Cyngor cadwraeth ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd (Rheoliad 37)

Cynhyrchir cyngor ar gadwraeth forol o dan Reoliad 37 (3) o’r Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae ein pecynnau cyngor cadwraeth yn hanfodol os ydych chi’n:

  • datblygu, cynnig neu asesu gweithgaredd, cynllun neu brosiect a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd
  • paratoi asesiadau rheoliadau cynefinoedd neu asesiadau o’r effaith amgylcheddol ar gyfer cynlluniau neu brosiectau arfaethedig a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd
  • cynllunio mesurau i gynnal neu adfer Safle Morol Ewropeaidd a’i nodweddion gwarchodedig
  • cyflawni unrhyw weithgaredd a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd ac angen darganfod sut i weithredu o fewn y gyfraith
  • monitro a/neu asesu cyflwr y nodweddion gwarchodedig

Mae gwybodaeth ychwanegol am ddefnyddio cyngor cadwraeth ar gyfer datblygwyr ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Adroddiadau cyngor cadwraeth

Mae’r fersiynau diweddaraf isod yn ddiweddariadau ac yn ddiwygiadau cyflawn o unrhyw gyngor cynharach a ryddhawyd, a rhaid eu defnyddio nawr yn lle’r cyngor hwnnw.

Ardaloedd gwarchodedig arbennig (AGAau)

Ardaloedd cadwraeth arbennig (ACAau)

Gweler yr adroddiadau asesu cyflwr cysylltiedig ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd.

Diweddarwyd ddiwethaf