Gwneud cais am drwydded ar gyfer gwaith hylosgi canolig annibynnol rhwng 1 a llai nag 20 MW mewnbwn thermol

Os nad oes gennych drwydded ar hyn o bryd ond bod gennych waith hylosgi canolig eisoes sydd â mewnbwn thermol rhwng 5 a llai na 20 MW neu os ydych am osod gwaith hylosgi canolig newydd sydd â mewnbwn thermol rhwng 1 a llai na 20 MW rhaid i chi wneud y canlynol:

Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein

Cynnwys y ffi ymgeisio gywir gyda'r cais (dolen i'r ffioedd)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon yr holl wybodaeth ategol ac asesiadau sydd eu hangen arnom i asesu eich cais

Os na fyddwch yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, bydd yn cymryd mwy o amser i asesu eich cais.


Os oes eisoes gennych drwydded ar gyfer gwaith hylosgi canolig, generadur penodol, gweithrediad gwastraff neu osodiadau a bod gennych weithfeydd hylosgi canolig ar y safle eisoes, nid oes angen i chi wneud cais i amrywio'ch trwydded i gynnwys y rhain ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â'r gweithfeydd hylosgi canolig sydd gennych eisoes.

Os hoffech ychwanegu gwaith hylosgi canolig newydd at eich trwydded bresennol ar gyfer gweithfeydd hylosgi canolig, generaduron penodol, gosodiadau neu weithrediadau gwastraff, defnyddiwch y ffurflenni isod.

Amrywio eich trwydded gwaith hylosgi canolig / generadur penodol / gosodiadau.

Amrywio eich trwydded wastraff.

Faint o amser sydd ei angen i brosesu cais am drwydded?

O'r adeg pan fyddwn yn rhoi gwybod i chi fod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu eich cais, ein nod yw gwneud penderfyniad o fewn pedwar mis. 

Faint mae trwydded yn ei chostio?

Bydd cost eich trwydded yn dibynnu ar b'un a yw eich gwaith hylosgi canolig / generadur penodol yn cael ei ystyried yn un â risg uchel neu isel.

Nid yw'n ofynnol i weithfeydd hylosgi canolig / generaduron penodol â risg isel gynnal asesiad modelu ansawdd aer i asesu effaith y gweithgareddau fel rhan o'u cais am drwydded. Gelwir y rhain yn drwyddedau pwrpasol syml ac maent yn costio £3,906.

Os yw eich gwaith hylosgi canolig / generadur penodol risg isel hefyd yn weithgaredd Rhan B, y ffi yw £4,813.

Mae'n ofynnol i weithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol risg uchel gynnal asesiad modelu ansawdd aer i asesu effaith y gweithgareddau a chyflwyno hynny gyda'u cais am drwydded.  Gelwir y rhain yn drwyddedau pwrpasol cymhleth ac maent yn costio £9,687.

Os yw eich gwaith hylosgi canolig / generadur penodol risg uchel hefyd yn weithgaredd Rhan B, y ffi yw £10,885.

Byddwch hefyd yn ysgwyddo ffioedd cynhaliaeth sef ffioedd blynyddol ar gyfer rheoli cydymffurfiaeth â'ch trwydded. Byddwn yn anfon anfoneb flynyddol atoch ar gyfer eich ffioedd cynhaliaeth. 

A oes angen i mi fonitro allyriadau o'm boeler, injan, generadur neu dyrbin?

Ar gyfer gwaith hylosgi canolig newydd, rhaid i chi ddechrau monitro allyriadau sylffwr deuocsid (SO2), ocsidau nitrogen (NOx), llwch a charbon monocsid o fewn pedwar mis ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi neu ar ôl dechrau gweithredu, pa un bynnag yw'r diweddaraf.

Ar gyfer gwaith hylosgi canolig sydd eisoes yn bodoli, byddwn yn derbyn canlyniadau monitro blaenorol ar gyfer sylffwr deuocsid (SO2), ocsidau nitrogen (NOx), llwch a charbon monocsid fel tystiolaeth o gydymffurfio â'r Terfynau Gwerth perthnasol ar gyfer Allyriadau a ddarperir ar yr amod:

  • y gallwch brofi pa waith hylosgi canolig gafodd ei fonitro
  • bod y gwaith monitro wedi'i wneud o fewn dwy flynedd cyn dyddiad y cais am drwydded
  • bod y gwaith monitro wedi ei wneud i'r safon berthnasol

Os oes gennych waith hylosgi canolig eisoes ac nad ydych wedi monitro'r allyriadau eto, rhaid i chi ddechrau monitro cyn 1 Ionawr 2025. Byddwn yn cynnwys y dull monitro priodol y dylech ei ddefnyddio yn eich trwydded.

Bydd amodau eich trwydded hefyd yn nodi'r gofynion a'r mynychder ar gyfer y monitro dilynol a fydd yn flynyddol neu unwaith bob tair neu bum mlynedd yn dibynnu ar faint y gwaith.

Sut mae monitro allyriadau o'm boeler, injan, generadur neu dyrbin?

Mae dwy safon fonitro ar gael ar gyfer Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol.

Monitro allyriadau staciau: Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol risg isel

Gallwch ddefnyddio'r safon Monitro allyriadau staciau: Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol risg isel ar gyfer:

  • Gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol a ganiateir o dan drwydded bwrpasol syml
  • Gweithfeydd hylosgi canolig unigol gyda mewnbwn thermol graddedig sy'n llai na neu'n hafal i fewnbwn thermol o 20 MW, sydd â mewnbwn thermol o lai na 50 MW yn eu crynswth, sy'n defnyddio nwy naturiol neu olew nwy (olew tanwydd ysgafn), ar yr amod nad yw eich gwaith hylosgi canolig wedi'i leoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer
  • Gweithfeydd hylosgi canolig sy'n gweithredu am lai na 500 awr y flwyddyn, heb Derfyn Gwerth penodol ar gyfer Allyriadau
  • Gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol sydd â generaduron disel wrth gefn sy'n cael eu gweithredu am lai na 50 awr y flwyddyn ar gyfer profion, heb Derfyn Gwerth penodol ar gyfer Allyriadau penodol
  • Generaduron penodol sy'n defnyddio nwy naturiol ac sydd â mewnbwn thermol graddedig o lai na 5 MW

Darllenwch am safon Monitro allyriadau staciau: Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol risg isel ar Gov.uk

Ym mhob achos arall bydd angen i chi ddefnyddio'r safon MCERTS.

MCERTS

Lle defnyddir systemau monitro allyriadau parhaus ar Weithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol gallwch ddefnyddio safon perfformiad MCERTS ar gyfer systemau monitro risg isel.

Cymorth a chyngor

Darllenwch 'Beth i'w wneud cyn i chi wneud cais am drwydded ar gyfer gwaith hylosgi canolig annibynnol sydd â mewnbwn thermol rhwng 1 a llai na 20 MW'  cyn i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Cysylltwch â ni os ydych yn dal yn ansicr a oes angen trwydded arnoch.

Diweddarwyd ddiwethaf