Asesiad Effeithiau Amgylcheddol

Bydd pob cais am Drwydded Forol yn cael ei asesu fel y gallwn ddeall effeithiau tebygol y gweithgareddau arfaethedig.

Os fydd gan yr effeithiau yna unrhyw botensial o effeithio’r Amgylchedd, yna mae’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal Asesiad Effeithiau Amgylcheddol (EIA) cyn y gwneir penderfyniad ar drwydded.

Gellir lawrlwytho’r crynodeb o'r broses cais AEA Band 3 oddi ar y dudalen hon.

Cefndir

Mae’r Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol 2007) (fel y’u diwygiwyd) yn ymgorffori’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) Ewropeaidd yng nghyfraith y DU. Nod y Gyfarwyddeb yw sicrhau bod yr awdurdod sy’n caniatáu prosiectau yn ymwybodol o unrhyw effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol cyn gwneud ei benderfyniad.

Mae’r Gyfarwyddeb AEA yn nodi gweithdrefn y mae’n rhaid ei dilyn ar gyfer mathau penodol o brosiect cyn y gellir eu caniatáu. Mae’r weithdrefn hon, sef Asesiad Effeithiau Amgylcheddol (AEA), yn asesiad o effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol prosiect. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr effeithiau a ragwelir, a’r cwmpas i’w lleihau, wedi’u deall gan y cyhoedd a’r awdurdod perthnasol cyn iddo wneud ei benderfyniad.

Sgrinio a chwmpasu AEA

Mae’r Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) yn darparu ar gyfer y broses ymgeisio i gynnwys:

  • Ymarfer sgrinio AEA lle caiff ymgeisydd ofyn i’r awdurdod trwyddedu a ydy AEA yn ofynnol. Barn sgrinio yw’r enw ar hyn
  • Ymarfer cwmpasu AEA lle caiff ymgeisydd holi’r awdurdod trwyddedu ynghylch yr wybodaeth i’w darparu yn y Datganiad Amgylcheddol (DA). Barn gwmpasu yw’r enw ar hyn

Ar ba fathau o brosiect y mae AEA yn ofynnol?

Mae’r Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) yn mynnu bod AEA yn cael ei gynnal i gefnogi cais am ganiatâd ar gyfer categorïau prosiect a restrir yn Atodlen A1 ac Atodlen A2 o’r rheoliadau.

Prosiectau Atodlen A1

Ystyrir bod yr holl brosiectau a restrir yn Atodlen A1 yn cael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac felly y bydd bob amser gofyn AEA arnynt.

Prosiectau Atodlen A2

Ni fydd angen AEA ar brosiectau a restrir yn Atodlen A2 heblaw y daw’r tîm Trwyddedu Morol i’r casgliad bod y prosiect dan sylw yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd ffactorau fel ei faint, ei natur neu ei leoliad.

Lle nad yw ymgeiswyr posibl yn siŵr a ydy AEA yn ofynnol i brosiect, dylid gofyn am farn sgrinio gan y tîm Trwyddedu Morol.

Pa wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn Datganiad Amgylcheddol?

Mae Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi’r wybodaeth leiaf i’w chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol. Nodir hyn yn Atodlen 3 o’r Rheoliadau ac fe'i crynhoir isod.

Disgrifiad o’r prosiect ac o’r gweithgarwch sy’n cael ei reoleiddio, gan gynnwys manylion y materion canlynol:

  • Disgrifiad o leoliad y prosiect a’r gweithgarwch sy’n cael ei reoleiddio
  • Disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a’r gweithgarwch sy’n cael ei reoleiddio, gan gynnwys gwaith dymchwel angenrheidiol (gan gynnwys natur a ffynhonnell unrhyw ddeunyddiau a’r dulliau gwaith i’w defnyddio)
  • Disgrifiad o’r prif nodweddion ar gyfnod gweithredol y prosiect
  • Amcangyfrif o’r gweddillion a’r allyriadau disgwyliedig (e.e. dŵr, aer, sŵn, dirgryniadau etc) o ganlyniad i’r prosiect

Disgrifiad o ddewisiadau amgen rhesymol (e.e. dyluniad prosiect, technoleg, lleoliad) .

Disgrifiad o gyflwr cyfredol yr amgylchedd (gwaelodlin), ac esblygiad tebygol y gwaelodlin yn absenoldeb y prosiect.

Disgrifiad o’r ffordd y mae’r prosiect yn debygol o effeithio’n sylweddol ar y ffactorau canlynol, gan gynnwys unrhyw ryngweithio rhwng y ffactorau hyn:

  • Poblogaeth ac iechyd dynol
  • Bioamrywiaeth
  • Tir, pridd, dŵr, aer, hinsawdd, tirwedd
  • Asedau perthnasol a threftadaeth ddiwylliannol

Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd o ganlyniad i’r canlynol:

  • Adeiladu a bodolaeth y prosiect (gan gynnwys dymchwel, lle bo’n berthnasol)
  • Defnyddio adnoddau naturiol
  • Allyrru llygryddion, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd
  • Risgiau i iechyd dynol, treftadaeth ddiwylliannol neu’r amgylchedd (e.e. oherwydd damwain neu drychineb)
  • Yr effeithiau cronnus gyda phrosiectau presennol eraill
  • Yr effaith ar hinsawdd (e.e. natur a maint allyriadau nwyon tŷ gwydr) ac i ba raddau mae’r prosiect yn agored i newid hinsawdd
  • Technolegau a sylweddau a ddefnyddir

Dylai’r disgrifiad gynnwys pob un o’r categorïau canlynol o effaith:

  • Effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol
  • Effeithiau eilaidd
  • Effeithiau cronnus
  • Trawsffiniol
  • Effeithiau tymor byr, tymor canolig a thymor hir
  • Effeithiau parhaol a dros dro
  • Effeithiau cadarnhaol a negyddol

Y dulliau darogan a ddefnyddiwyd gan yr ymgeisydd i asesu’r prif effeithiau y mae’r prosiect a’r gweithgarwch wedi’i reoleiddio yn debygol o’u cael ar yr amgylchedd.

Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i osgoi, atal, lleihau ac, os oes modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol gan y prosiect a’r gweithgarwch wedi’i reoleiddio ar yr amgylchedd, ac unrhyw drefniadau monitro a gynigir. Rhaid i’r disgrifiad hwn egluro i ba raddau y mae effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn cael eu hosgoi, eu hatal neu eu lleihau, gan ymdrin â chyfnodau adeiladu a gweithredu.

Disgrifiad o’r effeithiau andwyol sylweddol a ddisgwylir gan y prosiect ar yr amgylchedd o ganlyniad i’r ffaith bod y prosiect yn agored i drychinebau neu ddamweiniau mawr.

Unrhyw anawsterau, fel diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth, a gafwyd wrth lunio unrhyw wybodaeth o’r math a nodwyd uchod.

Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a roddwyd uchod.

Rhestr gyfeirio sy’n manylu ar y ffynonellau a ddefnyddiwyd ar gyfer y disgrifiadau a’r asesiadau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad.

Mae canllawiau cyffredinol ar sut i ganfod effeithiau allweddol prosiectau datblygu morol yng Nghymru sydd angen eu hasesu dan y Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol i’w cael yma.

Am gyngor manwl ar yr wybodaeth y dylid ei chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol, dylai ymgeiswyr ofyn am farn gwmpasu gan y tîm Trwyddedu Morol.

Diwygiad 2017 i’r Rheoliadau Gwaith Morol (AEA)

Ar 16 Mai 2017, bydd Rheoliadau diwygiedig Asesu Effeithiau Amgylcheddol Gwaith Morol yn dod i rym. Dylai pob ymgeisydd gyda phrosiect sy’n berthnasol i Asesu Effeithiau Amgylcheddol adolygu’r rheoliadau diwygiedig.

Mae diwygiad 2017 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n dibynnu ar gyfnod y cais yn y broses AEA; bydd hyn yn pennu a ydy diwygiad 2017 yn berthnasol.

Trefniadau Trosiannol

Nid yw rheoliadau diwygiedig 2017 yn berthnasol i’r canlynol:

  • Barn Sgrinio yr ymgeisiwyd amdani cyn 16 Mai 2017
  • Prosiectau lle ymgeisiwyd am ganiatâd AEA cyn 16 Mai 2017
  • Prosiectau, gan gynnwys eu cais dilynol am ganiatâd AEA, a oedd yn gofyn am farn gwmpasu AEA cyn 16 Mai 2017

Penderfyniadau caniatáu AEA blaenorol a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae rhestr o benderfyniadau caniatáu AEA a wnaethpwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ceisiadau am drwydded forol ar gael yma.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf