Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Pennard Burrows LTD i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres 22/59/4/0035, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o Park Mill Stream yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SS 54335 88872. Gofynnwyd am yr amrywiad er mwyn cynyddu’r symiau mwyaf sy’n cael eu tynnu o 7.3 metr ciwbig yr awr, 145 metr ciwbig y dydd a 15,000 metr ciwbig y flwyddyn i 16 metr ciwbig yr awr, 190 metr ciwbig y dydd a 40,000 metr ciwbig y flwyddyn, rhwng mis Mawrth a mis Hydref yn gynhwysol bob blwyddyn.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-029489 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth  Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 10/10/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf