Hysbysiad penderfyniad drafft: Hyppo Hydrogen Solutions Ltd Stiwdios y Bae Cyfleuster Cynhyrchu Hydrogen

Rhif y cais: PAN-028357

Math o gyfleuster rheoledig: Cynhyrchu hydrogen drwy electrolysis dŵr - Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, - Atodlen 1 Gweithfa, Rhan 1, Adran 4.2 A(1)(a)(i) Cynhyrchu cemegau anorganig megis nwyon (er enghraifft amonia, hydrogen clorid, hydrogen fflworid, hydrogen seianid, hydrogen sylffid, ocsidau carbon, cyfansoddion sylffwr, ocsidau nitrogen, hydrogen, ocsidau sylffwr, ffosgen).

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Stiwdios y Bae, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8QB.

Mae hwn yn gais ar gyfer gweithfa i gynhyrchu hydrogen trwy electrolysis dŵr gan ddefnyddio technoleg pilen electrolyt polymer. Bydd yr hydrogen gwyrdd a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd yn fflyd y Gweithredwr o gerbydau cell danwydd hydrogen. Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded.  Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:

  • Trwydded ddrafft
  • Dogfen penderfyniad drafft

Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 18 Mehefin 2025.

E-bost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf