Trwyddedu Planhigion a Warchodir yn y DU
Gwybodaeth am y coronafirws
Ni ddylid gwneud unrhyw waith arolygu a gynlluniwyd gennych fel rhan o gais am drwydded rhywogaeth oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gafwyd gan y llywodraeth ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
- Os na allwch weithio o’ch cartref dylech ddarllen y canllawiau diweddaraf a ddarparwyd gan fusnesau amgylcheddol megis Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), RSPB neu Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).
- Gan na fydd efallai’n bosibl diweddaru eich arolygon y tymor hwn, eleni byddwn yn ymestyn hyn ac yn derbyn arolygon o'r tair blynedd diwethaf.
- Dylech gwblhau eich arolwg cyn gynted ag y cewch gyfle a phan fo’n briodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi eu codi.
Os oes gennych gwestiynau pellach gallwch gysylltu â’n tîm rhywogaethau drwy e-bost trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth gweler ein prif dudalen ar y coronafirws.
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon dadwreiddio unrhyw blanhigyn gwyllt oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tirfeddiannwr. Yn ogystal, mae dros 100 o blanhigion blodeuol a thros 75 o blanhigion is wedi’u rhestru ar Atodlen 8. Mae’r rhywogaethau hyn naill ai’n brin neu’n agored i gael eu camddefnyddio.
Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith neu ecoleg planhigion, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod planhigion Cymru.
Mae’n drosedd gwneud y canlynol i’r planhigion hyn a warchodir:
- Casglu, dadwreiddio neu eu dinistrio’n fwriadol
- Gwerthu, cynnig neu eu rhoi i’w gwerthu
Gweler y ddolen ar y dudalen hon am restr lawn o blanhigion Atodlen 8.
Mae nifer fechan o blanhigion yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop. Gweler ‘Rhywogaethau Planhigion a Warchodir gan Ewrop’ a ‘Trwyddedu Rhywogaethau Planhigion a Warchodir gan Ewrop’ i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.
Trwyddedu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru‘n rhoi trwyddedau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol er mwyn i chi allu gwneud rhai gweithgareddau heb dorri’r gyfraith. Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol:
- Gwyddonol ac addysgol
- Gosod modrwy neu nod
- Gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol
- Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
- Ffotograffiaeth
- Iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
- Atal clefyd rhag lledaenu
- Atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati
Gweler y ffurflen gais amgaeedig, ‘Planhigion – ffurflen gais’. Os ydych am werthu rhywogaeth a warchodir yn y DU, gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaeth a Warchodir’.
Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwneud gwaith datblygu o dan y ddeddfwriaeth hon. Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith datblygu a allai effeithio ar blanhigion dylech wneud yn siŵr eich bod yn aros o fewn y gyfraith.