Gweld a oes angen trwydded bywyd gwyllt arnoch yn ystod gweithrediadau coedwig

Rhaid ystyried bywyd gwyllt, cynefinoedd a phlanhigion prin os ydych yn:

  • cwympo coed mewn coetir neu goedwig
  • creu neu reoli coetir neu goedwig

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded rhywogaeth a warchodir cyn y gallwch wneud unrhyw waith.

Gallwn eich helpu i gymryd y rhagofalon angenrheidiol, cydymffurfio â'r gyfraith a gwneud cais am y trwyddedau y gallai fod eu hangen arnoch.

Os ydych yn bwriadu torri coed, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded cwympo coed hefyd.

Gwarchod adar gwyllt ac adar sy'n nythu

Mae'r gyfraith yn amddiffyn pob aderyn gwyllt, eu nythod, a'u hwyau.

Mae'n drosedd gwneud y canlynol yn fwriadol neu'n ddi-hid:

  • lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt
  • cymryd, difrodi, neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bo'r nyth hwnnw'n cael ei ddefnyddio neu'n cael ei adeiladu
  • cymryd neu ddinistrio wy unrhyw aderyn gwyllt
  • meddu ar unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw neu wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw ran o aderyn byw neu farw

Gall unrhyw weithrediadau coedwig neu goetir, fel torri coed, darfu ar adar gwyllt ac adar sy'n nythu. Rhaid i chi archwilio'r holl ardaloedd cwympo coed cyn dechrau unrhyw waith.

Mae adar gwyllt a'u hwyau yn fwyaf agored i aflonyddwch yn gynnar yn y tymor bridio.

Mae'r gyfraith yn gwarchod nythod Gweilch y Pysgod, Eryrod Môr ac Eryrod Euraid trwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed pan nad yw'r nythod yn cael eu defnyddio.

Rhaid i chi osod y parth clustogi mwyaf sy’n ofynnol o amgylch yr adar gwyllt a'u nythod wrth gynnal eich gwaith cwympo coed. 

Edrychwch ar y parthau clustogi ar gyfer pob aderyn gwyllt.

Trwyddedau adar

Rydym yn rhoi trwyddedau cyffredinol sy'n eich galluogi i gynnal rhai gweithgareddau sy'n effeithio ar adar gwyllt. Os nad yw trwydded gyffredinol yn cynnwys eich gweithgaredd, gallwch wneud cais am drwydded adar at ddiben penodol

Gwarchod bywyd gwyllt

Os ydych yn cynnal unrhyw weithrediadau coed neu goetir a allai effeithio ar fywyd gwyllt neu eu mannau gorffwys, bydd angen trwydded rhywogaeth a warchodir arnoch.

Os oes gennych unrhyw un o'r rhywogaethau bywyd gwyllt hyn yn eich coetir neu goedwig, darllenwch ein canllawiau am yr hyn y dylech ei wneud:

Gwarchod planhigion prin

Mae rhai rhywogaethau planhigion y gellir eu canfod mewn coetiroedd yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Dyma'r mathau o rywogaethau planhigion prin gwarchodedig y gall gweithrediadau coedwig effeithio arnynt:

  • Tegeirian y Fign Galchog
  • Llyriad-y-Dŵr Arnofiol
  • Rhedynen Cilarne
  • Tafolen y Traeth

Os ydych yn gwneud unrhyw waith coedwig neu waith coetir, neu os yw eich gwaith yn effeithio ar unrhyw blanhigion prin, bydd arnoch angen trwydded rheoli coedwigaeth neu goetir.

Trwydded rheoli coedwigaeth neu goetir

Gallwch wneud cais am drwydded rhywogaeth a warchodir os ydych yn gweithio mewn coetir neu goedwig ac yn bwriadu:

  • lladd
  • anafu
  • dal
  • tarfu
  • cludo
  • difrodi neu ddinistrio safle magu neu fan gorffwys

Gwneud cais am drwydded rheoli coedwigaeth neu goetir

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais am drwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf