Buddion staff
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddiwylliant gwaith sy’n cynnig lle gwych i weithio i bawb. Mae gennom ystod eang o fuddion staff i diwallu nifer o anghenion.
Cydbwysedd bywyd / gwaith
Gweithio hyblyg sy’n addas i chi a’r swydd:
- amrywiaeth eang o batrymau gwaith, gan gynnwys wythnos lawn amser o 37 awr, rhan amser, oriau cywasgedig, rhannu swydd, gweithio tymhorol, gweithio blynyddol.
- trefniadau gweithio hyblyg (oriau hyblyg) rhwng 7am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys amser in lieu.
- trefniadau gweithio cymysg ar gyfer gweithio yn y swyddfa a/neu o’ch cartref neu leoliad arall
- awr llesiant pob wythnos i wneud rhywbeth o’ch dewis i helpu eich llesiant
28 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn yn cynyddu i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd:
- cario hyd at 10 diwrnod o wyliau blynyddol drosodd bob blwyddyn
- cario hyd at 5 diwrnod ymlaen bob blwyddyn
- cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
Absenoldeb ychwanegol hael ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir.
Darpariaethau absenoldeb arbennig (gyda a heb dâl):
- absenoldeb astudio
- gwirfoddoli
- gwasanaeth rheithgor
- seibiant gyrfa
Buddion ariannol
- cyflog cystadleuol gyda chynydd blynyddol drwy eich graddfa cyflog
- Cynllun Pensiwn Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru o 28.97%
- gwobr ffyddlondeb ar gyfer gwasanaeth hir
- talu ffioedd aelodaeth broffesiynol perthnasol i’ch rôl
- parcio am ddim mewn swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru (lle mae ar gael) ac mewn llawer o’n safleoedd hamdden
Buddion iechyd a llesiant
Mae CNC yn cefnogi ac wedi mabwysiadu nifer o Siarteri Teithio Iach, ac mae wedi ymrwymo i helpu staff i deithio mewn ffordd sy’n dda iddyn nhw ac i’r amgylchedd.
Buddion i hwyluso teithio llesol a chynaliadwy:
- cynllun prynu Beicio i’r Gwaith
- benthyciadau ar gyfer tocyn tymor blynyddol
- polisïau a chyfleusterau sy'n hwyluso beicio
- aelodaeth llogi beiciau gorfforaethol
- gostyngiadau ar nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys siopau, tocynnau theatr, gwyliau, yswiriant, aelodaeth campfeydd, a llawer mwy
Rhaglen Gynorthwyo Gweithwyr am ddim sy’n darparu:
- cymorth 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn
- cymorth emosiynol, cwnsela, a myndiad at ymgynghorwyr arbenigol
Datblygiad gyrfa
- datblygiad gyrfa proffesiynol, gan gynnwys cyrsiau ymarferol i addysg bellach ac addysg uwch
- rhaglen datblygu arweinwyr, wedi’i chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)
- cynllun rheoli perfformiad sy’n cefnogi eich blaenoriaethau a datblygiad personol
- rhaglen ymsefydlu strwythurol i’ch croesawu chi i Gyfoeth Naturiol Cymru
Diweddarwyd ddiwethaf