Lefelau’r gwasanaeth trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru
Ers 1 Ebrill 2013 daeth yr holl ddyletswyddau trwyddedu (golyga hynny unrhyw gofrestriad, eithriad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad neu unrhyw awdurdodiad arall), a oedd yn gyfrifoldeb Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth Cymru i’w rheoleiddio ac, mewn rhai ardaloedd, Llywodraeth Cymru, o dan gylch gorchwyl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Golyga’r newid hwn y bydd cwsmeriaid yn cael un ymateb clir a sengl i geisiadau trwydded ac na fydd yn rhaid ymgeisio i nifer o sefydliadau gwahanol ynghylch rhai gweithgareddau.
Monitro perfformiad
Byddwn yn monitro perfformiad rheoleiddio’n glos iawn ac yn darparu gwasanaeth o ansawdd da as fydd yn cyfarfod â gofynion yr amgylchedd a busnesau yng Nghymru. Mae manylion yn Nhabl 1 o lawer o’r cyfundrefnau rheoleiddio rydym yn gyfrifol amdanynt ac o’r cyfnodau amser y byddwn yn cadw atynt.
Cyfnodau amser
Os byddwch angen penderfyniad ar gais mewn llai o amser na’r cyfnod yn Nhabl 1, trafodwch gyda ni wrth gyflwyno’r cais.
Rydym yn argymell eich bod yn ymgeisio am drwyddedau mewn da bryd (yn ddelfrydol ar ôl cael cyngor cyn ymgeisio gennym ni), gan gyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol a chan gadw’r cyfnodau amser penderfynu mewn cof. Efallai bydd ceisiadau cymhleth, sydd o gryn ddiddordeb cyhoeddus neu a allai gael cryn effaith ar leoliad sensitif, yn gofyn am gyfnod hirach i’w penderfynu nag sydd yn Nabl 1.
Rheoli’ch cais
Pan fyddwch yn cyflwyno cais i ni am drwydded, bydd un o’n swyddogion a fydd yn gyfrifol am benderfynu'ch cais yn cysylltu â chi. Bydd y swyddog hwnnw’n egluro wrthych sut y bydd y cais yn cael ei brosesu, sut y gallwch chi gysylltu a beth yw’r terfynau amser ar gyfer penderfynu. Bydd y swyddog hefyd yn trafod eich disgwyliadau gyda chi.
Byddwch yn cael gwybod hynt eich cais gydol y broses benderfynu fel eich bod yn ymwybodol o sut y mae’ch cais yn symud yn ei flaen.
Tabl 1. Cyfnodau amser statudol ar gyfer penderfynu
Trwydded/Cydsyniad/Awdurdodiad |
Cyfnod Penderfynu Statudol neu Lefel Gwasanaeth |
Math o drwydded |
---|---|---|
Trwydded Bwrpasol Gwastraff |
4 mis (Statudol) |
Gwastraff |
Trwydded Rheol Safonol Gwastraff |
3 mis (Statudol) |
Gwastraff |
Amrywiad Trwydded Gwastraff |
3 mis neu 4 mis gydag ymgynghoriad (Statudol) |
Gwastraff |
Trosglwyddo Trwydded Gwastraff |
2 fis (Statudol) |
Gwastraff |
Ildio Trwydded Gwastraff |
3 mis (Statudol) |
Gwastraff |
Cyfleusterau Gwastraff Mwyngloddio – Categori A |
9 mis (Statudol) |
Gwastraff |
Defnyddio Offer Symudol |
25 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Gwastraff |
Asesiad cynllun adfer gwastraff |
25 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Gwastraff |
Trwydded Bwrpasol Newydd o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
4 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trwydded Rheolau Safonol o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Amrywio trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Ildio trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trosglwyddo trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
2 fis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trwydded Bwrpasol Gosodiad |
4 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Amrywiad sylweddol – gosodiad |
4 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trwydded Rheolau Safonol Gosodiad |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Amrywiad Trwydded – Gosodiad |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Ildio Trwydded Gosodiad |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trosglwyddo Trwydded Gosodiad |
2 fis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trwydded bwrpasol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
4 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trwydded rheolau safonol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Amrywio trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Amrywiad sylweddol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig |
4 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trosglwyddo trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
2 fis (Statudol) |
Gosodiadau |
Ildio trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
3 mis (Statudol) |
Gosodiadau |
Trwyddedau Cwympo Coed |
91 diwrnod (13 wythnos) (Statudol) |
Coedwigaeth |
Penderfyniadau o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) |
28 diwrnod gwaith (Statudol) |
Coedwigaeth |
Cynllun Rheoli Coedwig |
91 diwrnod (13 wythnos) (Statudol) |
Coedwigaeth |
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir |
30 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop – datblygiad, prosiectau cadwraeth a choedwigaeth |
40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop – diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd |
30 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
TrwyddedRhywogaethau |
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (Morol) |
40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
Trwydded rheoli adar – diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, diogelu pysgodfeydd, gwarchod adar gwyllt, diogelu cnydau, stoc, bwydydd ar gyfer stoc, neu atal clefyd rhag lledaenu |
40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
Trwydded moch daear at ddiben datblygiad |
40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir – diwygiad (syml) |
15 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir – diwygiad (cymhleth) |
30 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwydded Rhywogaethau |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Cronfa Newydd-ddyfodiaid (Ehangu Capasiti’n Sylweddol) |
2 fis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
Adolygiad o Newidiadau Lefel Gweithgaredd System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd |
4 mis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
Adolygiad o Fonitro Allyriadau Blynyddol System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd |
4 mis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Mân Amrywiad |
2 fis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Amrywiad Sylweddol |
2 fis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Trosglwyddiad |
2 fis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Trosglwyddo Cyfuniad |
2 fis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Ildiad |
2 fis |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Dirymiad |
2 fis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Hysbysiad |
6 wythnos |
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU |
Adnoddau Dŵr – Ynni Trydan Dŵr |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Tynnu Dŵr |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cronni Dŵr |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Trwydded Dros Dro |
20 diwrnod gwaith (Statudol) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Trwydded Drosiannol (awdurdodiadau newydd) |
Yn ystod y cyfnod 01 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2022 |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Dirymu Trwydded Tynnu Dŵr |
20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Dirymu Trwydded Cronni Dŵr |
20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Gweinyddu Amrywiad, gan gynnwys rhaniadau |
20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Trosglwyddo Deiliad Trwydded a breinio trwydded |
20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Tariff Dwy Ran |
20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cyn Ymgeisio (ynni dŵr) |
45 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cyn Ymgeisio (nad yw'n ynni dŵr) |
45 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cydsyniad Ymchwilio Dŵr Daear |
45 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Adnoddau Dŵr |
Gwasgaru Pwrpasol ar Dir (Dip Defaid) |
4 mis (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Gwasgaru ar Dir (Dip Defaid) – Amrywiad |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Ildio Trwydded |
20 diwrnod gwaith (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Trosglwyddo Trwydded |
20 diwrnod gwaith (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Amrywio Trwydded |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Amrywiad Trwydded – Gweinyddol |
3 mis (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Trwydded Bwrpasol |
4 mis (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Deddf y Diwydiant Dŵr 166a |
7 a 14 o ddiwrnodau (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Deddf y Diwydiant Dŵr 166b |
3 mis (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Trwydded Rheolau Safonol |
3 mis (Statudol) |
Ansawdd Dŵr |
Trwyddedau Morol – Band 2 |
4 mis (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Trwyddedau Morol – Band 1 |
6 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Amrywiad 1 (gweinyddol) |
21 diwrnod (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Amrywiad 2 (cymhleth) (B2) |
4 mis (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Amrywiad 3 (arferol) |
8 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Trosglwyddo – Amrywiad |
21 diwrnod (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Cais am Gynllun Samplau |
4 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Rhyddhau amodau – Band 2 |
6 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Cymeradwyaeth monitro |
8 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Barn Sgrinio |
90 diwrnod (Statudol) |
Trwyddedau Morol |
Barn Gwmpasu |
90 diwrnod (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) |
Trwyddedau Morol |
Trwydded gweithgarwch perygl llifogydd |
2 mis (Statudol) |
Gweithgareddau perygl llifogydd |
Caniatadau Draenio Tir |
2 fis (statudol) |
Rheoleiddio Ardaloedd Draenio Mewnol |