhoi hysbysiad diwygio i chi, sy'n nodi'r newidiadau i'ch trwydded.

Cysylltwch â ni os hoffech ddiwygio'ch trwydded cwympo coed.

Diweddarwyd ddiwethaf