Penderfyniad rheoleiddio 096: Gweithfeydd trin elifion gwastraff: pan na fydd angen trwydded amgylcheddol o bosibl

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych yn trin elifion gwastraff mewn gwaith trin elifion heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff neu ar gyfer gosodiad gwastraff. 

Fel arfer mae angen trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff neu ar gyfer gosodiad gwastraff arnoch er mwyn gallu trin elifion gwastraff. Fodd bynnag, os ydych yn cydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoliadol hwn cewch drin elifion gwastraff mewn gwaith trin elifion heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff neu ar gyfer gosodiad gwastraff. 

Mae enghreifftiau o weithfeydd elifion gwastraff a allai gael eu cwmpasu gan y penderfyniad rheoleiddiol hwn yn cynnwys:

  • gweithfeydd trin dŵr sy'n trin slwtsh
  • safleoedd tirlenwi caeedig sy'n trin trwytholchion
  • safleoedd gweithgynhyrchu bach nad ydynt uwchlaw’r trothwy ar gyfer cael eu trwyddedu o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol. 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Ni fyddwn yn mynd ar drywydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd: 

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol ond yn gymwys i weithfeydd trin elifion gwastraff nad ydynt yn gwasanaethu unrhyw weithgareddau eraill a reoleiddir o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ac sydd wedi’u hawdurdodi gan un o’r canlynol: 

  • cydsyniad elifion masnach o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr
  • gweithgaredd gollwng dŵr o dan Atodlen 21 i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Ni chaniateir defnyddio’r gwaith elifion gwastraff ond i drin hylif a dŵr gwastraff a gynhyrchir ar y safle – ni chewch eu mewnforio o safleoedd eraill. 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn trin elifion gwastraff mewn gwaith trin elifion heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff neu ar gyfer gosodiad gwastraff. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf