Penderfyniad rheoleiddio 102: Defnyddio teiars car gwastraff i adeiladu ysgolion dianc mewn cronfeydd storio dŵr

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol 

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych yn defnyddio teiars car gwastraff i gynhyrchu ysgolion dianc mewn cronfeydd dŵr heb drwydded amgylcheddol. 

Mae’r llyfryn canllaw: Thinking about an irrigation reservoir?, a gynhyrchwyd gan Brifysgol Cranfield ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn argymell y defnydd o deiars ceir gwastraff wedi'u cysylltu â'i gilydd i greu ysgol i'w defnyddio wrth adeiladu cronfeydd dŵr â leinin synthetig. Pwrpas yr ysgol yw creu llwybr dianc i'w ddefnyddio mewn argyfwng ac i gadw pwysau ar y leinin pan fo lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr yn isel. 

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn rheoleiddio’r defnydd o wastraff a sut y ceir gwared arno. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw esemptiadau na Thrwyddedau Rheolau Safonol yn eu lle sy'n caniatáu defnyddio teiars car gwastraff yn y modd hwn. 

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol. 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Ni fyddwn yn mynd ar drywydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd: 

  • pan ydym wedi cael gwybod am y defnydd arfaethedig ac wedi cadarnhau yn ysgrifenedig bod y cynnig yn cyd-fynd â chwmpas y datganiad hwn. Rhaid cyflawni'r prosiect yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno
  • pan sicrheir nad yw’r ysgolion teiars yn agosach na 10m i’w gilydd
  • pan sicrheir na ddefnyddir mwy na’r uchafswm o 1,000 o deiars ar gyfer y prosiect a’u bod yn cael eu storio mewn pentyrrau o ddim mwy na 500 o deiars gyda bwlch tân o 10 metr rhwng y pentyrrau.
  • pan sicrheir nad yw unrhyw deiars yn dod i'r safle cyn i'r gwaith ddechrau a’u bod yn cael eu storio am ddim mwy na thri mis cyn cael eu defnyddio
  • pan fo cais am drwydded tynnu dŵr eisoes wedi'i ganiatáu
  • pan fo’r prosiect wedi cael caniatâd cynllunio (pan fo’n gymwys) gan yr awdurdodau perthnasol 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio teiars car gwastraff i adeiladu ysgolion dianc mewn cronfeydd storio dŵr. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf