System brynu ddeinamig

Rydym yn gweithredu system brynu ddeinamig er mwyn caffael gwasanaeth cynaeafu cynhyrchu uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys cwympo, prosesu ac alldynnu coed at ochr y ffordd. Mae'r rhain yn cael eu gwneud yn ôl manyleb coed, i gefnogi contractau coed ar ochr y ffordd.  

Mae hwn yn waith adweithiol, yn ôl yr angen, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol ac yn darparu gwasanaeth cynaeafu ar gyfer Cymru gyfan. 

Contractau cynaeafu

Mae contract cynaeafu unigol yn cynrychioli un neu fwy o lennyrch o fewn ardal ddaearyddol, fel arfer rhwng 1,000 a 10,000 m3obs. 

Gall y contract fod ar gyfer:

  • Llwyrgwympo neu deneuo, a chwmpasu'r holl ddulliau gweithio gan gynnwys cwympo â llaw, cynaeafwr/cludwr (forwarder), a systemau rhaff wifren.
  • Gall hefyd gynnwys gwasanaethau taenu tomwellt/rheoli llystyfiant mecanyddol yn barod i ymateb i waredu coed â diamedr llai sydd wedi’u heintio (Phytophthora/Chalara/Dothistroma).  

Gallai un contract ofyn am gyfuniad o ddulliau gweithio i gwblhau ardal y contract.

O fewn y llennyrch gofynnol, mae angen i gontractwyr gynllunio gweithrediadau cynaeafu a pharatoi Datganiad Dull ac Asesiad Risg manwl ar gyfer yr holl weithgareddau cynaeafu.

Mae angen cwblhau'r rhain fel eu bod yn bodloni’r rheolwr Contractau Cynaeafu.

Sut i ymuno â'r rhestr o gyflenwyr

Bydd angen i chi gwblhau'r holiadur Cyn-Cymhwyso. Nid oes cyfyngiad ar nifer y cyflenwyr y gellir eu hychwanegu, ar yr amod eu bod wedi pasio'r cam cyn-cymhwyso. 

Gellir dod o hyd i'r Holiadur Cyn-Cymhwyso (PQQ) ar Bravo e-dendr Cymru.

  • Teitl y Prosiect:  Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - System Brynu Ddeinamig
  • Rhif y Prosiect: 42243
  • Cyf PQQ: 32927 – Cyfnod Ymuno Parhaus

Dyfarnu contractau – y cam dyfarnu Tendrau Mini

Rydym yn dyfarnu contractau unigol yn ystod yr ail gam (dyfarnu) 'Tendrau Mini’. Byddwn yn gwahodd pob cyflenwr ar y system brynu ddeinamig yn y lot benodol honno i wneud cais am gontract penodol.  

Bydd disgwyl i gyflenwyr gyflwyno cais gan gynnwys meini prawf ansawdd a phris fesul tunnell am y llannerch.

Strategaeth lotio

Mae'r system brynu ddeinamig wedi'i rhannu'n dair lot, fel y dangosir isod.  Does dim cyfyngiad ar y nifer o lotiau y gall cyflenwyr wneud cynnig amdanynt.

  1. Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - gogledd ddwyrain a gogledd orllewin Cymru
  2. Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - canolbarth Cymru
  3. Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - de orllewin, canol de a de ddwyrain Cymru

Hyd y system brynu ddeinamig

Bydd y System Brynu Ddynamig (DPS) bresennol yn rhedeg am ddwy flynedd ychwanegol hyd 12 Chwefror 2026. Bydd unrhyw estyniad pellach yn digwydd fel y gwelwn orau.

Diweddarwyd ddiwethaf