Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr

Dyddiad cau: 24 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg 

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Trwyddedu Ansawdd Dŵr / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 8 Medi 2025

Rhif swydd: 201598

Y rôl

A ydych chi eisiau chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o warchod a gwella afonydd, llynnoedd a dyfroedd arfordirol Cymru? Ymunwch â’n Tîm Trwyddedu Ansawdd Dŵr i helpu i fynd i’r afael â llygredd wrth gefnogi twf economaidd cynaliadwy.

Fel Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr, byddwch yn asesu ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol gan gwmnïau dŵr, busnesau, diwydiant a hyd yn oed deiliaid tai, ac yn gwneud penderfyniadau sy’n llunio amgylchedd glanach, mwy diogel ac iachach i bobl a natur.

Byddwch yn rhan o dîm agos o wyth swyddog sy’n gweithio’n hybrid fel rhan o Wasanaeth Trwyddedu Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein tîm yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ehangach, sy’n cwmpasu trwyddedu ar draws meysydd gwastraff, diwydiant, morol, adnoddau dŵr, coedwigaeth a rhywogaethau. Wedi’n lleoli’n bennaf yng Nghaerdydd, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg, gyda hyfforddiant a chyfarfodydd wyneb yn wyneb i’ch helpu i feithrin sgiliau technegol a chysylltu â’ch cydweithwyr.

Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich arbenigedd wrth gyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd yn y byd go iawn ledled Cymru.

Os ydych chi’n rhoi sylw manwl i fanylion, yn angerddol am yr amgylchedd, ac yn barod i wneud argraff ystyrlon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Emma Jones

emma.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn blaenoriaethu gwella ansawdd dŵr drwy ei strategaeth gorfforaethol, gan ganolbwyntio ar ymdrechion cydweithredol ac atebion cynaliadwy i fynd i’r afael â llygredd a sicrhau cyflenwad dŵr diogel i’r amgylchedd a phobl. Mae strategaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys camau gweithredu fel gweithredu trwyddedau gollyngiadau dŵr, gwella gwaith monitro carthion, a gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â llygredd o wahanol ffynonellau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â cheisiadau i’r maes penodol a neilltuir i chi drwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru lle maent ar gael, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol ag amserlenni a chyllidebau.
  • Penderfynu ar geisiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd dechnegol a/neu raglenni modelu, yn unol â gofynion y maes penodol a neilltuir i chi.
  • Hybu datblygiad technegol y swyddogion trwyddedu yn nhîm trwyddedu eich maes neilltuedig drwy hyfforddiant uniongyrchol a thrwy gynorthwyo’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Datblygiad Technegol gan ddefnyddio’ch arbenigedd yn eich maes perthnasol.
  • Cynrychioli’r tîm trwyddedu yn eich maes arbenigedd o fewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac yn ystod cyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol / allanol.  
  • Gweithredu fel arweinydd wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau cymhleth am drwyddedau, gan gynnwys ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol sy’n llai cymhleth. 
  • Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â thrwyddedu.  
  • Darparu cymorth technegol yn eich maes pwnc i dimau gweithredol, gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio, a chynorthwyo’r gwaith o ddarparu hyfforddiant strwythuredig yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu at wella effeithlonrwydd a pherfformiad y tîm trwyddedu, nodi cyfleoedd i newid y prosesau a’r arweiniad, a chefnogi diwylliant o welliant parhaus mewn perthynas â’ch maes penodol neilltuedig ac o safbwynt y gwaith a wneir ar draws y meysydd penodol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut y mae’n ymwneud â’r broses drwyddedu.
  2. Profiad ymarferol o asesu ceisiadau perthnasol am drwyddedau, neu eu defnyddio o fewn rôl sicrhau cydymffurfedd.
  3. Profiad o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg. 
  4. Profiad o hyfforddi, a sgiliau mentora.
  5. Profiad o gyflenwi gwasanaeth i gwsmeriaid, a’r gallu i ddylanwadu a dwyn perswâd er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol. 
  6. Profiad o gyflwyno gwelliannau / effeithlonrwydd i brosesau. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf