Penderfyniad rheoleiddio 101: Defnyddio diffoddwyr tân gwastraff ar gyfer hyfforddiant

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol 

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â phryd y gallwch storio a defnyddio diffoddwyr tân gwastraff i hyfforddi pobl i ddiffodd tanau. 

Nid yw hyn yn newid eich rhwymedigaethau cyfreithiol i wneud y canlynol: 

  • cael trwydded amgylcheddol
  • cofrestru esemptiad gwastraff ar gyfer gweithrediad gwastraff
  • cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol arall
     

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Rhaid: 

  • dim ond yn storio a defnyddio diffoddwyr tân gwastraff ar gyfer ymarferion hyfforddi
  • dim ond yn defnyddio diffoddwyr tân gwastraff nad oes angen unrhyw driniaeth neu atgyweirio arnynt
  • dim ond storio neu ddefnyddio hyd at 100 o ddiffoddwyr tân gwastraff ar unrhyw adeg
  • dim ond rhyddhau cynnwys diffoddwyr tân gwastraff dŵr neu diffoddwyr tân gwastraff carbon deuocsid a ddosberthir fel cod gwastraff 16 05 05 

Ni chewch ddefnyddio diffoddwyr tân ewyn neu ddŵr sy'n cynnwys asid perfflworooctanoig neu fflworo-arwynebyddion. Os ydych chi'n ansicr, gwiriwch y ddalen ddata diogelwch deunyddiau gan eich cyflenwr diffoddwyr tân cyn i chi ddefnyddio'r diffoddwyr tân ar gyfer hyfforddiant. 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio diffoddwyr tân gwastraff at ddibenion hyfforddi. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf