Penderfyniad rheoleiddio: gofynion trwyddedu ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig cyfredol â mewnbwn o rhwng 5 a llai na 50MWth

Mae’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Gorffennaf 2024 ac erbyn hynny byddwn yn ei adolygu.

Dylech wirio eto bryd hynny i weld a yw'n dal yn ddilys.

Mae'r penderfyniad rheoleiddio hwn yn berthnasol i weithredwyr cyfarpar hylosgi canolig cyfredol â mewnbwn o rhwng 5 a llai na 50MWth.

Penderfyniad rheoleiddio

O dan Atodlen 25A Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018, rhaid fod gan weithredwyr drwydded i weithredu cyfarpar hylosgi canolig cyfredol â mewnbwn o rhwng 5 a llai na 50MWth erbyn 1 Ionawr 2024.

Efallai y bydd rhai gweithredwyr yn ei chael hi’n anodd cyflwyno eu cais am drwydded i ni mewn pryd er mwyn inni benderfynu arno a’i gyhoeddi cyn 1 Ionawr 2024.

Os bydd gweithredwr yn cyflwyno cais i ni, ac nad ydym yn ei wrthod nac yn ei ddychwelyd cyn 1 Ionawr 2024, rydym wedi penderfynu peidio â chymryd camau gorfodi am weithredu heb drwydded ar ôl y dyddiad hwn.

Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i weithredwyr gyflwyno eu ceisiadau, a mwy o amser i ni weithio drwy ein proses benderfynu.  

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw 

Rhaid i chi gyflwyno eich cais am drwydded erbyn 1 Ionawr 2024. 

Cysylltwch â ni cyn gynted ag sydd bosibl os ydych yn debygol o gael anawsterau i fodloni’r dyddiad cau, sef 1 Ionawr 2024.

Cyn i chi ddefnyddio'r penderfyniad rheoleiddio hwn

Rhaid i chi ddweud wrthym cyn 1 Ionawr 2024 os ydych chi’n bwriadu gweithredu o dan y penderfyniad rheoleiddio hwn. Mae'n rhaid i chi:

  • anfon e-bost i mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • dyfynnu RD107
  • rhoi enw cyswllt
  • rhoi cyfeiriad gweithgaredd y cyfarpar hylosgi canolig

Gorfodi 

Mae penderfyniad rheoleiddio yn golygu na fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn ar yr amod: 

  • bod eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad a nodir 
  • eich bod yn cydymffurfio â’r amodau a nodir
  • nad yw eich gweithgaredd yn achosi llygredd amgylcheddol nac yn niweidio iechyd pobl, ac nad yw'n debygol o wneud hynny 


Os ydych yn gweithredu o dan y penderfyniad rheoleiddio hwn ond yn meddwl efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â’i amodau mwyach, rhaid i chi roi’r gorau i’r gweithgaredd a’n hysbysu ar unwaith. 

Diweddarwyd ddiwethaf