Penderfyniad rheoleiddio 036: Ffaglu nwy petrolewm hylifedig ar safleoedd cerbydau diwedd oes

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2024, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol 

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i ffaglu nwy petrolewm hylifedig (LPG) a dynnwyd oddi wrth gerbydau ar safleoedd trwyddedig ar gyfer cerbydau diwedd oes. 

Nid yw trwydded cerbydau diwedd oes ar gyfer trin gwastraff yn eich awdurdodi i ffaglu nwy petrolewm hylifedig. Fodd bynnag, os dilynwch yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cewch ffaglu nwy petrolewm hylifedig sydd wedi’i dynnu oddi wrth gerbydau diwedd oes yn ystod y broses o’u dadlygru, heb newid eich trwydded amgylcheddol. 

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn a'ch bod am ffaglu nwy petrolewm hylifedig, mae angen i chi wneud cais i newid eich trwydded. 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni. 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • tynnu’r nwy petrolewm hylifedig oddi wrth danc tanwydd y cerbyd gan ddefnyddio system sydd wedi’i dylunio a’i gweithgynhyrchu’n benodol ar gyfer glanhau tanciau nwy petrolewm hylifedig cerbydau a ffaglu nwy
  • llwyrlanhau a ffaglu mewn rhan o'r safle sydd wedi'i nodi a’i dynodi'n glir, i ffwrdd o ddeunyddiau hylosg a fflamadwy 
  • cynnwys manylion y broses a'r lleoliad ar gyfer llwyrlanhau a ffaglu yn eich Cynllun Atal a Lliniaru Tâncynnal asesiad o dan y Rheoliadau Awyrgylcheddau Ffrwydrol a Sylweddau Peryglus a rhoi mesurau ar waith i ddileu neu reoli’r risgiau 
  • labelu’n glir y tanciau yr ydych wedi’u tynnu oddi wrth gerbyd er mwyn nodi eu bod wedi’u llwyrlanhau, a’u hanfon i gael eu hadfer ar safle trwyddedig 
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais 

Ni chewch lwyrlanhau na ffaglu ar y safle unrhyw nwy heblaw nwy petrolewm hylifedig o danciau nwy petrolewm hylifedig modurol. 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn ffaglu nwy petrolewm hylifedig ar safleoedd cerbydau diwedd oes. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf