Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud unrhyw waith sy'n effeithio ar rywogaeth sydd wedi ei gwarchod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
  • difrodi eu cynefinoedd, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu datblygiad tai

Mae madfallod dŵr cribog, gan gynnwys eu safleoedd bridio a'u mannau gorffwys, wedi’u diogelu gan y gyfraith.

Madfallod dŵr cribog a'r gyfraith

Mae yn erbyn y gyfraith:

  • dal, anafu neu ladd madfallod dŵr cribog
  • difrodi neu ddinistrio man bridio neu orffwys
  • rhwystro mynediad i'w mannau gorffwys neu gysgodi
  • meddu ar, cludo, gwerthu neu gyfnewid madfallod dŵr cribog byw neu farw
  • cymryd wyau madfallod dŵr cribog

Mae’n bosibl y byddech yn gallu cael trwydded gennym ni at ddibenion penodol os mae’r gwaith yr ydych chi’n dymuno ei gwblhau’n debygol o gyflawni trosedd.

Pryd nad oes angen trwydded madfallod dŵr cribog arnoch

Gallwch weithio heb drwydded os gallwch:

  • osgoi lladd neu anafu madfallod dŵr cribog
  • osgoi dinistrio eu hwyau
  • osgoi difrodi eu cynefin
  • osgoi tarfu ar fadfallod sy’n bridio

Efallai y byddwch yn gallu amseru’r gwaith i osgoi cyfnodau sensitif, felly bydd angen i chi neilltuo amser i gynllunio ar gyfer hyn yn eich amserlen waith. Efallai y bydd angen i chi gael ecolegydd i'ch cynghori.

Pryd y bydd angen trwydded madfallod dŵr cribog arnoch

Mae madfallod dŵr cribog yn bridio mewn pyllau a chyrff dŵr eraill ond maent yn dibynnu ar gynefinoedd eraill drwy gydol y flwyddyn. Mae gweithgareddau sy'n gallu effeithio ar fadfallod dŵr cribog yn cynnwys:

  • cynnal, adfer neu ddinistrio pyllau neu gyrff dŵr
  • cyflwyno pysgod i byllau a ddefnyddir gan fadfallod dŵr cribog
  • cael gwared ar lystyfiant, prysgwydd, a phentyrrau tocion a ddefnyddir gan fadfallod dŵr cribog
  • cloddio a gwaith tir arall
  • arolygon sy’n defnyddio tortshys, rhwydi neu drapiau

Rhoi gwybod am fadfallod dŵr cribog

Nid oes angen rhoi gwybod os byddwch yn gweld madfallod dŵr cribog. Rydym yn annog pobl i anfon manylion y bywyd gwyllt y byddant yn eu gweld at eu canolfan gofnodi leol.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid wybodaeth i'ch helpu i adnabod y gwahanol rywogaethau o fadfallod.

Canlyniadau prawf eDNA ar gyfer trwyddedu madfallod dŵr cribog

Nawr byddwn yn derbyn canlyniadau prawf eDNA i ddangos tystiolaeth o, neu absenoldeb Madfallod Dŵr Cribog.

Gwneud cais am drwydded madfallod dŵr cribog

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar fadfallod dŵr cribog, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded rhywogaeth.

Gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau, ac mae’r rhai mwyaf cyffredin yn cynnwys:

Pryd i gysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod y broses o ymgeisio am drwydded.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf