Gwirio pellteroedd gwahanu

Mae hyn yn rhan o’r canlluniau atal a lliniaru tân

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio pellter gwahanu eich pentwr gwastraff a hyd y pentwr.

Cyn i chi ddechrau

I wirio'r isafswm pellter gwahanu sydd ei angen mae angen i chi wybod:

  • a yw eich math o wastraff yn gyffredinol neu'n blastig/rwber - mae gwastraff cyffredinol yn cynnwys gwastraff fel Tanwydd sy'n Deillio o Sbwriel (RDF), Tanwydd Solet wedi'i Adfer (SRF), pren a phapur
  • dull storio, megis pentyrrau rhydd neu fyrnau ac agosrwydd at adeiladau
  • hyd eich pentwr


Gallwch hefyd wirio hyd y pentwr os, er enghraifft, mae’r pellter gwahanu wedi'i gyfyngu gan faint y safle.

I wirio’r hyd uchaf y gall eich pentyrrau fod, mae angen i chi wybod:

  • a yw eich math o wastraff yn gyffredinol neu'n blastig/rwber - mae gwastraff cyffredinol yn cynnwys gwastraff fel Tanwydd sy'n Deillio o Sbwriel (RDF), Tanwydd Solet wedi'i Adfer (SRF), pren a phapur
  • dull storio, megis pentyrrau rhydd neu fyrnau ac agosrwydd at adeiladau
  • pellter gwahanu rhwng eich pentyrrau

Diweddarwyd ddiwethaf