Dŵr Cymru Cyfyngedig - Cefn Dryscoed Water Treatment Works, Ystradfellte Road, Pontneddfechan, Neath, SA11 5UP

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Dŵr Cymru Cyfyngedig

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-021246
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Dŵr
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Cefn Dryscoed Water Treatment Works, Ystradfellte Road, Pontneddfechan, Neath, SA11 5UP
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SN 90949 09051
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Rhagnant ddienw Nant Cawr Glas
Math o elifiant: Elifiant masnachol (ysbeidiol)
Cyfaint: 6250 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 05 Medi 2025

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf