Cofrestrfa Masnachu Allyriadau'r DU a Dyrannu Lwfansau Am Ddim

Cofrestrfa Masnachu Allyriadau’r DU

Mae Cofrestrfa Masnachu Allyriadau’r DU yn gweithredu mewn ffordd debyg i gyfrif banc ar-lein. Mae'r Gofrestrfa yn rhaglen ddiogel ar y we sy'n gweithredu fel Cofrestrfa Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (Cofrestrfa ETS y DU) sy'n dal lwfansau, a Chofrestrfa Protocol Kyoto’r DU sy'n dal unedau rhyngwladol.

Mae cofnodion Cofrestrfa ETS y DU yn cynnwys y canlynol:

  • lwfansau a ddelir mewn Cyfrifon Daliannol Gweithredwyr (OHA), Cyfrifon Daliannol Gweithredwyr Awyrennau (AOHA), Cyfrifon Masnachu a Chyfrifon Llywodraeth
  • symudiad lwfansau rhwng cyfrifon a manylion allyriadau a lwfansau wedi'u dilysu a ildiwyd gan weithredwyr
  • materion yn ymwneud â dyrannu lwfansau am ddim i Gyfrifon Daliannol Gweithredwyr a Chyfrifon Daliannol Gweithredwyr Awyrennau

Mae cofnodion Cofrestrfa Protocol Kyoto’r DU yn cynnwys y canlynol:

  • daliadau o unedau rhyngwladol mewn cyfrifon
  • trosglwyddiadau uned rhyngwladol

Cyfrif Daliannol Gweithredwr (OHA) a Chyfrif Daliannol Gweithredwr Awyrennau

Rhaid i weithredwyr gosodiadau gael Cyfrif Daliannol Gweithredwr (OHA) yn y Gofrestrfa i gaffael ac ildio lwfansau yn unol â'u rhwymedigaethau’n ymwneud ag ETS y DU. Rhaid i weithredwyr awyrennau gael Cyfrif Daliannol Gweithredwr Awyrennau (AOHA).

Gellir defnyddio OHAau ac AOHAau hefyd i fasnachu lwfansau ym marchnadoedd ETS y DU.

Unwaith y bydd eich trwydded neu gynllun monitro allyriadau wedi'i gyhoeddi gan eich rheoleiddiwr, bydd yn cyfarwyddo Gweinyddwr y Gofrestrfa i agor OHA, neu AOHA i chi. Bydd Gweinyddwr y Gofrestrfa yn cysylltu â chi a gofynnir i chi ddarparu manylion prif gyswllt (sydd ag awdurdod i roi cyfarwyddiadau i Weinyddwr y Gofrestrfa ar eich rhan), a hefyd i enwebu cynrychiolwyr awdurdodedig i weithredu eich OHA, neu AOHA ar eich rhan.

Cyfrifon Masnachu

Mae cyfrifon masnachu ETS y DU ar gael ar gyfer dal a masnachu lwfansau’r DU fel gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â chydymffurfedd ETS y DU. Ni ellir defnyddio cyfrifon masnachu ar gyfer cydymffurfedd ETS y DU, ond gall gweithredwyr ddefnyddio eu OHAau ac AOHAau i fasnachu.

I agor cyfrif masnachu, yn gyntaf rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth, ac yna gofyn am gyfrif masnachu. Bydd Gweinyddwr y Gofrestrfa wedyn yn cysylltu â chi i'ch arwain trwy weddill y broses.

Mae angen o leiaf dau gynrychiolydd awdurdodedig cofrestredig ar gyfrifon masnachu i weithredu'r cyfrif.

Cyfrifon Daliannol Person

Defnyddir y Gofrestrfa hefyd i gynnal Cofrestrfa Protocol Kyoto’r DU, ac mae Cyfrifon Daliannol Person ar gael i wneud cais amdanynt os oes angen i chi ddal neu fasnachu unedau rhyngwladol.

Agor Cyfrif Cofrestrfa'r DU

Mae agor cyfrif Cofrestrfa'r DU a dilysu unigolion yn cynnwys yr un lefel o graffu ag agor cyfrif banc. Bydd hyn yn cynnwys gofyn am unrhyw wybodaeth bellach i fodloni Gweinyddwr y Gofrestrfa eich bod yn berson addas a phriodol i ddal cyfrif neu i weithredu fel cynrychiolydd awdurdodedig mewn perthynas â chyfrif. Felly, gall y broses hon gymryd hyd at ddau fis (ac yn hwy mewn rhai achosion).

Darllenwch ganllawiau ar y dogfennau sydd eu hangen i agor cyfrif Cofrestrfa.

Gwneud cais am fynediad i'r Gofrestrfa.

Dyraniad Lwfansau am Ddim

Bydd dyrannu lwfansau am ddim i weithredwyr gosodiadau a gweithredwyr awyrennau cymwys yn parhau, er mwyn lleihau’r risg o ollyngiadau carbon i fusnesau’r DU.

Mae'r dull cychwynnol o ddyrannu am ddim yn ETS y DU yn debyg i ddull yr UE ar gyfer Cam IV o ETS yr UE. Mae hyn yn sicrhau parhad i fusnesau yn y rhan hon o'r cynllun. Mae'r meincnodau a ddefnyddir i gyfrifo hawl i ddyrannu am ddim yr un fath â Cham IV o ETS yr UE.

Mae deddfwriaeth sy'n cwmpasu dyrannu am ddim yng Ngorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2020 a ddaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

Dyraniad Am Ddim i weithredwyr gosodiadau

Bydd dyraniadau am ddim ar gael i weithredwyr gosodiadau cymwys a wnaeth gais am ddyraniad lwfansau am ddim ar gyfer y cyfnod dyrannu 2021 i 2025 ac ar gyfer newydd-ddyfodiaid i ETS y DU. Awdurdod ETS y DU fydd yn penderfynu ar ddilysrwydd y cais am ddyraniad am ddim.

Cyhoeddir dyraniad am ddim pob gosodiad mewn Tabl Dyraniad unwaith y bydd wedi'i gyfrifo gan y rheoleiddwyr a'i gymeradwyo gan awdurdod ETS y DU.

Mae Tabl Dyraniad ETS y DU ar gyfer gweithredwyr gosodiadau yn cynnwys rhestr o ddyraniad am ddim pob gosodiad ar gyfer y cyfnod dyrannu 2021 i 2025. Mae'n cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd.

Cafodd y meincnodau diwydiant a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau am ddim eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 12 Mawrth 2021.

Adroddiadau Lefel Gweithgarwch a newidiadau i ddyraniadau

Os ydych wedi'ch cynnwys yn y Tabl Dyraniad, rhaid i chi gyflwyno Adroddiad Lefel Gweithgarwch (ALR) wedi'i dilysu i'ch rheoleiddiwr ETS y DU. O 2022 ymlaen, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r adroddiadau hyn yw 31 Mawrth ym mhob blwyddyn galendr.

Os yw’r data yn eich Adroddiad Lefel Gweithgarwch yn dangos cynnydd neu ostyngiad mewn gweithgarwch o fwy na 15% o’i gymharu â lefelau gweithgarwch hanesyddol (a gyfrifwyd o lefelau gweithgarwch y ddwy flynedd flaenorol), bydd eich dyraniad lwfansau am ddim yn cael ei ail-gyfrifo.

Mae eich rheoleiddiwr yn ailgyfrifo'r dyraniad lwfansau am ddim yn unol â'r Rheoliad Newid Lefel Gweithgarwch. Awdurdod ETS y DU sy'n cymeradwyo'r dyraniad terfynol.

Pan fydd wedi’i gymeradwyo, bydd eich rheoleiddiwr yn rhoi gwybod i chi am newidiadau i'ch dyraniad lwfansau am ddim terfynol.

Yna bydd unrhyw newidiadau i'r dyraniad lwfansau am ddim yn seiliedig ar Adroddiadau Lefel Gweithgarwch yn cael eu cyhoeddi yn y Tabl Dyraniad wedi'i ddiweddaru.

Mae'n bosibl y bydd rhai enghreifftiau o ddiwygiadau i ddyraniadau am ddim yn cael eu prosesu yn ddiweddarach. Ni fyddant yn cael eu hadlewyrchu yn y Tabl Dyraniad cyhoeddedig hyd nes y cânt eu cymeradwyo gan yr Awdurdod. Cysylltir â chi os yw hyn yn wir yn eich achos chi. Efallai y bydd rhai lwfansau yn cael eu dal yn ôl ac os felly bydd eich rheoleiddiwr yn rhoi gwybod i chi.

Bydd unrhyw gynnydd mewn dyraniad yn cael ei ddyrannu i Gyfrifon Daliannol Gweithredwyr yn y Gofrestrfa yn unol â'r tabl dyraniad wedi'i ddiweddaru, a bydd unrhyw ostyngiadau mewn hawl yn golygu bod rhaid i chi ddychwelyd unrhyw ddyraniadau gormodol a ddyrannwyd i chi o'ch Cyfrif Daliannol Gweithredwr. Bydd eich rheoleiddiwr yn cadarnhau p’un a oes angen i chi ddychwelyd unrhyw lwfansau.

Byddwch yn gallu cael mynediad at eich Adroddiad Lefel Gweithgarwch wedi'i ddiweddaru gan ETSWAP yn dilyn adolygiad eich rheoleiddiwr. Bydd yr Adroddiad Lefel Gweithgarwch hwn yn cynnwys meincnodau wedi'u diweddaru ac unrhyw newidiadau eraill y cytunwyd arnynt gyda'ch rheoleiddiwr a dylid ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Rhaid i chi ddefnyddio'r templed adroddiad dilysu ar gyfer dilysu eich data lefelau gweithgarwch. Rhaid i chi gyflwyno'r templed adroddiad dilysu wedi'i gwblhau i'ch rheoleiddiwr gyda'ch Adroddiad Lefel Gweithgarwch.

Dyraniad am ddim o 2022

Yn 2022 a phob blwyddyn gynllun wedi hynny, bydd dyraniad am ddim yn cael ei ddyrannu ar neu cyn 28 Chwefror o bob blwyddyn galendr. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Adroddiadau Lefel Gweithgarwch wedi'u dilysu yw 31 Mawrth o bob blwyddyn galendr.

 

Ffactor cywiro trawstoriadol

Mae Awdurdod ETS y DU wedi penderfynu na fydd unrhyw ffactor cywiro trawstoriadol yn cael ei gymhwyso ar gyfer cyfnod dyrannu 2021-2025.

 

Dyraniad am ddim i weithredwyr awyrennau

Mae dyraniad am ddim ar gael i bob gweithredwr awyrennau cymwys a wnaeth gais am ddyraniad lwfansau am ddim o dan ETS y DU yn ystod 2021.

Mae Tabl Dyraniad Hedfan ETS y DU yn cynnwys rhestr o hawl dyraniad am ddim pob gweithredwr awyrennau ar gyfer cyfnod dyrannu 2021 i 2025. Gall y tabl hwn newid a dylid trin y blynyddoedd 2023-2025 fel rhai dangosol, wrth aros am ganlyniad yr adolygiad parhaus o ddyraniadau am ddim. Bydd lwfansau ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol yn cael eu dyrannu i weithredwyr awyrennau cymwys ar neu cyn 28 Chwefror.

Arwerthiannau ETS y DU a gweithrediad y farchnad

Arwerthu fydd y prif ddull o gyflwyno lwfansau i'r farchnad o hyd. Bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu masnachu lwfansau ar farchnad eilaidd.

Gweler Marchnadoedd Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU <https://www.gov.uk/government/publications/uk-emissions-trading-scheme-markets> am wybodaeth gefndir am weithrediad marchnadoedd ETS y DU.

Mae canllawiau manwl i weithredwyr a masnachwyr sy’n dymuno masnachu yn arwerthiannau ETS y DU a’r farchnad eilaidd yma: Cymryd rhan ym marchnadoedd Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU <https://www.gov.uk/government/publications/taking-part-in-the-uk-emissions-trading-scheme-markets/taking-part-in-the-uk-emissions-trading-scheme-markets>.

Diweddarwyd ddiwethaf