Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am drwydded lawn i dynnu dŵr o Nant Clydach yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SS 98321 92805 ym Mharc Gwledig Cwm Clydach, ger Tonypandy. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio i gynhyrchu pŵer trydan dŵr: 1,404 metr ciwbig yr awr, 33,696 metr ciwbig y dydd a 5,580,295 metr ciwbig y flwyddyn drwy’r flwyddyn.

Gwneir cais hefyd am drwydded i rwystro neu atal llif Nant Clydach yn y lleoliad uchod. Mae’r croniad yn gored newydd i reoli’r gwaith o dynnu dŵr.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-029965 & PAN-029966 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth  Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 15/12/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf