Buddion plannu coed a chreu coetir

Mae plannu coed yn gallu cynnig buddion ar gyfer eich tir neu’r gymuned leol ac ar gyfer bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar fferm neu ardal eang o dir i blannu coed. Gall un goeden neu grŵp bach o goed wneud gwahaniaeth positif i’ch gweithle, cartref, ysgol neu gymuned.

Buddion coetir i’ch fferm ac i’ch busnes

Gall plannu coed gynnig buddion i’ch fferm a’ch tir gan gynnwys:

  • ynysu rhag sŵn
  • darparu preifatrwydd
  • creu cysgod ar gyfer da byw ac adeiladau
  • gwella systemau cynhyrchu da byw
  • lleihau effaith y gwynt
  • rheoli perygl llifogydd
  • lleihau eich ôl troed carbon
  • darparu cynnyrch pren fel pyst ffensio, giatiau a thanwydd
  • lleihau erydiad pridd
  • helpu i atal tir rhag mynd yn ddwrlawn

Os ydy'ch fferm hefyd yn fusnes, gall creu coetir hefyd gynnig cyfleoedd newydd trwy:

  • werthu pren, cynnyrch pren neu goed tân
  • saethu adar hela / anifeiliaid hela
  • twristiaeth ar y fferm

Y Cod Carbon Coetiroedd

Mae'r Cod Carbon Coetiroedd yn safon wirfoddol ar gyfer prosiectau creu coetiroedd. 

Dim ond trwy blannu coetir newydd a chofrestru eich prosiect cyn i unrhyw waith ddechrau y gellir cynhyrchu unedau carbon coetir.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai ffermwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir yng Nghymru sy'n dymuno cynhyrchu a gwerthu unedau carbon mewn coetiroedd ddefnyddio'r Cod Carbon Coetiroedd.

Os gallwch ddangos eich bod yn cyrraedd y safon hon, gallwch werthu'r carbon sydd yn eich coetir ar ffurf Unedau Carbon Coetiroedd.

Buddion coetir i’ch cymuned leol

Mae coetiroedd yn gallu helpu i wella iechyd a lles. Maen nhw’n cynnig lleoliadau ar gyfer chwarae, addysg a dysgu, gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau cymunedol. Mae prosiectau coetir cymunedol yn ffordd wych i bobl a busnesau lleol ddod at ei gilydd i greu coetir yn eu hardal leol.

Buddion coetir i fywyd gwyllt

Mae coetiroedd yn darparu cynefin cyfoethog ar gyfer planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys peillwyr a rhywogaethau prin.

Buddion coetir i’r amgylchedd

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 a 180,000 hectar erbyn 2050 i helpu Cymru i gyflawni targedau lleihau allyriadau carbon. Mae hwn yn cyfateb i blannu o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn. 

Mae coetiroedd yn gwella ansawdd yr amgylchedd gan eu bod yn:

  • helpu i ddiogelu ansawdd cyflenwadau dŵr yfed
  • rheoli llifogydd
  • amsugno llygryddion niweidiol a gwella ansawdd yr aer
  • cynnig cysgod ac yn amsugno sŵn
  • sefydlogi priddoedd, lleihau erydiad a thirlithriadau

Plannwch goed i greu coetir

Gallwn eich helpu i ddechrau plannu coed a chreu’ch coetir eich hun. Gall Llywodraeth Cymru a Coed Cadw hefyd ddarparu grantiau a rhagor o gymorth.

Diweddarwyd ddiwethaf