DOGFEN PENDERFYNIAD CAIS AM DRWYDDED ADNODDAU DŴR
Rhifau’r ceisiadau: PAN-003335 a PAN-015604
Rhif y drwydded: WA/054/0001/0117
Rhanbarth CNC: Y Canolbarth
Dyddiad y cais: PAN-003335 18/6/2019, PAN-015604 07/10/2021
Manylion yr ymgeisydd: Montgomery Waters Limited, The Exchange Fiveways, Stryd y Deml, Llandrindod, Powys, LD1 5HG. Rhif y cwmni: 03239223
Crynodeb o’r cynnig
Yn hanesyddol, mae’r ymgeisydd wedi bod yn tynnu dŵr daear yn yr Ystog, Trefaldwyn, Powys, ers y 1990au i gynhyrchu dŵr potel. Tynnir y dŵr o sawl twll turio (17 i gyd) ar draws rhyw 2.5km2 yn ardal yr Ystog. Yn flaenorol, roedd safle’r cais wedi’i esemptio rhag trwyddedu drwy esemptiad daearyddol a sefydlwyd o dan Orchymyn Awdurdod Afon Hafren (Eithriadau rhag Rheolaeth) 1967. Roedd Deddf Dŵr 2003 yn cynnwys darpariaethau i ddileu’r esemptiad hwn. Daeth y darpariaethau hyn i rym ar 1 Ionawr 2018 yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017.
O ganlyniad i’r newidiadau deddfwriaethol hyn, mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais am drwydded o dan y broses o wneud cais am drwydded drosiannol. Mae’r broses hon yn caniatáu i symiau a dynnwyd yn hanesyddol rhwng 2011 a 2017 (y ‘cyfnod cymhwyso’) gael eu trwyddedu (cyfeirnod y cais: PAN-003335).
Oherwydd cynnydd yn y symiau o ddŵr a dynnwyd gan y cwmni o ddau o’u tyllau turio (Pwynt P a Phwynt Q) y tu allan i’r cyfnod cymhwyso, mae’r ymgeisydd hefyd yn gwneud cais i gynyddu’r symiau/y cyfnod ar gyfer y ddau dwll turio hyn. Gwnaed cais am y cynnydd hwn o dan y broses ymgeisio am drwydded safonol (cyfeirnod y cais: PAN-015604). Mae prawf pwmpio wedi’i gwblhau ar gyfer y symiau pellach arfaethedig hyn, â’r cyfeirnod caniatâd WA/054/0001/0105.
Mae’r ceisiadau wedi’u penderfynu gyda’i gilydd ac mae un drwydded wedi’i rhoi. Ystyrir bod y dull hwn yn ffafriol o safbwynt rheoleiddio gan ei fod yn caniatáu asesu effaith cyfanswm y dŵr a dynnir o ffynhonnell y cyflenwad gyda’i gilydd ac yn darparu eglurder gweithredol wrth symud ymlaen.
Ffynhonnell y cyflenwad: Strata tanddaearol sy’n cynnwys Western Flags, Betton Shale a Stapeley Volcanics yn yr Ystog, Trefaldwyn, Powys.
Mannau tynnu dŵr, a faint a dynnir: 17 twll turio wedi’u lleoli yn y Cyfeirnodau grid Cenedlaethol a ganlyn: Pwynt A: SO 28147 93751; Pwynt B: SO 28088 93998; Pwynt C: SO 28197 93621; Pwynt D: SO 27840 93869; Pwynt E: SO 28322 94232; Pwynt F: SO 28389 94180; Pwynt G: SO 28277 93801; Pwynt H: SO 28449 93755; Pwynt I: SO 28042 94187; Pwynt J: SO 27882 94372; Pwynt K: SO 28502 93996; Pwynt L: SO 28470 94104; Pwynt M: SO 28522 93887; Pwynt N: SO 28521 93800; Pwynt O: SO 28949 94162; Pwynt P: SO 28783 93546; Pwynt Q: SO 28874 93621.
Cyfanswm cyfaint y dŵr y gwneir cais i’w drwyddedu o’r holl dyllau turio yw 736.08 metr ciwbig y dydd a 218,625 metr ciwbig y flwyddyn. Mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais am gyfrinachedd masnachol mewn perthynas â’r cyfeintiau unigol i’w tynnu o bob twll turio. Felly nid yw’r cyfeintiau hyn wedi’u cynnwys yn y ddogfen penderfyniad hon. Nid yw’r cyfeintiau ar gyfer pob twll turio ar gyfer tynnu dŵr ychwaith wedi’u cynnwys yn y drwydded tynnu dŵr ddrafft a gedwir ar y gofrestr gyhoeddus. Mae fersiwn heb ei golygu (nad yw ar gael i’r cyhoedd) yn nodi’r symiau mwyaf i’w tynnu o bob twll turio. Hon fydd y fersiwn heb ei golygu y bydd CNC yn cyfeirio ati pan gaiff ei chyhoeddi ar gyfer unrhyw gamau cydymffurfio a gorfodi yn y dyfodol.
Dull tynnu dŵr: 17 twll turio heb fod â dyfnder o fwy na 106 centimetr a diamedr o fwy na 310 milimetr gyda phympiau tanddwr.
Diben y tynnu dŵr: Masnach potelu dŵr.
Cyfnod y tynnu dŵr: Trwy gydol y flwyddyn.
Hanes y cais
24/06/2018: Cais am drwydded drosiannol wedi’i gyflwyno (cyfeirnod y cais: PAN-003335).
04/02/2019: Dau rag-gais wedi’u cyflwyno i gynnal profion pwmp. Dywedodd yr ymgeisydd wrth CNC fod profion pwmp hanesyddol eisoes wedi’u cynnal. Ar y pryd, dywedodd CNC, pe bai’r profion pwmp yn darparu digon o ddata i gefnogi cais ffurfiol, na fyddai angen unrhyw brofion pwmp pellach. Tynnwyd y ceisiadau yn ôl wedyn.
03/10/2019: Dau gais llawn wedi’u cyflwyno i gynyddu tynnu dŵr o ddau dwll turio: Pwynt P a Phwynt Q. Ceisiadau wedi’u tynnu’n ôl oherwydd diffyg gwybodaeth ategol.
17/03/2022: Cais wedi’i gyflwyno i gynyddu tynnu dŵr o ddau dwll turio: Pwynt P a Phwynt Q. Cais wedi’i dynnu’n ôl ar 11/06/2020 oherwydd diffyg gwybodaeth yn yr Asesiad o’r Effaith Hydroddaearegol.
16/03/2021: Caniatâd ymchwilio dŵr daear wedi’i roi i’r ymgeisydd i gynnal prawf pwmp mewn dau dwll turio: Pwynt P a Phwynt Q; cyfeirnod WA/054/0001/0105.
17/10/2021: Cais wedi’i gyflwyno i gynyddu tynnu dŵr o ddau dwll turio: Pwynt P a Phwynt Q. Cais wedi’i ddilysu a’i dderbyn (cyfeirnod y cais: PAN-015604).
Asesu effeithiau
Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD)
Wrth asesu ceisiadau am drwyddedau tynnu dŵr, rhaid i CNC ystyried unrhyw effeithiau ar statws WFD 2000/60/EC y corff dŵr y mae dŵr yn cael ei dynnu ohono, yn ogystal ag unrhyw gyrff dŵr eraill sydd â chysylltiad hydrolegol. Yn y Deyrnas Unedig, mae Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 yn nodi gofynion cyfreithiol gyda’r nod o sicrhau bod pob corff dŵr wyneb yn cyflawni statws ecolegol da neu statws ecolegol da posibl (lle mae corff dŵr wedi’i addasu’n helaeth). Dylai corff dŵr daear fod â statws meintiol da.
Mae’r corff dŵr daear perthnasol (GB40902G205300 – Ucheldir Hafren – Paleosöig Isaf) wedi’i ddosbarthu fel un sydd â statws meintiol da. Fodd bynnag, gan na ellir diystyru cysylltedd rhwng dŵr daear a dŵr wyneb (trafodir ymhellach isod), dylid hefyd ystyried statws y corff dŵr wyneb cysylltiedig. Mae statws ecolegol cymedrol i’r corff dŵr wyneb cysylltiedig (GB109054044910 afon Camlad – o’i tharddiad i’w chydlifiad ag afon Caebitra). Ffosffadau a llygredd gwasgaredig tebygol yw’r rheswm dros beidio â chyrraedd ‘statws ecolegol da’. Mae’r corff dŵr hwn yn cyflawni ar gyfer ei gyfundrefn hydrolegol, sy’n golygu bod llifoedd yn cael eu hystyried yn ddigonol i fodloni statws ecolegol da.
Cais am drwydded drosiannol: tynnu dŵr wedi’i esemptio o’r blaen
Mae penderfynu ar y cais am drwydded drosiannol yn unol â Rheoliadau Darpariaethau Trosiannol Tynnu Dŵr 2017 a rhaid rhoi ystyriaeth i ymateb y llywodraeth yn 2017, sy’n nodi’r polisi o sut y dylid trwyddedu tyniadau dŵr a esemptiwyd o’r blaen. O fewn y polisi hwn, mae pwyslais ar y rheoleiddiwr yn defnyddio dull ‘cyffyrddiad ysgafn’ ac i roi trwydded yn seiliedig ar faint o ddŵr a dynnwyd yn hanesyddol, gyda thynnu dŵr ond yn cael ei gwtogi’n sylweddol neu ei wrthod er mwyn diogelu’r amgylchedd rhag difrod difrifol. Mae CNC o’r farn bod difrod difrifol yn digwydd lle mae tynnu dŵr wedi effeithio, neu y mae ganddo’r potensial i effeithio, ar safle dynodedig, neu lle mae tynnu dŵr yn achosi pwysau difrifol ac nad yw llifoedd yn cefnogi amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD), h.y. corff dŵr yn methu â bodloni statws ecolegol da.
Gan fod corff dŵr daear y Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wedi’i ddosbarthu fel un sydd â statws meintiol da a bod elfen llif y corff dŵr wyneb yn ei gefnogi i gyflawni statws da, mae Rheoliadau Trosiannol 2017 ac ymateb ategol y llywodraeth yn awgrymu cymhwyso 75% o gyfyngiad llif annibynnol Qn99.[1] Fodd bynnag, yn unol â’n disgresiwn rheoleiddiol, mae CNC o’r farn nad oes angen y cyfyngiad llif annibynnol hwn am y rhesymau canlynol:
- Mae’r dŵr yn cael ei dynnu o ddŵr daear. Mae statws y corff dŵr hwn ar statws meintiol da ac nid ystyrir bod y tynnu dŵr yn effeithio ar lif dŵr wyneb.
- Nid oes digon o dystiolaeth yng Nghymru y byddai llif rhagnodedig o 75% o Qn99 yn darparu unrhyw fudd amgylcheddol, neu y byddai’n debygol o arwain at unrhyw welliant i’r statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Yn olaf, ni ystyrir yn gyffredinol bod mesuryddion llif yn gweithredu’n ddibynadwy ar lifoedd mor isel, ac felly, ni fyddai unrhyw amod ar gyfer defnyddio’r llif annibynnol hwn yn cael ei ystyried yn gyfreithiol orfodadwy.
Felly, bydd tynnu dŵr o dyllau turio ‘A’, ‘B’, ‘C’, ‘D’, ‘E’, ‘F’, ‘G’, ‘H’, ‘I’, ‘J’, ‘K’, ‘L ‘, ‘M’, ‘N’ ac ‘O’ yn cael ei drwyddedu fel y gwneir cais amdano. Bydd amodau’n cael eu cynnwys yn y drwydded i gyfyngu ar faint o ddŵr a dynnir ar gyfer pob twll turio yn unol â’r hyn a dynnwyd yn hanesyddol. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded fesur, cofnodi ac adrodd ar y symiau a dynnir ar gyfer pob twll turio. Yn ogystal, bydd cyfyngiad amser ar y drwydded yn unol ag adolygiadau dalgylch yn y dyfodol.
Mae CNC wedi dod i’r casgliad nad yw’r tynnu dŵr yn debygol o gael effaith ar statws dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a bod y meintiau yn y cais am drwydded drosiannol sy’n cael eu trwyddedu yn adlewyrchu’r symiau hynny sydd wedi’u tynnu’n hanesyddol ac felly wedi’u cynnwys yn asesiadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o’r cyrff dŵr. Ystyrir bod y cyrff dŵr daear a’r cyrff dŵr wyneb yn ddigonol yn eu trefn hydrolegol ac yn cefnogi’r cyrff dŵr i gyrraedd statws da. Ni fydd unrhyw ddirywiad yn statws ecolegol y cyrff dŵr a nodwyd o ganlyniad i gydrannau’r gweithgaredd hwn y bwriedir eu hawdurdodi yn y drwydded. Ystyrir bod awdurdodi tynnu dŵr fel y gwnaed yn hanesyddol yn cadw’r sefyllfa bresennol ac na fydd yn rhwystro’r corff dŵr wyneb rhag cyflawni statws da yn y dyfodol.
Mae CNC o’r farn bod y dull hwn yn unol â’r rheoliadau a pholisïau perthnasol. Ystyrir bod trwyddedu’r tynnu dŵr a oedd wedi’i esemptio o’r blaen yn gam cyntaf tuag at reolaeth gynaliadwy, trwy brosesau adolygu cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Cais safonol: cynnydd o ran faint o ddŵr a dynnir yn nhyllau turio 23 a 24
Ystyrir bod penderfynu ar y cais i gynyddu tynnu dŵr o dyllau turio 23 a 24 yn ‘dyniad cynlluniedig’ ac nid yw wedi’i gynnwys yn y trefniadau cais am drwydded drosiannol. Rhaid ystyried y tynnu dŵr yn erbyn y Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr berthnasol, sy’n nodi sut y dylai CNC reoli argaeledd adnoddau dŵr ar gyfer trwyddedu tynnu dŵr yn awr ac yn y dyfodol yn ogystal ag ystyried anghenion amgylcheddol. Mae’r tynnu dŵr wedi’i leoli o fewn ardal Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr Coridor Hafren, sef dalgylch a reolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd sydd hefyd yn croesi i Gymru. Yn unol â’r strategaeth hon, mae dŵr wyneb sydd ar gael i’w dynnu wedi’i gyfyngu oherwydd Cynllun Rheoleiddio Afon Hafren. Nid yw argaeledd dŵr daear yn cael ei asesu gan fod y tynnu dŵr y tu allan i uned rheoli dŵr daear, felly dylid asesu ceisiadau i dynnu dŵr daear fesul achos.
Mae cyfanswm y dŵr a dynnir, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig yn nhyllau turio 23 a 24, yn gymharol fach o gymharu â llifoedd yn afon Camlad, sef tua 12% o’r Q95 yn afon Camlad. Oherwydd yr hydroddaeareg leol, mae ail-lenwi tyllau turio yn dibynnu ar faint o law sy’n disgyn yn y dalgylch. Ni ellir diystyru cysylltedd rhwng dŵr daear a dŵr wyneb yn nalgylch afon Camlad ac felly dylai unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol i ddŵr wyneb cysylltiedig fod yn berthnasol i’r tynnu dŵr daear hwn. Y cyfyngiad ‘llif annibynnol’ perthnasol yn y lleoliad hwn ar gyfer unrhyw drwydded tynnu dŵr newydd yw Q60. Hynny yw, pan fydd y llif yn yr afon yn cyrraedd y llif yr eir y tu hwnt iddo 60 y cant o’r amser (ar gyfartaledd), dylai’r tynnu dŵr ddod i ben. Yn dilyn ymgynghoriad ag Asiantaeth yr Amgylchedd, awdur Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr Coridor Hafren, cytunwyd y dylid defnyddio gorsaf fesur leol i fesur llif afonydd er mwyn gallu defnyddio llif annibynnol. Mae hyn oherwydd bod gorsaf fesur Bewdley (a leolir yn y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 781 762), fel yr awgrymir yn y Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr, wedi’i lleoli gryn bellter o’r tynnu dŵr, ac felly, nid yw mor berthnasol. Cytunwyd y dylai gorsaf fesur Pont y Gaer (a leolir yn y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 21427 99952) fod yn bwynt cyfeirio o ran cymhwyso llif annibynnol.
Mae cyfyngiad llif annibynnol o 75% o Qn99 yn golygu amod trwydded sy’n darparu bod rhaid i ddeiliad y drwydded roi’r gorau i dynnu dŵr os yw’r llif yn hafal i, neu’n disgyn islaw na, 75% o’r llif naturiol yr eir y tu hwnt iddo 99% o’r amser.
Llif afon yr eir y tu hwnt iddo ar gyfartaledd am 95% o’r amser, h.y. llif isel, yw Q95.
Lleoliad mesurydd Pont y Gaer
Dylid nodi mai darparu data lefel yr afon yn unig a wneir gan orsaf fesur Pont y Gaer. Mae tîm hydroleg CNC wedi cadarnhau bod gwerth llif Q60 yn hafal i 0.883 metr ar y mesurydd hwn. Mae’r amod canlynol wedi’i gynnwys yn y drwydded ddrafft, gyda Phwynt P yn dwll turio 23 a Phwynt Q yn dwll turio 24, ac yn cynnwys y lefel annibynnol berthnasol sy’n hafal i Q60:
Ym ‘Mhwynt P’ a ‘Phwynt Q’, ni fydd unrhyw dynnu dŵr yn digwydd pan fydd lefel afon Camlad, fel y’i mesurir gan CNC yn ei orsaf mesur lefelau ym Mhont y Gaer, yn hafal i neu’n llai na 0.883 metr fel y bydd CNC yn ei hysbysu. Bydd yr hyn a ddywed CNC wrth fesur y lefel yn derfynol.
Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod sut i gael mynediad at ddata lefel Pont y Gaer drwy ein tudalen ar y we. Bydd cynnwys y lefel annibynnol yn sicrhau, yn ystod cyfnodau o lif llai, bod unrhyw ddyfroedd wyneb sydd mewn cysylltiad â’r tynnu dŵr hwn yn cael eu diogelu. Bydd hyn yn sicrhau bod dŵr ar gael i gynnal y cynefin ecolegol ac ar gyfer unrhyw ddefnyddwyr dŵr i lawr yr afon. Mae sylwadau a gyflwynwyd o ganlyniad i hysbysebu’r ceisiadau wedi dod i law gan ddefnyddwyr dŵr lleol a phartïon â diddordeb. Mae cynnwys yr amod lefel annibynnol yn diogelu argaeledd dŵr yn ystod cyfnodau o lifoedd llai.
Effeithiau ar ecoleg:
Ni ragwelir unrhyw effaith ar ecoleg o ganlyniad i’r cynnig hwn. Mae’r safleoedd dynodedig a nodwyd o fewn ardal y tynnu dŵr ar lefel uwch o lawer, felly diystyrwyd cysylltedd â’r safleoedd hyn. Gan na ellir diystyru cysylltedd rhwng dŵr daear a dŵr wyneb, mae’r amddiffyniad llif priodol wedi’i gymhwyso i dyllau turio 23 a 24 yn unol â’r Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr leol.
Effeithiau ar bysgodfeydd:
Ni ellir diystyru cysylltedd â dyfroedd wyneb; fodd bynnag, ni ystyrir bod y tynnu dŵr daear yn atal llifoedd mewn cyrff dŵr wyneb a fydd yn cefnogi’r corff dŵr i fodloni statws ecolegol da. Mae’r tynnu dŵr a awdurdodwyd o dyllau turio 23 a 24 yn amodol ar lefel annibynnol i sicrhau bod llifoedd dŵr wyneb lleol yn cael eu hamddiffyn rhag y cynnydd mewn tynnu dŵr. Felly, ni ragwelir unrhyw effaith ar bysgodfeydd.
Effeithiau ar ansawdd dŵr:
Ni ragwelir unrhyw effaith ar ansawdd dŵr o ganlyniad i’r cynnig hwn. Nid oes unrhyw ollyngiadau trwyddedig wedi’u nodi yng nghyffiniau’r cynnig.
Ymgynghoriad statudol
Ymgynghorwyd â’r ymgymerwr dŵr statudol, Hafren Dyfrdwy Cyfyngedig, ar 15 Mehefin 2021. Ni chafodd CNC unrhyw ymateb.
Ymgynghoriad allanol
Yn unol â’i rwymedigaethau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynglŷn â’r cynnig ar 09/12/2021. Cafwyd ymateb ffurfiol ar 10/12/2021. Cadarnhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd nad oedd ganddi wrthwynebiad i’r cynnig. Dywedodd hefyd y dylid mynd i’r afael ag unrhyw achosion o randdirymiad sy’n weddill cyn i’r drwydded arfaethedig gael ei chyhoeddi ar gyfer yr amrywiad ffurfiol. Ymgynghorwyd ymhellach ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gadarnhau’r llif annibynnol priodol, fel y trafodwyd uchod.
Sylwadau allanol
Daeth tri sylw i law o ganlyniad i hysbysebu’r cais ym mhapur newydd y Powys County Times ac ar dudalen we berthnasol CNC ar ddau achlysur gwahanol. Roedd sylwadau’n codi’r potensial i’r tyllau turio tynnu dŵr fod wedi eu cydgysylltu ac y gallent effeithio ar gyflenwadau dŵr lleol ac afon Camlad. Yn ogystal, nodwyd hefyd y posibilrwydd o effaith ar eiddo a adeiladwyd ar sylfaen clai ac ymsuddiant, yn ogystal ag effeithiau newid hinsawdd a’r potensial o effeithiau yn y dyfodol.
Mae CNC yn cydnabod bod y tyllau turio tynnu dŵr yn debygol o fod yn gysylltiedig; yn ei asesiad o effaith amgylcheddol ac argaeledd dŵr y mae wedi ystyried y ddau gais gyda’i gilydd i sicrhau penderfyniad cadarn. Mae’r cyfeintiau o ddŵr a dynnir ar draws yr holl dyllau turio wedi’u hystyried gyda’i gilydd yn eu cyfanswm, gan gynnwys y cynnydd y gwnaed cais amdano yn nhyllau turio 23 a 24.
Fel y trafodwyd uchod, nid oes unrhyw gyfyngiad llif annibynnol / lefel yn cael ei gymhwyso i’r symiau o ddŵr a dynnir yn ystod y cyfnod cymhwyso, yn unol â’r dull polisi ar gyfer trwyddedu tyniadau a oedd wedi’u hesemptio o’r blaen.
Bydd y symiau ychwanegol o ddŵr y cynigir eu tynnu o dyllau turio 23 a 24 yn cynnwys mesur diogelu ar ffurf llif annibynnol. Mae hyn yn unol â’r Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr leol a bydd yn sicrhau, yn ystod cyfnodau llif is, fod tynnu yn y ddau dwll turio hyn yn dod i ben, gan helpu i ddiogelu argaeledd dŵr lleol.
Cafodd effeithiau posibl ymsuddiant eu hystyried yn ofalus gan dîm geowyddoniaeth CNC. Ystyrir ei bod yn annhebygol yr effeithir ar yr eiddo y cyfeirir ato yn y sylw fel hyn oherwydd cyfeiriad symudiad dŵr daear o’r maes lle tynnir y dŵr. Dylid nodi nad yw’r rheoliadau a pholisi’r llywodraeth yn rhoi cyfrifoldeb ar CNC am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan weithgareddau a esemptiwyd o’r blaen. Mae newidiadau a ddeddfwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 yn darparu rhwymedïau sifil ar gyfer colled neu ddifrod o ganlyniad i dyniad dŵr trwyddedig. Mae unrhyw hawliadau rhwng y tynnwr a’r parti yr effeithir arno. Oherwydd hydroddaeareg, dyfnder tyllau turio a symudiad dŵr daear, nid yw CNC yn rhagweld unrhyw effeithiau o’r fath.
Mae’r drwydded tynnu dŵr ddrafft yn cynnwys dyddiad gorffen sy’n unol â Strategaeth Trwyddedu Tynnu Dŵr Coridor Hafren, sy’n sicrhau y gellir cynnwys ystyriaeth o newid hinsawdd wrth ei hadnewyddu. Cydnabyddir bod bwriad gan y llywodraeth i dynnu dyddiadau terfyn trwyddedau tynnu dŵr yn ôl. Fodd bynnag, mae’r rhain yn debygol o gael eu disodli gan adolygiadau dalgylch yn y dyfodol, gan sicrhau y bydd cydnerthedd i newid hinsawdd yn parhau i gael ei ystyried.
Daeth sylw hefyd i law yn nodi na fu digon o gyhoeddusrwydd a chyfathrebu ynghylch y ceisiadau ac y dylai’r adroddiad ar yr effeithiau hydrolegol fod ar gael yn eang. Mae’r ceisiadau wedi’u gwneud gyda hawliad cyfrinachedd masnachol, mewn perthynas â chyfeintiau'r dŵr a dynnir ym mhob twll turio. Mae’r ymgeisydd wedi honni y gallai caniatáu i’r wybodaeth hon gael ei chadw ar ein cofrestr gyhoeddus fod o fantais i gystadleuydd. Felly, mae dogfennau sy’n cynnwys yr wybodaeth hon wedi’u heithrio o’n cofrestr ond cytunwyd gyda’r ymgeisydd y gellir cyhoeddi faint o ddŵr a dynnir yn gyffredinol. Mae CNC wedi hysbysebu’r ddau gais yn unol â’r rheoliadau perthnasol mewn papur newydd lleol ac ar ei dudalen ar y we. Yn ogystal â’r rhwymedigaeth statudol hon, cysylltwyd yn uniongyrchol â phartïon â diddordeb i’w gwneud yn ymwybodol o hysbysebu’r ceisiadau a’r cyfle i gyflwyno sylwadau. Mae CNC wedi ystyried y sylwadau’n ofalus ac wedi mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr adran berthnasol o’r adroddiad hwn a’r datganiad o benderfyniad a fydd yn cael ei rannu â phartïon â diddordeb. Mae CNC o’r farn bod y ceisiadau wedi’u hysbysebu’n briodol.
Hawliau a ddiogelir
Yn dilyn ymarfer sgrinio’r asesiad effaith, nid oes unrhyw dyniadau trwyddedig wedi’u nodi yng nghyffiniau’r cynnig. Nodwyd un tyniad dŵr dadreoleiddiedig, rhif trwydded 18/54/01/0075, yn Hoarstone Farm, i’r de o’r maes lle tynnir y dŵr. Yn dilyn hysbysebu’r cais, ni ddaeth unrhyw sylw i law o’r breswylfa hon. O’r nodweddion dŵr a gyflwynwyd fel rhan o’r asesiad o’r effaith hydroddaearegol, ceir ar ddeall nad oes unrhyw gyflenwadau dŵr preifat o fewn yr ardal yn cael eu defnyddio, ar wahân i dyniad preifat esempt sydd wedi’i leoli i’r dwyrain o faes y twll turio. Mae’r asesiad o’r effaith hydroddaearegol yn cyfeirio at y ffaith bod perchennog y tyniad dŵr hwn mewn cysylltiad â Montgomery Waters ac nad yw’n adrodd am unrhyw broblemau gyda’i gyflenwad. Dylid nodi, yn unol ag adran 102(5) o Ddeddf Dŵr 2003, y gellir trwyddedu tyniad dŵr a oedd wedi’i esemptio o’r blaen heb ystyried unrhyw effeithiau hawliau a ddiogelir. Wrth hysbysebu’r cais, ni chafwyd unrhyw sylwadau gan unrhyw feddianwyr yng nghyffiniau’r maes lle tynnir y dŵr. Daeth dau sylw i law oddi wrth eiddo y mae CNC yn ei ystyried yn bellter sylweddol ac, yn bwysicach, uchder sylweddol, oddi wrth y tyniadau dŵr. Yn y lleoliadau hyn, os bydd cyflenwadau dŵr preifat yn bodoli, mae’n annhebygol iawn i’r tynnu dŵr effeithio arnynt.
Mae’r tynnu dŵr wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer ac, yn unol â pholisi’r llywodraeth, mae angen defnyddio dull ysgafn o drwyddedu. Bydd amddiffyniad llif isel priodol y strategaeth trwyddedu tynnu dŵr yn cael ei gynnwys ar gyfer y cynnydd arfaethedig mewn tynnu dŵr ar gyfer tyllau turio 23 a 24 y gwnaed cais amdano o dan y cais am drwydded safonol. Mae CNC yn fodlon mai risg isel yw’r risg i hawliau a ddiogelir a defnyddwyr cyfreithlon ac felly dylid trwyddedu’r tynnu dŵr.
Materion cadwraeth
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r cynnig yn debygol o gael unrhyw effaith ar safleoedd a ddynodwyd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Nid oes unrhyw effaith bosibl ar unrhyw safle Natura 2000, oherwydd maint neu leoliad neu natur y prosiect.
Mae tri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi’u nodi wrth gynnal yr ymarfer sgrinio ar gyfer y cais. Daethpwyd i’r casgliad, gan fod y safleoedd hyn yn bellter ac uchder sylweddol o faes y tyllau turio tynnu dŵr, y gellir diystyru cysylltedd â’r safleoedd hyn, ac ni ragwelir unrhyw effaith.
Casgliad ac argymhelliad
Rhoddwyd ystyriaeth lawn a dyledus i unrhyw sylwadau a wnaed, a rhoddwyd y sylw dyledus i hawliau a ddiogelir a buddiannau cyfreithlon eraill. Mae egwyddorion datblygu cynaliadwy wedi’u hymgorffori yn yr amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded.
Ystyrir bod yr amodau a ymgorfforwyd ar y drwydded tynnu dŵr yn angenrheidiol ac yn rhesymol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael ac a gyflwynwyd. Ystyrir hefyd bod yr amodau yn gyson â safonau gorfodi addas gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r ceisiadau wedi’u penderfynu yn unol â’r rheoliadau trosiannol (2017) a pholisi ‘Awdurdodiadau Newydd’ yn ogystal â Deddf Adnoddau Dŵr 1991.
Cysylltwch â’r tîm CNC sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd y Tîm Trwyddedu Adnoddau Dŵr
Y Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP