Arweinydd Tîm, Prosiectau Dŵr a Natur

Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726  | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Prosiectau Dŵr a Natur / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/06/2026 Penodiad Tymor Penodol tan 31/03/2026 Efallai y bydd y posibilrwydd y bydd y penodiad hwn yn cael ei ymestyn neu y bydd yn swydd barhaol yn ddiweddarach, ond ni ellir gwarantu hyn

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweliad: 24 & 25 Gorffennaf 2025

Rhif swydd: 203962

Y rôl

Cynllunio a rheoli prosiectau dŵr a natur strategol, a rheoli’r Tîm Prosiectau Dŵr a Natur yn unol â gwerthoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch yn arwain ar ystod eang o faterion strategol ac amgylcheddol sy’n ymwneud â dŵr a natur, yn ogystal â rheoli prosiectau dŵr a natur strategol unigol.  Byddwch yn darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn llunio a llywio newid deddfwriaethol, polisi’r llywodraeth ac agendâu rhanddeiliaid o fewn eich maes gwaith. Byddwch yn trosi deddfwriaeth, polisi Llywodraeth Cymru a strategaeth sefydliadol Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddulliau ymarferol ar gyfer cyflawni ar y rheng flaen mewn amgylchedd rheoleiddiol / gweithredol. Byddwch yn ymuno â’n Grŵp Dŵr a Natur Cynaliadwy ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Mae’n bosibl y caiff y penodiad hwn ei ymestyn neu y daw’r swydd yn un barhaol yn ddiweddarach, ond ni ellir gwarantu hyn.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rhian Thomas yn rh.thomas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Bydd y rôl o fewn y Grŵp Tir a Natur Cynaliadwy yn yr Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol.  Bydd y swydd yn atebol i’r Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain y gwaith o reoli prosiectau dŵr a natur strategol sy’n rhan o raglen dŵr a natur ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys nodi a rheoli materion penodol a chymhleth, megis paratoi canllawiau, sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a sectorau / partneriaid perthnasol.
  • Arwain tîm o gynghorwyr arbenigol, yn ogystal â bod yn rheolwr prosiectau a rhaglenni effeithiol. Byddwch yn arwain ac yn rheoli prosiectau ar faterion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu a gweithredu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros y maes polisi dŵr a natur i sicrhau uniondeb dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru â bwriad polisi Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth Ganolog a’r Undeb Ewropeaidd.
  • Arwain a rheoli prosiectau sydd â materion penodol a chymhleth y mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu cyfer.
  • Rhoi cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU fel y bo’n briodol ac, yn ei dro, adolygu a chynghori ar y polisi, cynlluniau a strategaethau a gynhyrchir.
  • Comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunir arni.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Llywio’r trosolwg a pherchnogaeth o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n ymwneud â dŵr a natur.
  • Cydweithio â’r rheolwr i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â chynllunio a rheoli dŵr a natur cynaliadwy. Polisïau a strategaethau a mecanweithiau cyflawni Llywodraeth Cymru a’r DU a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau, y sbardunau a’r rhwystrau cymhleth a wynebir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni canlyniadau dŵr a natur cynaliadwy yng Nghymru. 
  3. Profiad o weithio ar lefel genedlaethol, ar lefel y DU ac yn rhyngwladol yn rheoli portffolio o brosiectau a rhaglenni gwaith sy’n gysylltiedig â dŵr a natur gynaliadwy.
  4. Dealltwriaeth drwyadl o’r fframweithiau llywodraethu, polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â thirweddau dynodedig, a’r ystod gymhleth o sbardunau a rhwystrau i gyflawni.
  5. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau rheoli rhaglenni a phrosiectau. 
  6. Yn ddelfrydol, byddwch yn aelod a/neu’n gweithio tuag at aelodaeth o gorff proffesiynol amgylcheddol a/neu sefydliad rheoli.
  7. Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
  8. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf