Cofrestru eich tanc carthion neu uned trin carthion gryno

Os nad yw adeilad yr ydych yn berchen arno wedi’i gysylltu â phrif garthffos, mae’n debyg y bydd eich carthffosiaeth yn cael ei drin gan:

  • danc carthion (mae'r hylif yn socian drwy'r ddaear drwy system ymdreiddio)
  • gwaith trin carthion bach neu uned trin carthion gryno (mae'r hylif yn cael ei drin i lefel sy'n ddigon glân i lifo i afon neu nant)

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen cofrestru tanciau carthion ac unedau trin carthion cryno unwaith yn unig, yn ddi-dâl.

Os yw eich system yn gollwng i’r ddaear, gallwch ddefnyddio tanc carthion neu uned trin carthion gryno drwy gae ddraenio. Os yw'n mynd i ddŵr wyneb, rhaid i chi ddefnyddio uned trin carthion gryno.

Systemau carthffosiaeth preifat ar waith cyn 6 Ebrill 2010

Os oedd eich system garthffosiaeth breifat yn weithredol cyn 6 Ebrill 2010 ac yn bodloni'r safonau a oedd yn bodoli ar y pryd, byddwch yn gymwys i gofrestru am ddim os ydych yn gollwng i gwrs dŵr hyd yn oed os ydych yn agos at safleoedd neu rywogaethau sensitif.

Os ydych yn gollwng i’r ddaear (cae draenio), dim ond os nad ydych wedi’ch lleoli o fewn Parth Diogelu Tarddiad Dŵr 1 neu o fewn 50m i ffynnon neu dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr y byddwch yn gymwys i gofrestru am ddim.

Os daeth eich system garthffosiaeth i rym ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi gydymffurfio â'r amodau isod i fod yn gymwys i gofrestru am ddim neu mewn ardal gyda charthffos gyhoeddus.

Sut i gofrestru

Os yw’r canlynol yn berthnasol, rydych yn gymwys i gofrestru eich system garthffosiaeth breifat am ddim:

  • dim ond carthion domestig y byddwch yn eu gollwng (dim gwastraff busnes na masnach)
  • nid oes modd i’ch eiddo gysylltu â charthffos fudr gyhoeddus
  • mae eich gollyngiad o'r system garthffosiaeth yn ddigon pell oddi wrth safle, cynefin neu rywogaeth sensitif - defnyddiwch ein map i wirio
  • mae eich system garthffosiaeth yn bodloni'r safonau dylunio a gweithgynhyrchu angenrheidiol ac mae wedi'i lleoli'n briodol 
  • mae eich eiddo yn gollwng llai na 2000 litr y dydd i gae draenio yn y ddaear; neu
  • mae eich eiddo yn gollwng llai na 5000 litr y dydd i gwrs dŵr

Cyn i chi gofrestru

Sicrhewch fod eich system garthffosiaeth breifat yn ddigon pell oddi wrth safleoedd, cynefinoedd neu rywogaethau sensitif

Os ydych yn gollwng i gwrs dŵr, mae’n rhaid sicrhau’r canlynol:

  • bod y gollyngiad yn cael ei wneud i gwrs dŵr sydd fel arfer yn cynnwys dŵr trwy gydol y flwyddyn yn unig - ni all fod i lyn neu bwll caeedig
  • nad yw’r gollyngiad o fewn 500m i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), safle Ramsar, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Biolegol (SoDdGA), poblogaeth misglod perlog dŵr croyw, dŵr ymdrochi neu ddyfroedd pysgod cregyn
  • nad yw’r gollyngiad o fewn 200m i warchodfa natur leol ddyfrol
  • mewn ardaloedd llanw, bod y gollyngiad wedi’i leoli o dan benllanw cymedrig y gorllanw

Os ydych yn gollwng i'r ddaear (i gae draenio) rhaid sicrhau’r canlynol:

  • nad yw’r gollyngiad wedi’i leoli o fewn Parth Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear 1 neu o fewn 50m i ffynnon neu dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr
  • nad yw’r gollyngiad o fewn 50m i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), safle Ramsar neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Biolegol (SoDdGA)
  • nad yw’r gollyngiad o fewn coetir hynafol

Gwirio bod eich system yn ddigon pell oddi wrth unrhyw un o'r uchod

Sicrhau bod y safonau dylunio a gweithgynhyrchu’n cael eu bodloni

Dylech sicrhau bod y system garthffosiaeth yn bodloni'r safonau dylunio a gweithgynhyrchu gofynnol a'i bod wedi'i lleoli'n briodol.

Dylech fod wedi derbyn cymeradwyaeth cynllunio a rheoli adeiladu angenrheidiol ar gyfer y system drin a gollwng.

Mae angen i'r system garthffosiaeth gydymffurfio â'r canlynol:

  • BSEN 12566: 2000 Rhan I unedau parod
  • BSEN 12566: 2007 Rhan IV ar gyfer tanciau carthion a adeiladwyd yn y fan a'r lle o unedau parod
  • BSEN 12566: 2005 Rhan III ar gyfer unedau trin carthion cryno domestig neu sy’n cael eu hadeiladu ar y safle

Ar gyfer gollyngiadau i'r ddaear rhaid i'r gollyngiad fod i gae draenio sydd wedi'i osod yn unol â'r Safon Brydeinig BS6297:2007+A1:2008

Gwirio nad oes modd cysylltu â'r garthffos fudr gyhoeddus

Rhaid i'ch eiddo fod o leiaf 30 metr i ffwrdd o garthffos fudr gyhoeddus.

Lle mae mwy nag un eiddo angen system garthffosiaeth, cyfrifir y pellter o'r garthffos gyhoeddus yr ystyrir ei fod yn rhesymol i'w gysylltu trwy luosi 30 metr gyda nifer yr eiddo. Gallwch wirio hyn trwy gysylltu â'ch ymgymerwr carthffosiaeth lleol (y cwmni dŵr lleol fel arfer).

Darllenwch fwy am gysylltu â charthffos gyhoeddus

Darllenwch fwy am redeg a chynnal system garthffosiaeth breifat

Diweddarwyd ddiwethaf