Penderfyniad Rheoleiddio 121: Gosod offer monitro ar raddfa fach mewn prif afon
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ddilys tan fis Hydref 2030. Fodd bynnag, caiff ei adolygu ar ôl 3 blynedd i sicrhau na fu unrhyw newid o ran y risg ac nad yw amgylchiadau na diben y Penderfyniad wedi newid. Dylech wirio yr adeg honno i sicrhau bod y Penderfyniad Rheoleiddio yn dal yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r Penderfyniad hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.
Y Penderfyniad Rheoleiddio
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn berthnasol i osod a gweithredu offer monitro ar raddfa fach mewn prif afon. Mae prif afon yn gwrs dŵr sydd wedi’i ddynodi felly gan CNC ac wedi’i gofnodi ar y map o brif afonydd Cymru.
Fel arfer, mae angen Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd ar gyfer y gweithgaredd hwn o dan Atodlen 25 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Fodd bynnag, os byddwch yn cydymffurfio â’r amodau a gyflwynir isod, ni fyddwn yn gorfodi’r gofyniad hwn.
Rydym wedi cyhoeddi’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn oherwydd y risgiau isel o ran llifogydd a’r amgylchedd a achosir gan y gweithgaredd. Rydym hefyd yn cydnabod mai at ddibenion monitro amgylcheddol y caiff y math hwn o offer ei osod fel arfer.
Nid yw’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn berthnasol i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatadau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill rydych yn eu cynnal.
Dim ond i offer monitro ar raddfa fach sy’n effeithio ar brif afonydd y mae’r Penderfyniad hwn yn berthnasol. Os ydych yn gwneud gwaith ar gwrs dŵr cyffredin (unrhyw gwrs dŵr nad yw wedi’i ddiffinio’n benodol fel ‘prif afon’), yna rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod lleol arweiniol perthnasol ar gyfer llifogydd.
Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni’r holl amodau canlynol er mwyn cydymffurfio â’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn.
Rhaid i’r offer yn y brif afon fodloni’r amodau canlynol:
- ni chaiff fod yn ddim mwy na 1.5m x 1m x 0.5m
- rhaid iddo fod wedi’i gysylltu’n gyfan ac yn ddiogel â’r gwely neu’r lan. Os ydych yn defnyddio rafft barhaol neu led-barhaol i gynnal yr offer, bydd angen iddi gydymffurfio ag Esemptiad 16 neu rhaid i chi wneud cais am drwydded bwrpasol
- ni chaiff fod yn ei le am fwy na 5 mlynedd heb hysbysiad pellach a rhaid ei dynnu cyn gynted ag y bo’n ymarferol os nad oes ei angen mwyach. Os byddwch yn gwneud hysbysiad newydd, rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd wedi newid
- ni ddylid ei osod o fewn 5m i unrhyw gwlfert na strwythur rheoli llif o fewn y brif afon
- dylid dylunio a gosod unrhyw ddwythellau/ceblau fel nad ydynt yn achosi perygl llifogydd, e.e. sicrhau nad oes malurion yn cronni
- ni ddylai’r offer ymyrryd â mynediad CNC ar gyfer cynnal a chadw er mwyn galluogi gwaith rheoli perygl llifogydd
- ni ddylai’r offer arwain at angen i wneud unrhyw waith ychwanegol i’r gwely na’r lan
Yn ogystal, rhaid i’r gwaith o osod yr offer beidio ag amharu ar wely a glannau’r brif afon y tu hwnt i’r lleiafswm angenrheidiol, nac achosi unrhyw lygredd.
Os na allwch fodloni’r amodau hyn, bydd angen i chi wneud cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd.
Cyn defnyddio’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn
Rhaid i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw o’ch bwriad i weithredu o dan y Penderfyniad Rheoleiddio hwn. Rhaid i chi roi gwybod i ni am bob lleoliad lle bwriedir defnyddio’r Penderfyniad cyn gosod yr offer.
Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eich e-bost:
- dyfynnwch RD121
- y cyfeirnod grid ar gyfer lleoliad yr offer ar ffurf 2 lythyren a 10 digid
- disgrifiad o’r offer sydd i’w osod
- manylion cyswllt (gan gynnwys enw, cyfeiriad ac e-bost/rhif ffôn cyswllt)
Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at y tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd perthnasol yn:
Gorfodi
Nid yw’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol arnoch i sicrhau trwydded amgylcheddol ar gyfer gosod offer monitro ar raddfa fach mewn neu ger prif afon, ac i gydymffurfio â’r drwydded.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen am drwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y Penderfyniad Rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio â:
- chynyddu perygl llifogydd neu achosi rhwystr i ddraeniad y tir
- achosi risg i’r dŵr, yr aer, y pridd, planhigion nac anifeiliaid
- achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
- effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig