Cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer safle sylweddau ymbelydrol

Diweddariad: 31/03/2023 

 

Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.   

 

Gweler manylion y ffioedd arfaethedig yr ydym yn bwriadu eu gweithredu ar gyfer 2023-2024, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol.  

Cyn i chi wneud cais

Os hoffech newid dim ar eich trwydded, rhaid i chi wneud cais am amrywiad. Am ragor o gyngor ynglŷn â sut y gallwch newid trwydded, gweler ein ffurflenni cais a’n nodiadau cyfarwyddyd.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon cewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo eich trwydded gyfan, neu ran ohoni, i rywun arall. Gellir llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F, a llenwi’r adrannau rhan C addas.

Sylwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Help gyda'ch cais

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-C0.5 Amrywiad gweinyddol i drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol safonol neu bwrpasol (ffynonellau agored a seliedig) WORD [191.2 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-C2 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd neu drwydded rheolau safonol (ffynonellau seliedig) (Saesneg yn unig) PDF [354.4 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-C2 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd neu drwydded rheolau safonol (ffynonellau seliedig) (Saesneg yn unig) PDF [83.7 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol - Rhan RSR-C3 Amrywiad i drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol bwrpasol (safle niwclear - ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) WORD [78.7 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-C3 Amrywiad i drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol bwrpasol (safle niwclear - ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) WORD [27.9 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-C4 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd (safle an-niwclear, ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [388.1 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-C4 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd (safle an-niwclear, ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [137.1 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) WORD [200.8 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [62.8 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf