Penderfyniad rheoleiddio 106: Casglu a storio tanwydd cymysg o gerbydau sydd wedi'u llenwi'n anghywir

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Bob dydd mae cannoedd o yrwyr yn rhoi’r math anghywir o danwydd yn eu cerbydau – gelwir hyn yn ‘gam-lenwi tanwydd’. Gellir tynnu’r cerbyd i garej leol, lle caiff y tanwydd cymysg ei dynnu allan a’i storio mewn cynhwysydd neu danc, a lle caiff y cerbyd ei ail-lenwi â thanwydd. Yna mae'r garej yn trefnu i'r tanwydd cymysg gael ei symud o dan nodyn cludo gwastraff peryglus.

Fel arall, gall cerbydau casglu arbenigol dynnu tanwydd cymysg yn uniongyrchol o'r cerbyd y cafodd y tanwydd anghywir ei roi ynddo. Pan fydd tanc y cerbyd casglu arbenigol wedi'i lenwi i'w gapasiti gweithio diogel, neu ar ddiwedd y dydd, mae'r cerbyd yn mynd yn ôl i ddepo neu safle diogel a reolir gan weithredwr cymorth cerbydau ac yn gwagio’i lwyth o danwydd cymysg i cyfleuster storio.

Mae'r tanwydd cymysg yn wastraff peryglus a rhaid cydymffurfio â'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Fodd bynnag, ni fyddwn yn mynd ar drywydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer casglu a storio tanwydd cymysg o gerbydau y rhoddwyd y tanwydd anghywir ynddynt:

  • pan fo'r cerbyd casglu arbenigol wedi'i ddylunio a dim ond yn cael ei ddefnyddio i symud a chludo tanwydd cymysg o gerbydau sydd wedi'u llenwi â'r math anghywir o danwydd
  • pan gydymffurfir â'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus
  • pan fo'r tanwyddau cymysg wedi’u gwagio i danc neu gynhwysydd diogel sydd â system atal eilaidd â chapasiti o 110% o'r tanc neu’r cynhwysydd
  • pan mai dim ond y gweithredwr cymorth cerbydau hyfforddedig sy'n trosglwyddo'r tanwydd cymysg i'r cynhwysydd storio. Rhaid gwneud hyn gan ddefnyddio pwmp gwrth-fflam y cerbyd ac erbyn diwedd y diwrnod gwaith
  • pan fo'r tanc neu’r cynwysyddion a ddefnyddir i storio'r tanwyddau cymysg yn cydymffurfio â BS EN12285-2: 2005 ar gyfer tanciau sydd o dan y ddaear, neu UL 2085 ar gyfer tanciau sydd uwchben y ddaear. Ni chaiff cyfanswm capasiti’r tanc hwnnw ar y safle storio fod yn fwy na 23,000 litr. Pan fo symiau’r tanwydd cymysg yn llai na 1,000 litr, rhaid i gynwysyddion fod yn “addas i’r diben” mewn storfa gwrth-fflam
  • pan fo gan y tanc neu'r cynhwysydd system atal gorlenwi, er enghraifft larwm lefel uchel
  • pan fo gweithdrefnau ar waith i roi gwybod i berchennog y cyfleusterau storio am unrhyw achosion o orlenwi a sut i ymateb
  • pan fo pecyn gollyngiadau olew ar gael fel y gall y gweithredwr cymorth cerbydau ymateb yn gyflym i reoli unrhyw ollyngiadau
  • pan fo’r tanwyddau cymysg wedi’u casglu o'r safle storio gan dancer tanwydd â chymeradwyaeth ADR i'w cludo i gyfleuster adfer awdurdodedig. Neu mae angen i’r contractwr gwastraff sicrhau bod y trothwyon cywir yn gymwys fel bod modd cludo’r tanwydd cymysg fel “llwyth bach” at ddibenion ADR.

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff panydych yn casglu ac yn storio tanwydd cymysg o gerbydau y rhoddwyd y tanwydd anghywir ynddynt.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf