Meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
Mae yn erbyn y gyfraith i feddu ar rywogaethau byw neu farw a warchodir gan Ewrop a'r DU, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.
Gallwn ddyrannu trwydded os ydych yn bwriadu meddu ar rywogaethau a warchodir, a gludir, a werthir neu a gyfnewidir.
Nid yw'n anghyfreithlon i chi feddu ar rywogaeth anabl a warchodir, dros dro, i'w thrin a'i rhyddhau'n ddiweddarach. Mae hyn ond yn gymwys gyhyd â na chafodd yr anaf ei beri gan weithred anghyfreithlon.
Deddfwriaeth Ewropeaidd
Yn ôl Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 mae'n anghyfreithlon gwneud y canlynol:
- meddu ar
- rheoli
- cludo
- gwerthu neu gyfnewid
- cynnig gwerthu neu gyfnewid
Unrhyw rywogaethau a warchodir Ewropeaidd byw neu farw sydd wedi cael eu cymryd o'r gwyllt.
Deddfwriaeth y DU
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon i feddu ar y canlynol:
- unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw
- wy aderyn gwyllt neu unrhyw ran o wy
- unrhyw anifail marw neu fyw sydd wedi'i restru yn Atodlen 5
- unrhyw blanhigyn marw neu fyw sydd wedi'i restru yn Atodlen 8
Mae yna droseddau tebyg sy'n ymwneud â gwerthu, cynnig neu arddangos ar werth ar gyfer anifeiliaid Atodlen 5 a phlanhigion Atodlen 8.
Mae Deddf Diogelu Moch Daear 1992 yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon i feddu ar fochyn daear marw. Mae hefyd yn drosedd meddu ar fochyn daear byw neu ei reoli.
Trwyddedau meddiant
Gallwn ddyrannu trwyddedau meddiant dan y canlynol:
- Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd)
- Deddf Gwarchod Moch Daear 1992
Gallwn ddyrannu'r trwyddedau hyn at ddibenion penodol yn unig.
Gallwn ddyrannu trwyddedau ar gyfer meddiant sbesimen byw neu farw at ddibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol. Byddwn yn dyrannu trwydded os gallwch ddangos y rheswm gwyddonol neu addysgol dros feddu ar sbesimen yn unig.
Cyflwyno cais am drwydded i feddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
Os oes angen trwydded arnoch i feddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni cais hyn.
Ffurflen gais meddu ar rywogaethau a warchodir
Ffurflen gais gwerthu neu gyfnewid rhywogaethau a warchodir
Mae yna ddwy drwydded gyffredinol sy'n ymwneud â meddiant. Mae un ar gyfer aelodau llawn o'r Urdd Tacsidermyddion:
Mae'r llall ar gyfer:
Mae Deddf Ceirw 1991 yn cyfyngu ar y dulliau o ladd a chymryd ceirw. Trwyddedir gwerthu cig carw dan Ddeddf Hela 1831 a'r Ddeddf Trwyddedau Hela 1860. Nid ydym yn dyrannu trwyddedau dros ladd na chymryd ceirw.
Caiff masnach ryngwladol ei rheoleiddio gan y Confensiwn Masnach Rhyngwladol mewn Rhywogaethau Fflora a Ffawna Gwyllt dan Fygythiad. Gallwch weld rhestr o'r rhywogaethau yr ymdrinnir â hwy yn y ddeddfwriaeth masnach ryngwladol ar y wefan species+.