Nuclear Restoration Services Limited - Trawsfynydd Decommissioning Site, Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, LL41 4DT
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Nuclear Restoration Services Limited
Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-028850
Math o gyfleuster rheoledig: Dyddodi gwastraff ar dir fel gweithrediad adennill
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Trawsfynydd Decommissioning Site, Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, LL41 4DT
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 23 Gorffennaf 2025.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.