Ceisiadau am drwyddedau adar: cyfrif mulfrain neu hwyaid danheddog ar afon

Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod i warchod eog yr Iwerydd neu frithyll y môr, rhaid i chi roi cyfrifiad i ni o’r adar gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar ddalgylch.

Dull sy'n seiliedig ar ddalgylch

Rydym yn eich annog i weithio gydag eraill ar eich dalgylch (fel clybiau pysgota neu ymddiriedolaethau afonydd) i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ddalgylch. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn poblogaethau bregus o eogiaid a brithyllod y môr ar adegau tyngedfennol o'r flwyddyn.

Gallwch gyflawni hyn drwy wneud y canlynol:

  • cynnal cyfrifiadau o adar sy'n nodi mannau lle mae'r ysglyfaethu ar ei uchaf fel coredau, pontydd neu ardaloedd eraill lle mae adar yn ymgynnull
  • cydlynu ag eraill i gyflwyno cais ar y cyd sy'n mynd i'r afael â'r mannau hyn mewn ffordd strategol
  • penodi trwyddedai arweiniol a fydd yn gyfrifol am y cais ac yn gyfrifol yn gyfreithiol am y drwydded
  • penodi asiantau achrededig, sy'n gyfrifol am eu rhannau eu hunain o’r afon a nodir yn y drwydded
  • cydlynu ymdrechion ar adegau tyngedfennol i sicrhau nad yw adar yn cael eu symud ymlaen i'r lleoliad bwydo nesaf ar yr afon
  • datblygu maint y rheolaeth dros amser

Rhaid i chi roi cyfrifiad adar i ni ar gyfer pob rhan o’r afon lle bydd adar sy'n bwyta pysgod yn cael eu rheoli.

Ble i gyfrif

I gynnal cyfrifiadau, rhaid i chi rannu'r afon yn rhannau nad ydynt yn fwy na phum cilometr o hyd. Rhaid i chi arolygu'r holl adrannau hyn.

Pryd i gyfrif

Rhaid i chi gynnal cyfrifiadau rhwng mis Hydref a mis Mawrth.

Cofnodi'r cyfrif

Rhaid i chi gofnodi'r manylion canlynol ar gyfer pob rhan o'r afon:

  • dyddiad y cyfrif
  • yr amser y gwnaethoch chi ddechrau'r cyfrif
  • niferoedd y mulfrain a'u hymddygiad (hedfan, clwydo neu fwydo)
  • niferoedd yr hwyaid danheddog a'u hymddygiad (hedfan, clwydo neu fwydo)

Byddwn yn gofyn i chi nodi'r wybodaeth hon yn eich ffurflen gais. 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf