Sut i baratoi cais am drwydded forol band 1
Gwnewch gais am drwydded forol Band 1 os yw’r canlynol yn berthnasol i’ch gwaith:
- mae wedi’i gynnwys ar restr gweithgareddau band 1
- bydd yn cymryd llai na 12 mis
- bydd cyfanswm y gost yn llai na £1 miliwn
- ni fydd mewn ardal a ddefnyddir ar gyfer amddiffyn milwrol neu’n cynnal ceblau na phiblinellau
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais am drwydded forol, mae angen i chi baratoi gwybodaeth a dogfennau.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais pan fyddwch wedi paratoi popeth.
Pa wybodaeth sydd ei hangen
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
- teitl eich prosiect
- crynodeb o’r hyn rydych chi eisiau ei wneud
- manylion yr ymgeisydd ac unrhyw asiant
- dyddiad cychwyn y gwaith
- lleoliad y prosiect gan ddefnyddio hydred a lledred mewn graddau degol i bum lle degol
- pa ddeunyddiau y byddwch chi’n eu dyddodi neu’n eu tynnu
- a fyddwch chi’n defnyddio unrhyw longau neu gerbydau
- cyfeirnod ar gyfer unrhyw gyngor cyn ymgeisio y gwnaethom ei roi i chi
- a oes gennych unrhyw bwerau statudol i roi cydsyniad i agweddau ar y gwaith ai peidio, ac o dan ba ddeddfwriaeth
Cyfrinachedd y gofrestr gyhoeddus
Rydym yn cyhoeddi ceisiadau am drwyddedau morol ar ein cofrestr gyhoeddus.
Os ydych chi eisiau i unrhyw ran o’ch cais fod yn gyfrinachol, rhaid i chi esbonio pam.
Byddwn yn penderfynu a oes rheswm dilys dros gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.
Pa ddogfennau i’w paratoi
Rhaid i bob cais band 1 gynnwys y canlynol:
- map Arolwg Ordnans neu Siart y Morlys
- datganiad dull
- cadarnhad ysgrifenedig gan Dŷ’r Drindod ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau na fydd eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y môr
Gwaith mewn harbyrau
Os yw eich gwaith yn digwydd mewn harbwr neu o’i gwmpas, rhaid i chi gynnwys y canlynol:
- cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod harbwr lleol na fydd eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr môr eraill
Gwaith sy’n cynnwys symud pethau
Os yw eich gwaith yn cynnwys unrhyw fath o symud neu reoli traeth, rhaid i chi gynnwys y canlynol:
- cadarnhad ysgrifenedig gan sefydliadau archaeolegol na fydd eich gwaith yn effeithio ar unrhyw nodweddion archaeolegol
Dogfennau dewisol
Gallwch gynnwys:
- cynlluniau adeiladu a lluniadau adrannol
- unrhyw ohebiaeth ag ymgynghoreion eraill
Pa mor hir mae’n ei gymryd
Fel arfer, byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn chwe wythnos.
Mae’r cyfnod o chwe wythnos yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau. Efallai na fydd yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno, os yw gwybodaeth ar goll neu’n anghywir.
Bydd trwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflawni nifer o dasgau cyn y cewch ddechrau gweithio.
Gall y tasgau hyn gynnwys:
- hysbysu pobl neu sefydliadau perthnasol
- cyflwyno dogfennau ychwanegol i ni
Os oes angen mwy o gyngor arnoch
Gallwch gael cyngor gennym ni os oes angen help arnoch i baratoi eich cais.