Cymorth i blannu coed a chreu coetir

Os ydych chi’n newydd i blannu coed, gallwch dderbyn cyngor gan nifer o sefydliadau, gan ein cynnwys ni.

Os hoffech gymorth a chefnogaeth gyda chreu eich coetir, cysylltwch â ni.

Plannu coeden unigol

Gall pob aelwyd yng Nghymru dderbyn coeden am ddim i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Gallwch ymgeisio am goeden am ddim gan Coed Cadw. Os nad oes lle gennych i blannu coeden, gellir plannu coeden ar eich rhan.

Os ydych chi’n plannu coeden unigol yn eich gardd neu ar ddarn arall o dir, bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • os ydych chi’n plannu coed yn agos at unrhyw adeiladau, ystyriwch faint y goeden ar ôl iddi dyfu’n llawn
  • os mae gwreiddiau a brigau’n lledaenu ymhell, gallant achosi difrod strwythurol
  • peidio â thyfu coed mewn potiau gan y byddant yn tyfu’n rhy fawr iddynt ac yn profi straen wrth gael eu symud yn ddiweddarach

Mae gan Coed Cadw gyngor da ar gyfer y coed a’r llwyni Prydeinig gorau ar gyfer gerddi.

Caniatâd i blannu eich coetir

Cyn gallu plannu unrhyw goed, bydd angen i chi sicrhau’r canlynol:

Os nad ydych yn berchen ar y tir, bydd angen caniatâd perchennog cyfreithlon y tir arnoch i blannu eich coed. Gallwch ddod o hyd i berchennog y tir ar wefan y Gofrestrfa Tir.

Mae’n bosibl y bydd angen trwydded amgylcheddol arnoch gennym ni cyn y gallwch ddechrau plannu unrhyw goed.

Plannu ar dir cyhoeddus

Os ydych chi’n dymuno plannu coed ar dir cyhoeddus, cysylltwch â ni am gyngor ac arweiniad.

Grantiau ar gyfer plannu coed a chreu coetiroedd

Mae grantiau ar gael ar gyfer plannu coed a chreu coetir. Gallwch ddefnyddio’r grantiau i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich coetir newydd. Mae’r grantiau ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch hefyd dderbyn coed a grantiau gan Coed Cadw os ydych chi:

  • yn plannu coeden unigol neu ychydig o goed
  • yn rhan o grŵp cymunedol
  • yn ysgol
  • yn ffermwr

Cysylltwch â ni

Os hoffech unrhyw gymorth pellach gyda chreu eich coetir, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf