Penderfyniad rheoleiddio: generaduron penodedig a ddefnyddir ar gyfer ymchwil a datblygu

Mae'r penderfyniad rheoleiddio hwn yn berthnasol i weithredwyr generadur penodedig sydd ag un neu fwy o generaduron cyfran B ar gyfer profion ymchwil a datblygu.

Mae'n ddilys tan 1 Ionawr 2025 ac erbyn hynny byddwn yn ei adolygu.

Dylech wirio eto bryd hynny i weld a yw'n dal yn ddilys.

Penderfyniad rheoleiddio

O dan Atodlen 25B Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018, rhaid i weithredwyr feddu ar drwydded i weithredu generadur penodedig gydag un neu fwy o generaduron cyfran B, ar gyfer profion ymchwil a datblygu.

Fodd bynnag, os byddwch yn cydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddio hwn, ni fyddwn yn gorfodi’r gofyniad hwn tan 1 Ionawr 2025.

Rydym wedi cyhoeddi’r penderfyniad rheoleiddio hwn oherwydd y risgiau amgylcheddol isel a geir wrth brofi’r generaduron hyn am gyfnodau byr. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw'n ymarferol nac yn fuddiol o ran cost addasu'r generaduron hyn i fodloni gwerthoedd terfyn allyriadau.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • dim ond generadur unigol sydd â chynhwysedd macsimwm o 20 megawat thermol (MWth) ydych chi'n ei brofi
  • eich bod yn profi mwy nag un generadur â chyfanswm cynhwysedd o lai na 50 MWth ar unrhyw un adeg
  • mai prif ddiben y generadur yw profi ac nid cynhyrchu trydan
  • eich bod yn ysgrifennu ac yn dilyn system reoli sy'n nodi ac yn lleihau'r risgiau o lygredd NOx (ocsidau nitrogen) i’r aer

Cyn i chi ddefnyddio'r penderfyniad rheoleiddio hwn

Rhaid i chi ddweud wrthym cyn eich bod yn bwriadu gweithredu o dan y penderfyniad rheoleiddio hwn. Mae'n rhaid i chi:

  • anfon e-bost i mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • dyfynnu RD075
  • rhoi enw cyswllt
  • rhoi cyfeiriad y gweithgaredd ymchwil a datblygu

Gorfodi

Mae penderfyniad rheoleiddio yn golygu na fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn ar yr amod:

  • bod eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad a nodir
  • eich bod yn cydymffurfio â’r amodau a nodir
  • nad yw eich gweithgaredd yn achosi llygredd amgylcheddol nac yn niweidio iechyd pobl, ac nad yw'n debygol o wneud hynny

Os ydych yn gweithredu o dan y penderfyniad rheoleiddio hwn ond yn meddwl efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â’i amodau mwyach, rhaid i chi roi’r gorau i’r gweithgaredd a’n hysbysu ar unwaith.

 

Diweddarwyd ddiwethaf