Uwch-swyddog Arbenigol, Arweinydd y Gwasanaeth Gweithrediadau
Dyddiad cau: 06/07/2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Canol De Cymru / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203476
Y rôl
Mae hon yn rôl uwch newydd a chyffrous, sy’n rhoi cefnogaeth hanfodol i’r Pennaeth Gwasanaeth Perygl o Lifogydd wrth arwain a chydlynu ein gwaith o reoli’r perygl o lifogydd ar draws y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau gyfan.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes perygl o lifogydd sy’n awyddus i lunio’r ffordd rydym yn amddiffyn cymunedau a’r amgylchedd ledled Cymru, dyma’ch cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. Byddwch yn defnyddio’ch arbenigedd a’ch mewnwelediad i wella sut rydym yn cynllunio, yn darparu adnoddau ac yn gweithredu ein gwasanaethau perygl o lifogydd — gan helpu timau i weithio’n fwy effeithiol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn gweithio yng nghanol rhwydwaith dynamig o gydweithwyr ar draws Gweithrediadau, y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, a’r Gwasanaethau Galluogi, gan ysgogi cydweithio a chysondeb ar draws cylch oes cyfan y perygl o lifogydd — o gynllunio strategol a blaenoriaethu i gyflawni, monitro perfformiad, a rheoli risgiau.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â hygrededd amlwg, sgiliau cyfathrebu cryf, a dealltwriaeth ddofn o reoli’r perygl o lifogydd — rhywun a all droi gwybodaeth yn weithredu, ac angerdd yn gynnydd. Os yw hynny’n swnio fel chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â David Letellier at David.letellier@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn arwain y mewnbwn gweithredol, yr ymateb i’r cynllun gwasanaeth, y cytundeb lefel gwasanaeth a phrosesau cynllunio busnes, ac yn eu goruchwylio.
- Byddwch yn llunio rhaglen waith lefel uchel (ar draws Gweithrediadau), wedi’i blaenoriaethu ar gyfer y maes gwasanaeth er mwyn sicrhau cysondeb ar draws cynlluniau Lle a Thîm er mwyn sicrhau bod y targedau a’r mesurau allweddol yn y cynllun gwasanaeth yn cael eu cyflawni.
- Byddwch yn gweithio’n agos gyda rheolwyr gweithredol ac arweinwyr tîm i gydlynu’r broses o ddarparu gwasanaethau a monitro perfformiad yn unol â blaenoriaethau a dyrannu adnoddau.
- Byddwch yn arwain ar y gwaith o nodi problemau posibl o ran darparu gwasanaethau, ac yn cydlynu’r gwaith o lunio ymyriadau unioni neu addasiadau lefel gwasanaeth, a’u rhoi ar waith. Bydd y gwaith hwn yn cael effaith fawr ar gynlluniau gwaith a blaenoriaethau’r grwpiau mawr o staff gweithredol eraill, yn ogystal â chael effaith ar yr amgylchedd a rhanddeiliaid.
- Byddwch yn arwain y cynllunio gweithlu gweithredol ar draws y maes gwasanaeth, ac yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu a gweithredu cynlluniau datblygu technegol.
- Bydd gennych rôl allweddol wrth nodi ac ymateb i risgiau a chyfleoedd busnes pwysig sy’n dod i’r amlwg.
- Byddwch yn gyswllt clir, pwrpasol â rolau Arweinydd Busnes y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, ac yn gyswllt effeithiol rhwng y gyfarwyddiaeth honno a Gweithrediadau. Bydd hyn yn cynnwys bod yn gysylltiad clir rhwng cynllunio busnes corfforaethol, Bwrdd Busnes, a Lle.
- Byddwch yn sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng timau gweithredol, byrddau busnes a’u his-grwpiau, a byddwch yn cydweithio’n agos ag arweinwyr gwasanaethau a busnes eraill er mwyn sicrhau cysylltiadau effeithiol ar draws y meysydd busnes a gwasanaeth.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Byddwch yn arbenigwr cydnabyddedig â phrofiad gweithredol a/neu bolisi helaeth ar draws y maes gwasanaeth perthnasol, a meddu ar ddealltwriaeth dda o fusnes ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys sut mae’r gwasanaeth yn effeithio ar y busnes cyfan, ac yn rhyngweithio ag ef.
- Byddwch yn meddu ar wybodaeth helaeth am y rhanddeiliaid allanol sy’n rhyngweithio â’r maes gwasanaeth ac sy’n cael eu heffeithio ganddo, a hygrededd presennol a chydberthnasau sefydledig ag amrywiaeth o randdeiliaid perthnasol.
- Byddwch yn meddu ar lefel uchel o sgiliau ariannol, sgiliau rheoli prosiectau, a sgiliau rheoli risgiau a pherfformiad a fydd yn eich galluogi i arwain y mewnbwn gweithredol, yr ymateb i’r prosesau o ran cyflwyno’r cynllun gwasanaeth a chynllunio busnes, a’r goruchwyliaeth ohonynt.
- Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu mewnol ac allanol rhagorol i gyfleu gwybodaeth dechnegol a busnes gymhleth i gynulleidfaoedd eang, ac i greu deialog effeithiol ynghylch y materion hyn.
- Y gallu i ddehongli a dadansoddi symiau mawr o ddata a gwybodaeth gymhleth iawn, er mwyn llywio’r broses o wneud penderfyniadau ac ymyriadau mewn ffordd effeithiol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
- Y gallu i weithredu’n annibynnol, gan wneud penderfyniadau cymhleth a allai fod yn cael effaith fawr ar draws blaenoriaethau a allai fod yn groes i’w gilydd, gyda mewnbwn cyfyngedig gan reolwyr llinell.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.