Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi fod â thrwydded cronni dŵr cyn cychwyn adeiladu, addasu, atgyweirio neu dynnu adeiledd cronni dŵr.

Nid yw rhai gweithgareddau yn cael llawer o effaith ar lif neu lefelau dŵr, hyd yn oed mewn amodau llif isel. Pan nad yw'r croniadau dŵr hyn yn cael llawer o effaith ar yr amgylchedd a defnyddwyr dŵr eraill, neu ddim effaith o gwbl, mae'n bosibl na fydd angen trwydded arnoch ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Gallwch wneud cais am drwydded cronni dŵr o hyd os byddai’n well gennych gael un. Mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer rhai cynlluniau achredu.

Os ydych yn dod i’r casgliad nad oes angen i chi gyflwyno cais i ni am drwydded, dylech gadw copi o'ch rhestr wirio a thystiolaeth ategol (er enghraifft, lluniau a dynnwyd cyn ac ar ôl y gwaith a mesuriadau) ar gyfer eich cofnodion. Bydd yn dystiolaeth eich bod wedi cynnal asesiad ac yn dogfennu eich penderfyniad nad oes angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr. Mae'n bosibl y gwnawn ofyn i chi ddarparu copi i ni.

Mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am ganiatadau neu drwyddedau eraill o hyd.

Cyn i chi gychwyn gwaith ar adeiledd presennol, bydd angen i ddarganfod y canlynol:

  • a oes trwydded eisoes wedi'i rhoi neu’n mynd i gael ei rhoi – gallwn eich helpu i wneud hyn
  • pwy sy’n berchen ar yr adeiledd – dylech geisio’i ganiatâd i wneud y gwaith neu i gymryd trwydded drosodd sydd eisoes yn bodoli

Croniadau dŵr nad oes angen trwydded ar eu cyfer

Ceir sawl eithriad lle nad oes angen trwydded cronni dŵr. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • gwaith a adeiladwyd cyn 1 Ebrill 2006, heblaw pan roddir hysbysiad o dan Adran 3 Ddeddf Dŵr 2003 sy'n ei gwneud yn ofynnol gwneud cais am drwydded. Bydd unrhyw waith a gynhelir ar y gwaith hwn ar ôl Ebrill 2006 yn ddarostyngedig i’r gofynion trwyddedu arferol
  • lle awdurdodir croniad dŵr drwy orchymyn sychder neu drwydded sychder
  • lle awdurdodir adeileddau gan ddarpariaeth statudol arall (er enghraifft Deddf Seneddol)
  • lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi hysbysiad bod angen croniad at ddiben sgrinio neu lwybr ar gyfer llyswennod yn benodol
  • adeiladu neu addasu gwaith cronni dŵr o fewn rhanbarth bwrdd draenio mewnol lle (a) mae'r adeiledd yn cael ei adeiladu neu ei addasu gan, neu ar ran, y bwrdd hwnnw mewn perthynas â'i swyddogaethau, a (b) lle dechreuodd y gwaith adeiladu neu addasu ar ôl i'r Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017 ddod i rym ar 1 Ionawr 2018
  • adeiladu neu addasu gwaith cronni dŵr mewn system gwlyptir a reolir os (a) unig ddiben y gwaith yw rheoli, gweithredu neu gynnal lefelau neu lifoedd dŵr yn y system gwlyptir a reolir hwnnw, a (b) lle dechreuodd y gwaith adeiladu neu addasu ar ôl i'r Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017 ddod i rym ar 1 Ionawr 2018.

A fydd eich gweithgarwch yn arwain at newid yn llif neu lefel y dŵr?

Bydd angen i chi ystyried sut fydd eich cynnig yn newid llif, swm neu lefel y dŵr.

Os gallai eich croniad dŵr, neu addasiadau iddo, neu dynnu croniad dŵr sy’n bodoli eisoes, achosi newid yn lefel, swm neu’r parhad yn llif y dŵr, bydd angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr.

Gall croniadau dŵr, neu addasiadau i groniadau dŵr arwain achosi’r effeithiau canlynol:

  • addasu'r llif sy'n mynd i lawr yr afon, felly gallai fod llai o ddŵr ar gael i eraill neu'r amgylchedd
  • newid y patrwm o ran sut mae'r dŵr yn llifo dros adeiledd
  • newid lefel y dŵr a nodweddion ffisegol afon
  • newid ffurf ffisegol, a phrosesau erydu a dyddodi afon a'i gynefinoedd cysylltiedig
  • peri gwneud mudo pysgod, un ai i fyny neu i lawr yr afon, yn anos, ac felly lleihau cysylltedd cynefinoedd a chydnerthedd ecolegol.

Er enghraifft, gallai adeiladu cored newydd, gweithredu hen adeileddau sydd angen unrhyw addasiadau (gan gynnwys ailadeiladu neu dynnu rhan o'r adeiledd neu’r adeiledd cyfan), neu ychwanegu adeileddau, megis tyrbinau ynni dŵr, llifddorau a fflodiardau, achosi newid yn lefel, swm neu lif y dŵr.

A yw eich gweithgaredd arfaethedig yn peri risg isel?

Rydym yn cydnabod yr ystyrir bod rhai gweithgareddau yn peri risg isel ac mai ychydig o effaith y maent yn eu cael ar yr amgylchedd, defnyddwyr dŵr, a hawliau eraill.

Gall gwaith dylunio ac ystyriaeth dda wrth gynllunio eich gweithgaredd arfaethedig sicrhau na fydd yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, hawliau gwarchodedig a defnyddwyr dŵr eraill.

Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded ar gyfer cynigion lle mae’r risg yn isel.

Cofiwch, bydd angen i chi wirio o hyd os yw trwydded sy'n bodoli eisoes yn cynnwys y gweithgareddau hyn a ph'un a fydd angen i chi gael caniatadau, cydsyniadau neu drwyddedau eraill.

Enghreifftiau o groniadau dŵr â risg isel

Mae'r cynigion isod yn enghreifftiau o rai â risg isel.

Nid yw rhai o'r cynigion yn y rhestr wedi’u dosbarthu'n gyfreithiol fel croniadau dŵr ond ceir ymholiadau yn eu cylch yn aml.

Gweithgareddau newydd

  • llwybrau pysgod sydd wedi’u cymeradwyo’n ysgrifenedig yn ffurfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac nad ydynt yn cael effaith sylweddol ar ddosbarthiad y llif dros y gored
  • gosod hollt mewn cored i hwyluso mudo pysgod
  • gosod deunydd naturiol ar draws rhan o'r sianel (a'i glymu lle bo angen), tebyg i’r hyn a geid yn y dalgylch (e.e. canghennau), er mwyn amrywio llifau, er enghraifft mewn prosiectau adfer afon.
  • adeileddau o fewn y sianel sydd â rheolaeth benodol neu oddefol ar gyfer atal llifogydd, sydd ond yn dal yn ôl, arafu llif, neu ddargyfeirio dŵr llifogydd. (Bydd o’n ofynnol cael trwydded cronni dŵr ar gyfer adeileddau sydd â gatiau symudol neu lifddorau).
  • falfiau fflap sydd ond yn gweithredu yn ystod llifogydd.
  • adeileddau mesur bach a thros dro (h.y. dim mwy na chwe mis), megis coredau â hollt bach petryal neu hollt siâp V na fydd yn cronni swm sylweddol o waddodion.

Cynnal adeiledd sy’n bodoli eisoes

Golyga hyn waith cynnal adeiledd sy’n ymwneud â chynnal a chadw, diogelu neu ofalu am yr adeiledd, ond nid cynyddu dimensiynau'r adeiledd na newid lefel neu lif dŵr i fyny neu i lawr yr afon.

Er enghraifft:

  • gwaith cynnal a chadw arferol ar lifddorau
  • gwaith ail-bwyntio (adeileddau o waith blociau)
  • atgyweiriadau, er enghraifft i uniadau ehangu, cerrig gosodedig neu lan/mur yr afon
  • llenwi gwagleoedd (mewn adeileddau ‘solet’)
  • rheoli llystyfiant
  • gwaith glanhau llaid arferol o ran o'r adeiledd
  • gwaith ail-leoli (cerrig, rwbel neu waith blociau mewn adeileddau diogelu glannau)
  • disodli elfennau nad ydynt yn cyfrannu at ddisodliad graddol yr adeiledd cyfan
  • gwaith ail-wynebu
  • gwaith sgimio/gorchuddio
  • tynnu rhwystrau, gan gynnwys clirio sgriniau
  • growtio argloddiau.

Sylwer y gallai fod yn ofynnol cael trwyddedau a chydsyniadau eraill ar gyfer rhai o'r gweithgareddau neu dasgau cynnal a chadw uchod nad ydynt yn cael eu cyflawni'n rheolaidd.

Gall tynnu neu amharu ar waddodion achosi llygredd ac effeithio ar gludiant gwaddodion i lawr yr afon. Mae peri i unrhyw sylwedd llygredig fynd i mewn i afon, gan gynnwys llaid neu waddodion, neu ganiatáu i hynny ddigwydd yn fwriadol, yn drosedd, a gallai fod yn groes i amodau unrhyw drwydded a ddelir gennych.

Darllenwch fwy am lygredd wrth weithio ar, neu wrth ymyl afon ar wefan NetRegs

Gwaith amrywio

Golyga hyn waith sy'n dargyfeirio dŵr yn yr ardal gyfagos, dros dro, yn ystod gwaith adeiladu neu gynnal a chadw adeiledd, neu weithgareddau awdurdodedig eraill yn y sianel, nad ydynt yn cael effaith ar unrhyw ddefnyddwyr dŵr neu hawliau eraill, neu'r amgylchedd.

Gweithgareddau eraill

Gall gweithgareddau eraill yr ystyrir eu bod â risg isel gynnwys y canlynol:

  • unrhyw weithgaredd y tu allan i'r sianel, er enghraifft ar frig y glannau afon, megis gosod cynheiliaid pontydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu wneud gwaith cynnal a chadw arnynt
  • gwaith yn yr afon, sy'n gyfochrog a chyfagos i'r lan nad yw'n culhau'r sianel yn sylweddol, er enghraifft gosod dalennau cynnal, rip-rap, gwaith blociau, a waliau cynnal ar gyfer diogelu rhag erydu
  • gosod wal troi tonnau ar argae cronfa ddŵr sy’n bodoli eisoes na fwriedir iddi gronni unrhyw ddŵr ychwanegol
  • cynyddu uchder waliau ochr y gorlifan (nad ydyw'n newid lefel y dŵr a gronnir)
  • addasu, symud neu adeiladu gorlifan heb gynyddu lefel y dŵr a gronnir, neu newid trefn y llif i lawr yr afon er anfantais i’r amgylchedd.

Sylwer y bydd yn debygol o fod yn ofynnol meddu ar drwyddedau eraill ar gyfer yr holl weithgareddau uchod, gan gynnwys y canlynol:

Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin gan eich awdurdod lleol

Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Caniatâd Draenio Tir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhestr wirio i'ch helpu i benderfynu os yw eich croniad dŵr yn risg isel

Defnyddiwch y rhestr wirio isod i'ch helpu i benderfynu a oes angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr.

Os ydych yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau, dylech wneud cais am drwydded cronni dŵr.

Os ydych yn nodi atebion negyddol i'r holl gwestiynau, neu'n gallu darparu tystiolaeth neu gyfiawnhad ategol pam na châi eich cynnig effaith negyddol, ni fydd angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr fel arfer.

Rhestr wirio

A oes yna unrhyw dyniadau neu groniadau dŵr presennol, gan gynnwys rhai heb drwydded, neu geisiadau y gallai’r cynnig gael effaith arnynt?

A oes unrhyw hawliau neu fuddiannau defnyddwyr dŵr neu hawliau neu fuddiannau torlannol eraill y gellid cael effaith arnynt?

A fydd y newidiadau yn effeithio ar faint neu amrywioldeb dŵr? Er enghraifft, a fydd y newidiadau yn achosi llai o lifoedd dros unrhyw ran o'r gored/strwythur? A fydd yn lleihau llifoedd neu'n sychu'r sianel i lawr yr afon o'r strwythur?

A fyddai'r cynnig yn debygol o gael effaith ar safle neu nodweddion Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig neu safle Ramsar?

A fyddai'r cynnig yn cael effaith ar rywogaethau a warchodir y gallai fod yn byw ar y safle neu rywle arall yn y dalgylch?

A fyddai’r cynnig yn cael effaith ar lwybr pysgod un ai i fyny neu i lawr yr afon (gan gynnwys llyswennod)?

A fyddai'r newidiadau arfaethedig yn llif yr afon yn debygol o achosi newid sylweddol i gynefinoedd infertebratau?

A fyddai'r newidiadau arfaethedig yn llif yr afon yn debygol o achosi newid sylweddol yng nghymunedau macroffytau a diatomau?

A fyddai’r cynnig yn cael effaith ar unrhyw ardaloedd silio neu feithrin pysgod?

A gâi llygryddion eu gollwng neu eu cynnull yn yr afon yn ystod y gwaith adeiladu a/neu wrth weithredu?

A fyddai'r cynnig yn debygol o gynyddu cymylogrwydd yr afon yn sylweddol drwy gynyddu faint o waddodion sydd wedi'u dal, gan effeithio ar ansawdd y dŵr?

A fyddai’r cynnig yn newid geomorffoleg y rhan o'r afon dan sylw? Er enghraifft, a fyddai’r cynnig yn newid yn sylweddol symudiad neu ddyddodiad gwaddodion uwchlaw neu islaw’r safle? A fyddai’r cynnig yn achosi i lannau'r afon erydu i fyny neu i lawr yr afon? Neu a fyddai’n arwain at grafu gwely'r afon?

A fyddai'r cynllun yn cynnwys gwaith addasu neu adeiladu cyforgronfa ddŵr newydd â chapasiti o 10,000 metr ciwbig neu fwy?

Beth i'w wneud gyda'r rhestr wirio ar ôl ei chwblhau

Dylech gadw copi o'ch rhestr wirio a thystiolaeth ategol (er enghraifft, lluniau a dynnwyd cyn ac ar ôl y gwaith, mesuriadau, ac unrhyw gyngor arbenigol a dderbyniwyd) ar gyfer eich cofnodion eich hun. Bydd yn dystiolaeth eich bod wedi cynnal asesiad ac yn dogfennu eich penderfyniad nad oes angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr. Mae'n bosibl y gwnawn ofyn i chi ddarparu copi i ni.

Croniadau dŵr mewn argyfwng

Gellir adeiladu neu addasu nifer gyfyngedig iawn o groniadau dŵr mewn argyfwng cyn bod trwydded ar waith er mwyn atal risg uniongyrchol o’r canlynol:

  • marwolaeth, anaf personol neu niwed i iechyd unigolyn
  • difrod i eiddo
  • difrod i'r amgylchedd

Mae gwaith o'r fath ond wedi’i esemptio rhag trwyddedu pan gaiff ei gyflawni gan i) Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel awdurdod gorfodi o dan Adran 16 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, neu ii) gan, neu ar ran, awdurdod mordwyaeth, harbwr neu warchod mewn perthynas â'i swyddogaethau.

Mae'n rhaid hysbysu CNC o'r gwaith brys o fewn pum niwrnod o'i ddechrau. Rhaid i'r hysbysiad ddarparu'r rheswm yr ystyriodd yr awdurdod neu'r unigolyn bod argyfwng wedi codi, a chadarnhau yr oedd angen gwneud y gwaith yn er mwyn atal risg uniongyrchol o farwolaeth neu anaf i unigolion, neu risg uniongyrchol i eiddo neu'r amgylchedd.

Gallwn roi trwydded ôl-weithredol i gynnwys y gwaith neu roi hysbysiad i) yn nodi nad oedd yr eithriad brys yn berthnasol neu ii) yn nodi nad oes angen y gwaith mwyach ar gyfer atal risg uniongyrchol i fywydau pobl, eiddo neu'r amgylchedd.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf