Gweithgareddau risg isel Band 1 Trwyddedu Morol

Mae Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn ystyried pob cais ar gyfer gweithgareddau yn yr amgylchedd morol sy’n galw am Drwydded Forol. Mae’r ystod o weithgareddau sy'n galw am drwydded yn eang iawn, o waith cymhleth mawr iawn i waith llai, risg isel. Er mwyn sicrhau bod ceisiadau yn cael eu trin mewn ffordd gymesur, mae ceisiadau am drwyddedau morol yn cael eu dynodi fel gweithgareddau Band 1, Band 2 neu Fand 3. Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â gweithgareddau Band 1, yr ystyrir yn weithgareddau effaith isel neu risg isel.

Mae'r canllawiau yn ymdrin yn gyntaf â beth yw'r gofynion ar gyfer gweithgareddau i'w hystyried fel ceisiadau Band 1, ac yn ail yn egluro'r amgylchiadau lle byddai angen datganiad dull ychwanegol i ddisgrifio'r gweithgaredd. Mae datganiad dull yn ofynnol ar gyfer mathau penodol o weithgarwch a allai fod â’r potensial i fod yn risg uwch, ac ar gyfer gweithgareddau arfaethedig ger cynefinoedd a rhywogaethau sensitif penodol. 

Meini prawf 'risg isel' cyffredinol

I fod yn gymwys fel cais Band 1, dylai’r gweithgaredd fod â photensial effaith isel, a risg isel. I fod yn gymwys fel risg isel, bydd y canlynol yn berthnasol i’r gweithgaredd:

  • Ni fydd yn cael effaith negyddol ar ardaloedd, rhywogaethau neu adnoddau gwarchodedig neu sensitive
  • Ni fydd yn digwydd mewn ardal sy’n cael ei defnyddio at ddibenion amddiffyn milwrol
  • Ni fydd yn digwydd mewn ardal sy’n gartref i geblau neu biblinellau
  • Ni fydd yn cynhyrchu lefelau annerbyniol o sŵn
  • Ni fydd yn achosi effeithiau andwyol ar y cyd â gweithgareddau eraill
  • Ni fydd yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd
  • Ni fydd yn peri perygl mordwyo neu berygl i eraill

Bydd ganddo ganiatâd gan yr awdurdod harbwr lleol (os yw'r gweithgaredd o fewn cyfyngiadau awdurdod harbwr).

Rhaid iddo fod yn weithgarwch cymwys.

Gallai gweithgareddau sy’n cael eu cynnal mewn ardaloedd neu adnoddau gwarchodedig neu sensitif, neu gerllaw, fod angen dogfennau ychwanegol i ddangos na fydd y prosiect yn cael effaith negyddol ar y nodweddion hynny (gweler Ardaloedd Sensitif).

Gweithgareddau Cymwys

O dan Reoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd Ceisiadau) (Cymru) 2017, mae’r gweithgareddau canlynol yn gymwys i’w hystyried fel gweithgareddau Band 1:

a) atgyweirio neu adnewyddu bolltau, falfiau, deciau ar bier neu bontŵn

b) cael gwared ar dwf morol a gwano o unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw ran arall

c) gosod grisiau ar unrhyw adeilad neu strwythur

d) cramennu a chael gwared ar byst at ddibenion marcio sianelau, ardaloedd dŵr bas, gollyngfeydd a grwynau

e) cramennu a chael gwared ar fwiau marciwr dilynol

f) cael gwared ar ddarnau ar wahân o rwbel sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu; dymchwel, difrodi neu ddiffyg atgyweirio adeilad neu strwythur sy'n defnyddio cerbyd neu long

g) cael gwared ar sbwriel gan ddefnyddio cerbyd neu long

h) unrhyw weithgaredd o natur mân tebyg.

Bydd y gweithgareddau penodol a restrir yn y Rheoliadau (ag uchod) bob amser yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer cais am drwydded Band 1. Fodd bynnag, nid yw’r broses o roi trwydded o'r fath yn awtomatig. Mae gofyn i Wasanaeth Trwyddedu CNC ystyried pa mor briodol yw’r gweithgaredd o hyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais am drwydded.

Yn ogystal â’r gweithgareddau penodol a restrir uchod, mae Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd Ceisiadau) (Cymru) 2017 yn cyfeirio at ‘unrhyw weithgaredd o natur bach tebyg’. Mae addasrwydd gweithgareddau eraill yn dibynnu ar natur a graddfa’r gweithgaredd, a sensitifrwydd amgylcheddol yr ardal lle bydd y gweithgaredd yn cael ei gynnal. Mae rhestr fwy cynhwysfawr o weithgareddau y gellir eu hystyried o dan gais am drwydded Band 1 yn cynnwys y canlynol:

Mân waith adeiladu ac atgyweirio

  • Sgaffaldiau/tyrau mynediad i hwyluso'r gwaith o gynnal a chadw strwythurau presennol Nodyn – mae’n rhaid ystyried unrhyw ofynion trwydded neu esemptiad ar gyfer y gweithgaredd cynnal a chadw hefyd.
  • Mân waith cynnal a chadw gan gynnwys trwsio, disodli neu wella rhesymol o fewn yr amlen ddylunio wreiddiol, bolltau, llabedi, falfiau, gorchuddion cathodig, cloriau mynediad, griliau, cymalau, deciau ar bier neu bontŵn, offer iechyd a diogelwch neu offer ategol eraill sydd ynghlwm wrth strwythurau presennol. Noder - Nid yw hyn yn cynnwys newidiadau sylfaenol i'r defnydd o strwythur. Rhaid atgyweirio o fewn ffiniau presennol y strwythur neu’r asedau sy’n cael eu cynnal a’u cadw.
  • Amnewid un pentwr o’r un diamedr neu lai, gan ddefnyddio methodoleg pentyrru nad yw’n ergydiol. Noder – Un drwydded Band 1 yn unig y gellir ei defnyddio i amnewid pentwr unigol yn yr un lleoliad bob blwyddyn. Dylai’r pentyrrau i’w hamnewid fod yn bentyrrau bach e.e. ar gyfer pontŵn ac ati. Nid yw gweithgareddau Band 1 yn cynnwys newid pentyrrau â diamedr mwy. Oherwydd y cymhlethdodau o ran asesu effeithiau sŵn morol, ni ellir ystyried pentyrru ergydiol fel gweithgaredd Band 1.
  • Disodli rendr neu goncrid, gan gynnwys ailosod wyneb llithrfeydd; Noder – ni ellir ystyried gwaith atgyweirio strwythurau diogelu’r arfordir, megis morgloddiau fel gweithgaredd Band 1
  • Tanio tywod neu raean
  • Cael gwared ar dwf morol a/neu gwano o strwythurau ac asedau heblaw am longau
  • Gosod ysgolion.

Gweithgareddau Cramennu

  • Cramennu a chael gwared ar byst at ddibenion marcio sianelau, ardaloedd dŵr bas, diwedd gollyngfeydd a grwynau a thebyg.
  • Cramennu a chael gwared ar fwiau marciwr dilynol.

Gweithgareddau Cael Gwared

  • Cael gwared ar fân wrthrychau ar wahân o wyneb y rhynglanw neu wely'r môr gan ddefnyddio cerbydau neu longau. Gallai ‘mân wrthrychau’ gynnwys polion, hytrawstiau, darnau o rwbel adeiladu neu ddymchwel a wnaed yn ddiweddar, neu ddiraddio strwythur, i adfer rhannau o’r strwythur sydd wedi torri. Noder - mae cael gwared ar wrthrychau ar eu pen eu hunain yn cynnwys eitemau ar arwyneb gwely’r môr yn unig, nid deunydd wedi’i gladdu neu wedi’i gladdu’n rhannol.
  • Cael gwared ar sbwriel gan ddefnyddio cerbyd neu long, gan gynnwys sbwriel a gasglwyd gyda llaw ond sydd wedi’i storio wedi hynny ar y traeth i’w waredu gan gerbyd neu long.
  • Tyllau turio Noder - oherwydd natur gwaith tyllau turio, mae’n rhaid anfon datganiad dull gyda phob cais tyllau turio, fel sydd wedi’i ddisgrifio yn adran ‘Ardaloedd Sensitif’ y ddogfen hon.
  • Ni ddylai samplau (cip) o waddodd lle mae cyfanswm y sampl ar draws yr holl samplau yn fwy na 4 metr ciwbig. Ni ddylai dwysedd samplau cip fod yn fwy na 50 sampl o fewn un hectar.

Gweithgareddau Rheoli ar y Traeth

  • Ail-broffilio’r traeth - symud deunyddiau’r traeth ar draws y lan neu fyny neu i lawr y traeth
  • Ailgylchu traeth - symud deunyddiau’r traeth ar hyd y traeth o ardaloedd croniant i ardaloedd erydu yn yr un traeth neu system gwaddod cysylltiedig
  • Disodli neu ddychwelyd tywod sydd wedi’i chwythu gan y gwynt i’r traeth, lle’r oedd y tywod yn tarddu o’r traeth hwnnw.
  • Clirio/cael gwared ar ddeunydd traeth mewn gollyngfeydd, ac o’u hamgylch, i gynorthwyo draenio.

Ailgyflenwi traeth

Nodyn: NID yw ailgyflenwi traeth yn gymwys ar gyfer ceisiadau trwydded Band 1. Mae ailgyflenwi traeth yn cael ei ddiffinio fel ychwanegu deunydd traeth o ffynonellau nad ydynt yn gysylltiedig â system gwaddod y traeth i ddisodli deunydd sydd wedi’i golli’n barhaol o’r system. Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheoli traeth yn cael eu hystyried lle mae proffil traeth parhaus yn cael ei gadw. Mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth bod y proffil hanesyddol yn cael ei gadw gyda cheisiadau.

Bwriad y gweithgareddau a restrir uchod yw gweithredu fel canllaw. Os yw graddfa’r gweithgareddau arfaethedig yn arbennig o fawr, neu mewn ardaloedd hynod sensitif, gallai Gwasanaeth Trwyddedu CNC benderfynu nad yw’r cais yn addas i’w ystyried fel gweithgaredd Band 1. Efallai fod gweithgareddau ychwanegol na restrir uchod y byddai Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn eu hystyried yn gymwys fel gweithgareddau Band 1.

Os ydych yn dymuno cynnal nifer o weithgareddau, neu’r un gweithgaredd sawl gwaith, cysylltwch â marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am ragor o gyngor ar p’un a ellir ystyried y gweithgareddau fel gweithgaredd Band 1.

Os ydych yn ansicr p’un a ddylid dosbarthu eich gweithgarwch fel cais Band 1, cysylltwch â marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am ragor o gyngor. Mae Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn argymell cadarnhau fod gweithgareddau’n risg isel cyn gwneud cais, er mwyn osgoi oedi diangen.

Os ydych yn gwneud cais am Drwydded Forol Band 1 a bod Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn penderfynu nad yw’r gweithgaredd yn gymwys, bydd y cais a’r ffi’n cael ei ddychwelyd gyda chais i ail-gyflwyno’r cais fel gweithgaredd Band 2 neu Fand 3. Gall Gwasanaeth Trwyddedu CNC godi ffi weinyddol ar ad-daliadau. Os na ellir bodloni gofynion cymhwyster ‘risg isel’ cyffredinol, mae’n rhaid cyflwyno’r cais fel cais Band 2 neu Fand 3.

Ymgysylltu ymlaen llaw â sefydliadau eraill

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Leol a Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) - Ar gyfer cais Band 1 ar gyfer tyllau turio, cipsamplau neu reoli traethau (gweithgareddau symud), bydd angen cymeradwyaeth gan yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Leol a Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).

Os yw cyngor yn awgrymu y gallai gweithgaredd gael effaith niweidiol ar nodweddion archeolegol, gallwch naill ai ddatrys y broblem gyda'r sefydliadau uchod cyn cyflwyno cais Band 1 neu gyflwyno cais Band 2.

Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau navigationsafety@mcga.gov.uk a Trinity House yn navigation@trinityhouse.co.uk – Cysylltwch ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Trinity House i gadarnhau pa un a yw eich gweithgaredd yn debygol o effeithio ar ddiogelwch eraill ar y môr. Mae’n RHAID i chi gael cadarnhad gan y DDAU gorff na fydd eich gwaith arfaethedig yn peri risg i bobl eraill cyn gwneud cais.

Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol wrth ohebu ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau:

  • Lleoliad y gwaith, yn ddelfrydol ar fap môr graffegol, neu ddelwedd lloeren/map os oes un ar gael.
  • P’un a yw’r gwaith yn digwydd mewn awdurdodaeth Awdurdod Harbwr Statudol; dylai’r ymgeisydd holi’r harbwr/marina lleol i gadarnhau. Os ydyw, a gysylltwyd â’r Awdurdod?
  • Am ba hyd yr aiff y gwaith yn ei flaen, ac os gwneir unrhyw waith yn y nos pan mae’n anos gweld.
  • Disgrifiad byr o’r gweithgarwch arfaethedig, unrhyw sgaffaldiau neu offer trwm y bwriedir eu defnyddio, p’un a fydd y gwaith yn digwydd ar y tir neu yn y dŵr, ac a fwriedir defnyddio unrhyw gychod.
  • Unrhyw effaith a ragwelir ar ddiogelwch mordwyo, megis cau dyfrffordd neu ostwng lle clir o dan bont, a pha bynnag gamau y mae’r ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i liniaru ar beryglon.

Achosion lle mae angen datganiad dull gweithgareddau arbennig ac ardaloedd sensitif

Tyllau turio a phentyrrau disodli

Oherwydd yr aflonyddwch sŵn posibl a achosir gan y gweithgareddau hyn, rhaid derbyn datganiad dull gyda phob cais Band 1 ar gyfer tyllau turio neu bentyrrau disodli. Ar gyfer y gweithgareddau hyn, mae’n rhaid cynnwys y nifer o dyllau turio/diamedr y pentwr, y lefelau sŵn a ragwelir gan y ffynhonnell, yr union leoliad arfaethedig a’r amserlen arfaethedig yn y datganiad dull i ganiatáu asesu effaith sŵn y gwaith ar y cyd â gwaith posibl arall yn y cyffiniau.

Rheoli Traeth

Rhaid cyflwyno datganiad dull gyda phob gweithgaredd rheoli traeth. Rhaid i’r datganiad dull nodi’n glir y cyfaint/tunelli o ddeunydd y disgwylir ei symud, lleoliadau casglu a danfon y deunydd, llwybrau teithio’r cerbyd ac amserlenni arfaethedig y gweithgaredd.

Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i gynnwys y cynefinoedd canlynol (ble y bo'n briodol) yn eich datganiad dull:

  • Gwelyau cregyn gleision glas (Mytilis edulis)
  • Riffiau Sabellaria alveolata
  • Graean lleidiog cysgodol
  • Cynefinoedd creigiog aberol
  • Cymunedau rhynglanwol clogfeini
  • Gwastadeddau llaid rhynglanwol

Map o ardaloedd sensitif

Dewch o hyd i leoliadau cynefinoedd sensitif lle mae’n ofynnol cael datganiad dull ym map gwybodaeth amgylcheddol Cymru.

Mae rhai o'r cynefinoedd o fewn ardaloedd gwarchodedig dynodedig fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig). Mae eraill yn gynefinoedd sensitif y gellir eu canfod ledled Cymru, o fewn a thu allan i ardaloedd gwarchodedig.

Ystyrir y cynefinoedd yn sensitif i bob gweithgaredd posibl, gan gynnwys mynd i safleoedd gweithgareddau. Dim ond ar adegau penodol o'r flwyddyn neu o’r dydd efallai y bydd ardaloedd yn sensitif o ran amharu ar adar.

Mae’r mapiau at ddibenion enghreifftiol yn unig. Dylai ymgeiswyr gysylltu â'r Gwasanaeth Trwyddedu i gadarnhau a yw'r gweithgaredd mewn ardal sensitif cyn gwneud cais.

Cynefinoedd sy’n cael eu hystyried yn sensitif i unrhyw weithgaredd Band 1 mewn unrhyw leoliad yw:

  • Malurion wyau (Ascophyllum nodosum) ar graig halltedd amrywiol
  • Cymunedau malurion wyau (Ascophyllum nodosum) yn nannedd y llanw
  • Gwelyau maerl
  • Gwelyau marchfisglen (Modiolus modiolus)
  • Gwelyau wystrys (Ostrea edulis)
  • Gwelyau morwellt
  • Môr-pen a chymunedau megaffawna eraill sy’n tyrchu
  • Amlygiadau mawn a chlai

Y cynefinoedd sy’n cael eu hystyried yn sensitif pan fyddant yn nodwedd ddynodedig mewn Ardal Cadwraeth Arbennig yw:

  • Riffiau
  • Cilfachau eang bas a baeau
  • Aberoedd
  • Gwastadeddau llaid a thywod nad ydynt dan ddŵr môr adeg llanw isel
  • Morlynnoedd arfordirol
  • Dolydd heli’r Iwerydd (Glauco Puccinellietalia maritimae)
  • Salicornia a mathau eraill o fwd a thywod sy’n cytrefu’n flynyddol

Mae'r cynefinoedd rhynglanwol canlynol hefyd yn cael eu hystyried yn sensitif i fynediad gan gerbydau lluosog, neu ar adegau lluosog:

  • Gwelyau cregyn gleision glas (Mytilus edulis)
  • Riffiau llyngyr diliau (Sabellaria alveolata)
  • Gwastadeddau llaid rhynglanwol
  • Cymunedau rhynglanwol clogfeini
  • Gwelyau wystrys (Ostrea edulis)
  • Amlygiadau mawn a chlai
  • Morfeydd heli
  • Gwelyau morwellt
  • Graean lleidiog cysgodol

Ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn sensitif pan fyddant mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig yw:

  • AGA Bae Caerfyrddin o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Cilfach Porth Tywyn o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Bae Lerpwl o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Môr Hafren o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Aber Dyfrdwy o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Traeth Lafan, Bae Conwy o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Gogledd Bae Ceredigion o fis Hydref i fis Chwefror (cynwysedig)
  • AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli o fis Mai i fis Gorffennaf ar gyfer unrhyw waith a fydd yn digwydd o 6pm tan hanner nos
  • AGA Ynys Gwales o fis Mawrth i fis Gorffennaf (cynwysedig)
  • AGA Ynys Sgogwm ac Ynys Sgomer (o fewn 4 km o'r arfordir) o fis Mai i fis Gorffennaf (cynwysedig)

Sut y gellir gweld y data ar ardaloedd sensitif?

Gellir gweld haenau GIS yn cynnwys crynodeb o holl gynefinoedd sensitif ac ardaloedd AGA Band 1 os gwneir cais. I agor y data hwn, byddwch angen gwyliwr GIS priodol (e.e. ArcGIS). Ar hyn o bryd, ni ellir gweld y data’n uniongyrchol ar-lein. I benderfynu p’un a yw eich gweithgaredd o fewn ardal sensitif, cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu Moro, gan gynnwys y cyfeirnod grid neu ledred/hydred a disgrifiad byr o'r gweithgaredd arfaethedig.

Beth ddylwn i ei wneud os yw fy ngweithgaredd o fewn ardal sensitif?

Os yw eich gweithgaredd o fewn ardal sensitif, ond yn dal o fewn y meini prawf i gael ei ddosbarthu fel gweithgaredd Band 1, rhaid cyflwyno datganiad dull (fel arfer 1-2 dudalen A4) gyda’ch cais. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i’r holl weithgareddau i’w cynnal mewn ardal sensitif, a hefyd i unrhyw weithgareddau lle mae’r llwybr mynediad i’r ardal arfaethedig yn dod o fewn ardal sensitif. Rhaid i'r datganiad dull hwn ddisgrifio’r gwaith i’w gynnal ac unrhyw symudiadau angenrheidiol gan gerbydau i gael mynediad at y safle gwaith. Dylid cofnodi gweithgareddau lliniaru perthnasol hefyd yn y datganiad dull.

Bydd y datganiad dull hwn yn cael ei ddefnyddio gan Wasanaeth Trwyddedu CNC (ac arbenigwyr technegol CNC lle bo angen) i benderfynu p’un a yw'r gwaith yn dderbyniol yn yr ardal arfaethedig a p’un a allai’r cais gweithgaredd aros ym Mand 1.

Taliadau

Mae ceisiadau am drwydded Band 1 yn costio £600 fesul cais, a bwriedir eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau effaith isel (gweler Gweithgareddau Cymwys). Nid oes angen hysbysebu ceisiadau Band 1 mewn papur newydd lleol.

Gellir rhoi trwyddedau band 1 am gyfnod o hyd at 12 mis. Pan fo angen trwydded am gyfnod hirach, bydd angen cais band 2.

Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau Band 1 yn mynd drwy broses symlach a byrrach, o’i gymharu â cheisiadau yn y bandiau eraill. Ar gyfer ceisiadau sy'n bodloni meini prawf Band 1, disodlir y cam ymgynghori arferol gydag amodau safonol.

Er bod y broses drwyddedu ar gyfer gweithgareddau Band 1 yn fyrrach ac yn symlach, ni fydd cais ar gyfer gweithgaredd Band 1 yn cael ei ganiatáu’n awtomatig; bydd Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn asesu addasrwydd y prosiect i bennu p’un a yw’r holl feini prawf wedi’u bodloni.

Nid yw cyhoeddi unrhyw Drwydded Forol yn rhyddhau’r ymgeisydd/deiliad y drwydded rhag cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol neu rhag gwneud cais am unrhyw ganiatâd neu drwyddedau eraill y gellir bod eu hangen, gan gynnwys caniatâd gan y perchennog tir perthnasol.

Gwneud cais am drwydded forol gweithgaredd risg isel (Band 1).

Cwestiynau Cyffredin

Beth ddylwn i ei wneud cyn cyflwyno cais?

Dylech gysylltu â’r sefydliadau canlynol i sicrhau na fydd eich gweithgareddau’n cael unrhyw effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, mordwyo, neu ffyrdd dilys o ddefnyddio’r môr:

  • Er mwyn penderfynu a yw eich gweithgaredd o fewn ardal sensitif, cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu Morol (marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk) gan gynnwys y cyfeirnod grid neu ledred/hydred a disgrifiad byr o’r gweithgaredd arfaethedig.
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau navigationsafety@mcga.gov.uk – Bydd yr Asiantaeth yn cadarnhau p’un a yw eich gweithgaredd yn debygol o effeithio ar ddiogelwch eraill ar y môr. Mae’n RHAID i chi gael cadarnhad gan yr Asiantaeth na fydd eich gwaith arfaethedig yn peri risg i bobl eraill cyn gwneud cais.
  • Yn achos gweithgareddau cael gwared a gweithgareddau rheoli traethau gyda’ch cais bydd RHAID cyflwyno tystiolaeth e-bost gan yr ymddiriedolaeth archeolegol leol neu Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru na fydd unrhyw nodweddion archeolegol yn cael eu heffeithio'n andwyol. (Sylwer, bydd y cais cyntaf i'r ddau sefydliad hyn yn dod gan CNC.)
  • Bydd Ystad y Goron fel perchennog tir yn gallu eich helpu os oes angen caniatâd arnoch ganddo.

Beth sydd angen i mi ei gyflwyno?

Ar gyfer gweithgareddau Band 1, dylech gwblhau a chyflwyno Ffurflen Gais am Drwydded Forol Band 1.

Lle mae’r gweithgaredd mewn ardal sensitif, neu’n cynnwys pentwr disodli, tyllau turio neu weithgareddau rheoli traeth, dylech gynnwys Datganiad Dull 1-2 tudalen o hyd yn nodi’r union weithgareddau i’w cynnal, ac unrhyw symudiadau cerbyd angenrheidiol.

Dylech hefyd gyflwyno dogfennau i ddangos eich bod wedi cysylltu ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a chynnwys eu hymateb – bydd cadarnhad e-bost yn ddigon.

Dylid anfon y ffi Band 1 priodol gyda'r cais.

Pryd ddylwn i gyflwyno Datganiad Dull, ac i bwy?

Os yw eich gweithgaredd arfaethedig mewn ardal sensitif, mae angen datganiad dull. Bydd unrhyw geisiadau am dyllau turio neu ddisodli pentyrrau angen datganiad dull i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau sŵn posibl.

Lle bo angen, rhaid cyflwyno datganiadau dull gyda'r cais am drwydded Band 1.

Beth sy'n digwydd os na dderbynnir y datganiad dull?

Rhaid i Wasanaeth Trwyddedu CNC sefydlu na fydd y gweithgaredd yn achosi effeithiau andwyol i'r amgylchedd. Os nad yw’r datganiad dull yn dangos yn ddigonol na fydd y gweithgaredd yn achosi effeithiau andwyol, ni ellir cymeradwyo’r cais am drwydded. Yn yr achos hwn bydd Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn gofyn i ymgeiswyr ailgyflwyno datganiad dull i fynd i'r afael â materion penodol. Os nad yw’r datganiad dull a ailgyflwynwyd yn ymdrin â’r materion a nodwyd, bydd y cais yn cael ei wrthod.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ddod i benderfyniad ar gais am drwydded Band 1?

Bydd penderfyniadau am drwyddedau Band 1 fel arfer yn cael eu gwneud o fewn 6 wythnos o gyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol. Bydd gweithgareddau lle penderfynwyd ar y cam cyn ymgeisio nad oes angen datganiad dull ar eu cyfer yn cael penderfyniad fel arfer o fewn 3 wythnos.

Sut allaf i gael mwy o wybodaeth am weithgareddau Band 1?

Os nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi’i chynnwys yn y canllawiau hyn, cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu Morol (marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk).

Mannau eraill yng Trwyddedu morol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf