Cynghorydd Arbenigol ar Ddiwydiannau Morol ac Ynni

Dyddiad cau: 7 Medi 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 22 Medi 2025

Rhif swydd: 201440

Y rôl

A ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd morol? Oes gennych chi brofiad o gynghori ar bolisi a strategaeth ar gyfer diwydiannau morol a’u heffeithiau ar yr amgylchedd morol?  Os felly, efallai fod y swydd hon yn berffaith i chi!

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o wneud gwahaniaeth drwy roi cyngor ar bolisi morol i ymuno â’n Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Mae’r tîm yn arwain ar ddatblygu strategaethau, polisïau, deddfwriaeth, dulliau gweithredu ac arweiniad, a rhoi cyngor arnynt, mewn perthynas â chynllunio a rheoli’r amgylchedd morol ac arfordirol. Rydym yn darparu’r cyngor hwn yn fewnol ac yn allanol i’r llywodraeth, partneriaid, a’r sectorau morol ac arfordirol.

Byddwch yn datblygu a chyflwyno cyngor amgylcheddol strategol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Ystad y Goron a rhanddeiliaid cenedlaethol ar gynlluniau a pholisïau ar gyfer datblygu a defnyddio diwydiannau morol a thechnolegau ynni adnewyddadwy yn amgylchedd morol Cymru. 

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol, brwdfrydig a llawn egni i fod yn rhan o dîm Cymru gyfan o arbenigwyr morol. Os yw hyn yn addas i chi – cyflwynwch gais nawr!

Mae meysydd gwaith penodol yn cynnwys:

  • Cefnogi datblygiad polisi, cyngor, canllawiau a thystiolaeth strategol CNC ar gyfer y diwydiant morol.
  • Cynnal trosolwg o sectorau’r diwydiant morol a’r polisïau, strategaethau a chynlluniau sy’n eu llywodraethu a helpu i nodi a rheoli risgiau a chyfleoedd allweddol.
  • Helpu i gynllunio a blaenoriaethu gwaith strategol CNC yn y diwydiannau morol a gweithio’n agos â chydweithwyr eraill yn y diwydiannau morol i gefnogi dulliau cyflenwi.
  • Ymgysylltu ar faterion strategol y diwydiant morol o fewn CNC ac yn allanol â’r llywodraeth, y diwydiant a phartneriaid eraill, gan sicrhau cynrychiolaeth CNC ar grwpiau a fforymau allweddol y diwydiant morol.
  • Darparu mewnbwn strategol o’r diwydiant morol i strwythurau llywodraethu CNC, gan ddarparu briffiau/papurau a sicrhau sylw priodol o ran rheolaeth.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Helen Bloomfield Helen.Bloomfield@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Dewch i ymuno â’n gweithlu cyfeillgar, elwa ar ein hamodau gwaith hyblyg, a bod yn rhan o’r ateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur y mae ein byd yn eu hwynebu.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrediad o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad polisi, cyngor statudol a dogfennau canllaw CNC, Llywodraeth Cymru, ac adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau morol wedi’u cadw’n ôl a phartneriaid eraill; rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
  • Cynnal gwybodaeth am y sector(au) dynodedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i CNC a’r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
    •Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â chynllunio, rheoli a rheoleiddio’r amgylchedd morol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth gynllunio a rheoli’r diwydiant morol a’r sectorau ynni; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o’r canlynol: dadansoddi technegol a dehongli amrywiaeth o wybodaeth amgylcheddol a ffynonellau data cymhleth, a dadansoddi setiau data mawr.
  3. Gweithio gyda / o fewn cyrff cadwraeth natur statudol, cyrff cyhoeddus, cyrff cynrychioliadol y sector diwydiant morol ac ynni, a chyrff anllywodraethol amgylcheddol. 
  4. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn. 
  5. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf