Swyddog yr Amgylchedd (Cadwraeth)
Dyddiad cau: 20/07/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Bwcle
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd / Gweithrediadau Wrecsam a Sir y Fflint
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Rhan amser (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 22/08/2025
Rhif swydd: 200398 ENV
Y rôl
Yn dwlu ar yr awyr agored? Yn frwd dros warchod natur a gwneud gwahaniaeth? Efallai mai dyma’r swydd i chi.
Rydym am benodi rhywun sy’n ffynnu wrth weithio gyda phobl, datrys heriau amgylcheddol byd go iawn, a chael profiad ymarferol yn y maes. Wedi’i leoli yng ngogledd-ddwyrain Cymru godidog, mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar reoli ac adfer rhai o safleoedd gwarchodedig pwysicaf y rhanbarth.
Byddwch chi’n gweithio ar draws amrywiaeth o gynefinoedd, gyda ffocws penodol ar laswelltiroedd a rhostiroedd – felly os oes gennych chi brofiad yn y meysydd hyn, neu os ydych chi’n awyddus i’w feithrin, rydyn ni am glywed gennych chi. Byddwch hefyd yn chwarae rhan weithredol wrth fynd i’r afael â llygredd, cefnogi ymateb i ddigwyddiadau, a chyflwyno ymgyrchoedd amgylcheddol effaith uchel sy’n gwarchod ein dyfroedd arfordirol a’n hafonydd.
Mae hon yn rôl ddynamig sy’n hynod amrywiol. Un diwrnod efallai y byddwch chi allan yn arolygu safle, y diwrnod nesaf gallech chi fod yn cydweithio â chymunedau, tirfeddianwyr, neu sefydliadau partner i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol.
Os ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth lle y mae bwysicaf – yng nghanol natur – byddem wrth ein bodd yn eich cael fel rhan o’r tîm.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Elizabeth Felton at Elizabeth.Felton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae Tîm yr Amgylchedd Wrecsam a Sir y Fflint yn cwmpasu ystod eang o waith gweithredol a rheoleiddiol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phobl sy’n canolbwyntio ar reoleiddio’r diwydiant dŵr, pobl sy’n rheoli contractau i wella cyflwr safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a phobl sy’n ymdrechu i wella cyflwr ein cyrsiau dŵr. Mae pawb yn y tîm yn chwarae rhan bwysig yn yr ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol. Gall hyn amrywio o ddifrod i safleoedd gwarchodedig, i ollyngiad cemegion o safle diwydiannol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys deiliaid trwyddedau, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau’r trydydd sector, er mwyn galluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau a chynlluniau partneriaeth o’r cysyniadau i’r camau gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau’r lle.
- Asesu cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol, amodau’r drwydded neu gydsyniad. Pan nodir achos o beidio â chydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd i gydymffurfedd cyn gynted â phosibl. Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Llunio caniatadau a chydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy’n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio’r cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd cytunedig, er mwyn cefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymholiadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflwyno’n fanwl gywir ac yn effeithiol.
- O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor ac ymatebion proffesiynol lleol mewn perthynas ag ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal cydberthnasau gwaith gyda’r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
- Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, cyflwyno prosiectau neu sicrhau cydymffurfedd â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer er mwyn sicrhau y cyflawnir canlyniadau.
- Chwarae rôl o fewn Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn yn Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n dilyn prosesau’r sefydliad, er mwyn sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth ddigonol dda am ddulliau rheoli’r amgylchedd, neu o feysydd amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o’r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
- Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sicrhau datblygiad, arbenigedd a chymhwysedd proffesiynol a phersonol parhaus, trwy ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Y gallu i ddylanwadu, trafod ac ennyn cydweithrediad gan eraill. Mae’n bwysig bod deiliad y swydd yn meddu ar brofiad o ymdrin â phobl / sefyllfaoedd anodd yn llwyddiannus.
- Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis systemau gwybodaeth ddaearyddol neu gymwysiadau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi’u haddasu.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.