Taliadau trwyddedau ar gyfer cyfleusterau sy’n cyflawni prosesau diwydiannol a gweithgynhyrchu (a elwir yn osodiadau)
Mae angen i chi dalu tâl pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded amgylcheddol newydd, neu os ydych am newid eich trwydded, ei throsglwyddo neu ei hildio. Mae angen i chi hefyd dalu tâl blynyddol i dalu costau cydymffurfedd.
Mae dau fath o dâl: amrywiadwy ar gyfer ceisiadau cymhleth, a sefydlog ar gyfer ceisiadau symlach â risg is.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael trwydded amgylcheddol effaith isel
Offeryn tâl ar gyfer ceisiadau trwydded cymhleth
Gallwch ddefnyddio'r offeryn tâl i gyfrifo'r gost ar gyfer yr holl weithgareddau yn eich cais
Defnyddiwch yr offeryn tâl ar gyfer cais newydd
Defnyddiwch yr offeryn tâl i amrywio trwydded
Defnyddiwch yr offeryn tâl i ildio trwydded
Defnyddiwch yr offeryn tâl i drosglwyddo trwydded
Mae'r taliadau cais am amrywiad gweinyddol, mân amrywiad technegol, trosglwyddiad llawn ac ildio risg isel yr un fath ar gyfer pob cais. Nid oes angen i chi ddefnyddio'r offeryn tâl ar gyfer y rhain.
Tâl blynyddol (a elwir yn dâl parhau)
Codir tâl blynyddol sefydlog am y gweithgareddau canlynol:
- Gosodiad effaith isel – £563
- Injan nwy tirlenwi annibynnol – £3,670
- Gosodiad ffermio dwys – £1,119 (achrededig) neu £2,669 (heb ei achredu)
- Gweithgarwch sy’n uniongyrchol gysylltiedig – £3,670
- Cynhyrchu hydrogen trwy electroleiddio dŵr (graddfa fach) – £920
- Treulio anaerobig – £2,194
Mae taliadau blynyddol am drwyddedau cymhleth yn seiliedig ar risgiau gweithredol.
Bydd angen i chi gwblhau ein taenlen Asesiad Risg Gweithredol i gyfrifo faint y codir tâl arnoch.
Bydd angen i chi gwblhau’r daenlen Asesiad Risg Gweithredol yn flynyddol.
Trwyddedau gosodiad pwrpasol
Mae taliadau ymgeisio yn dibynnu ar raddfa, cymhlethdod a nifer y gweithgareddau yn eich gweithrediad.
Mae trwyddedau cymhleth yn perthyn i bedwar band yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich gweithrediad. Yn gyffredinol, os ydych yn cyflawni:
- llai na thri gweithgaredd, dylech fod yn gymwys ar gyfer band 1
- bydd tri i chwe gweithgaredd yn eich rhoi ym mand 2 fwy na thebyg
- bydd mwy na chwe gweithgaredd yn drwydded band 3 bwrpasol
- gall cymhlethdod ychwanegol fod yn fand 4
Cwblhewch yr offeryn tâl i ddarganfod yr union gost, gan gynnwys yr holl ffactorau.
Band 1 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £13,609
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £2,693 (mân amrywiad technegol), £8,967 (arferol), £13,035 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £5,238 (yn rhannol), £2,680 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £6,692 (yn rhannol), £5,812 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,693
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,218
Band 2 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £20,470
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £2,693 (mân amrywiad technegol), £11,413 (arferol), £19,635 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £7,243 (yn rhannol), £2,680 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £9,166 (yn rhannol), £8,369 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,693
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,218
Band 3 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £32,718
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £2,693 (mân amrywiad technegol), £19,580 (arferol), £31,395 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £11,842 (yn rhannol), £2,680 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £18,349 (yn rhannol), £14,731 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,693
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,218
Band 4 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £44,850
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £2,693 (mân amrywiad technegol), £35,132 (arferol), £42,687 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £14,638 (yn rhannol), £2,680 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £24,297 (yn rhannol), £20,559 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,693
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,218
Gweithgareddau cyfarpar hylosgi canolig ar gyfer gosodiadau
Os oes gennych gyfarpar hylosgi canolig ynghlwm wrth eich gosodiad, codir tâl arnoch am y gweithgareddau ychwanegol hyn.
Cais newydd: £1,626
Amrywio trwydded bresennol: £976
Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol
Ildio eich trwydded: £976
Gweithgarwch awdurdodau lleol (gweithgarwch Rhan A2 neu Ran B) ar osodiadau
Os oes gennych weithgarwch Rhan A2 neu Ran B ar eich gosodiad, codir tâl am y gweithgareddau ychwanegol hyn:
Cais newydd: £1,626
Amrywio trwydded bresennol: £995
Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol
Ildio eich trwydded: £976
Gweithgareddau gwastraff ar osodiad
Os byddwch yn cyflawni gweithgareddau gwastraff ar eich gosodiad, codir 20% o'r tâl annibynnol arnoch am drwydded gwastraff.
Cais newydd: £1,943
Amrywio trwydded bresennol: £1,613
Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol
Ildio eich trwydded: Dim tâl ychwanegol
Asesiadau ychwanegol
Fel rhan o'ch cais am drwydded gosodiad, byddwch yn cynnal ymarfer sgrinio. Yn dibynnu ar ganlyniadau'r sgrinio, efallai y bydd angen i chi gynnal un o'r asesiadau pellach isod.
Asesiad modelu ansawdd aer llawn: £2,692
Asesiad allyriadau sy’n ffoi: £1,657
Asesiad arogl: £1,619
Asesiad modelu bioaerosol: £3,380
Asesiad effaith modelu sŵn llawn: £2,425
Cynllun atal a lliniaru tân: £2,343
Blaendal ar gyfer asesiad adfer: £1,734
Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o elifyn prosesau: £3,222
Taliadau ymgeisio am osodiadau risg is
Trwyddedau rheolau safonol effaith isel (SR2009 rhif 2)
Cais newydd: £4,429
Amrywio trwydded bresennol: £613
Trosglwyddo eich trwydded: £2,100 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)
Ildio eich trwydded: £258 (ildio’n rhannol neu’n llawn)
Rheolau safonol ar gyfer treulio anaerobig
Cais newydd: £4,646
Amrywio trwydded bresennol: £613
Trosglwyddo eich trwydded: £2,100 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)
Ildio eich trwydded: £258 (ildio’n rhannol neu’n llawn)
Injan nwy tirlenwi annibynnol
Cais newydd: £12,989
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £1,891 (mân amrywiad technegol), £7,916 (arferol), £11,683 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £3,996 (yn rhannol), £2,533 (trosglwyddo’n llawn)
Ildio eich trwydded: £2,533 (yn rhannol), £1,774 (ildio’n llawn)
Trwydded bwrpasol ar gyfer gosodiadau effaith isel
Cais newydd: £7,278
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £1,035 (mân amrywiad technegol), £4,424 (arferol), £6,544 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £3,996 (yn rhannol), £2,533 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £2,533 (yn rhannol), £1,774 (yn llawn)
Gosodiad ffermio dwys
Cais newydd: £9,549
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £2,693 (mân amrywiad technegol), £5,841 (arferol), £7,639 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £2,680 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)
Ildio eich trwydded: £5,812 (ildio’n rhannol neu’n llawn)
Cynhyrchu hydrogen ar raddfa fach
Cais newydd: £788
Gweithgareddau sy’n uniongyrchol gysylltiedig
Mae’n bosibl y bydd angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgareddau sy’n rhan o osodiad ond sy’n cael eu cyflawni gan gwmni annibynnol.
Cais newydd: £7,983
Amrywio trwydded bresennol: £613 (gweinyddol), £1,140 (mân amrywiad technegol), £4,856 (arferol), £7,178 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £3,996 (yn rhannol), £2,533 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £2,533 (yn rhannol), £1,774 (yn llawn)