Cyfarwyddyd ar cydymffurfio ag trwydded amgylcheddol am gosodiad
Rydym yn cyhoeddi Trwydded Amgylcheddol ar gyfer Gosodiad pan fyddwn yn fodlon y bydd gweithredwr y broses yn gallu cydymffurfio â'r amodau yr ydym wedi'u gosod i sicrhau lefel uchel o ddiogelwch i'r amgylchedd ac iechyd pobl.
Mae nifer o agweddau cyffredin ar drwyddedau y mae angen i bob gweithredwr gydymffurfio â nhw.
System Rheoli Amgylcheddol
Rhaid i chi gadw eich System Rheoli Amgylcheddol (SRA) a'r holl weithdrefnau cysylltiedig yn gyfredol. Rhaid i chi sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn deall gofynion y drwydded, eu cyfrifoldebau, a bod ganddynt fynediad at gopi o'r drwydded. Dylai eich SRA fod yn gymesur â chymhlethdod a risg eich safle, nodi risgiau amgylcheddol, a nodi mesurau i'w hatal neu eu lleihau. Rhaid i bawb ar y safle ei ddilyn a rhaid iddi gael ei hadolygu'n rheolaidd i aros yn gyfredol.
Monitro
Bydd y rhan fwyaf o drwyddedau yn cynnwys amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i allyriadau gael eu monitro. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd:
MCERTS monitoring of emissions to air, land and water (Saesneg yn unig)
Noise and vibration management (Saesneg yn unig)
Odour management (Saesneg yn unig)
Adrodd
Rhaid i chi anfon eich holl adroddiadau monitro at eich swyddog rheoleiddio erbyn y dyddiadau a nodir yn eich trwydded. Mae gan dimau Rheoleiddio Diwydiant yr ardal gyfeiriadau e-bost y gallwch eu defnyddio:
Gogledd (Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) north.wales.ppc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
De Ddwyrain (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Casnewydd) industryregulation.southeast@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
De Canolog (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda CT, Bro Morgannwg) industryregulation.southcentral@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
De Orllewin (Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Caerfyrddin) industryregulation.swwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hysbysu
Mae Amod 4.3 o'r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod i ni ar unwaith am ddigwyddiadau neu ddamweiniau a allai effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath drwy ffonio 0300 065 3000 24 awr y dydd. Os yw'r digwyddiad hwnnw'n peri perygl uniongyrchol i iechyd pobl neu'n bygwth achosi effaith andwyol sylweddol uniongyrchol ar yr amgylchedd, rhaid i chi atal gweithrediad y gweithgareddau perthnasol ar unwaith nes bod cydymffurfiaeth wedi'i hadfer.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod i ni pan fyddwch yn dod yn ymwybodol o dorri amod eich trwydded gan ddefnyddio'r templedi yn Atodlen 5 o'ch trwydded. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost eich tîm lleol, fel y'i rhestrir uchod, ar gyfer yr hysbysiadau hyn.
Newidiadau
Rhaid i chi ddweud wrth eich swyddog rheoleiddio os ydych chi'n bwriadu newid unrhyw un o'r technegau gweithredu rydyn ni wedi'u hasesu yn eich cais am drwydded. Os oes angen i ni ailasesu'r effaith bosibl o'r newidiadau hynny ar yr amgylchedd, efallai y bydd angen i chi wneud cais i amrywio eich trwydded.
Rhaid i chi hefyd ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i'r cwmni neu'r corff corfforaethol cofrestredig fel yr eglurir yn adran Hysbysu eich trwydded.
Adroddiau i’r rhestr allyriadau
Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddeiliaid trwyddedau roi adroddiad i ni bob blwyddyn ar eu gollyngiadau i'r awyr a'r dŵr, a gwastraff a drosglwyddir o'r safle. Byddwch wedi derbyn Hysbysiad Rheoliad 61 ar yr adeg y cyhoeddwyd eich trwydded os yw hyn yn berthnasol i chi. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar yr hyn sydd angen i chi ei roi gwybod a sut i fynd ati yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau
Asesiad cydymffurfio
Byddwn yn cynnal asesiadau sy'n seiliedig ar risg i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'ch trwydded. Gall hyn gynnwys
- Asesiad desg o adroddiadau monitro neu adroddiadau eraill a anfonwch atom
- Archwiliadau safle
- Archwiliadau manwl i sicrhau eich bod yn gweithredu yn ôl y safonau yr ydym yn eu ddisgwyl
- Ymchwiliadau i ddigwyddiadau
Byddwn yn rhoi adroddiadau i chi o'n canfyddiadau yn dilyn yr asesiadau hyn ac yn manylu ar unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen. Fel arfer, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu rhoi ar ein cofrestr gyhoeddus: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestr gyhoeddus: gwybodaeth trwyddedu amgylcheddol, adnoddau dŵr a thrwyddedu morol
Ffioedd blynyddol
Mae angen i chi dalu tâl blynyddol i dalu costau cydymffurfiad. Fydd maint y tâl dibynnu ar gymhlethdod eich gweithgareddau a’r risg cysylltiedig i’r amgylchedd. Gallwch weld manylion ein taliadau ar gyfer trwyddedau gosodiadau yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Taliadau trwyddedau ar gyfer cyfleusterau sy’n cyflawni prosesau diwydiannol a gweithgynhyrchu (a elwir yn osodiadau)
Gallwch weld manylion llawn ein taliadau, yn gynnwys taliadau ar gyfer gweithgareddau eraill yma:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Ein taliadau
Newidiadau yn y dyfodol a allai effeithio arnoch chi
Gweithfeydd hylosgi canolig
Os oes gennych unrhyw Gweithfeydd Hylosgi Canolig sy'n bodoli eisoes yn eich Gosodiad gyda mewnbwn thermol rhwng 1 a llai na 5 MWth, yna bydd angen cynnwys y rhain yn eich trwydded erbyn 1 Ionawr 2029 a chydymffurfio â'u hamodau penodol erbyn 1 Ionawr 2030. Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gweithfeydd hylosgi canolig a chynhyrchwyr penodedig
Canllawiau pellach
Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar sut i gydymffurfio â'ch trwydded, ynghyd â chanllawiau technegol a rheoleiddiol yma:
How to Comply with your Environmental Permit (Saesneg yn unig)
Technegau Gorau sydd ar gael (BAT) i’ch helpu i gydymffurfio â Thrwydded Amgylcheddol gosodiadau
Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoleiddio (Saesneg yn unig)
Government’s Core Guidance about the Environmental Permitting Regulations (Saesneg yn unig)