Cynghorydd Arweiniol Dulliau Rheoliadol

Dyddiad cau: 31 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Dulliau Rheoliadol Ansawdd Dŵr / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad am gyfnod penodol o 12 mis, gyda’r posibilrwydd o estyniad

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 15 Medi 2025

Rhif swydd: 203971

Y rôl

Ydych chi’n barod i lunio dyfodol sut rydym yn rheoli ac yn ariannu ansawdd dŵr yng Nghymru?

Rydym yn chwilio am feddyliwr profiadol a strategol i arwain ein cynlluniau codi tâl am ansawdd dŵr o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae hwn yn gyfle prin i ddylanwadu ar gyllido amgylcheddol ar lefel genedlaethol – gan sicrhau bod ein dull o godi tâl yn cefnogi canlyniadau amgylcheddol cryf a gwasanaethau o ansawdd uchel.

Yn y rôl hon, byddwch yn arwain yr adolygiad strategol o’n taliadau blynyddol am ansawdd dŵr, gan helpu i greu system codi tâl sy’n deg, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, ac sy’n gadarn yn ariannol. Chi fydd yr arbenigwr i droi ato yn y maes hwn, gan gynghori ar draws y sefydliad a gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol i drosi polisi cenedlaethol yn ddarpariaeth ymarferol ar lawr gwlad.

Byddwch hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu canllawiau, rhaglenni a strategaethau sy’n cyd-fynd â nodau amgylcheddol a pholisi’r llywodraeth, gan sicrhau bod ein cynlluniau’n cydymffurfio a’u bod yn dryloyw ac yn effeithiol.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu cyfuno arbenigedd technegol â meddwl ar raddfa fawr – rhywun sy’n ffynnu ar gydweithio ac sy’n gallu meithrin perthnasoedd gwaith cryf ar draws timau a sectorau.

Os ydych chi’n angerddol am gael effaith barhaol ar sut rydym yn amddiffyn ac yn gwella amgylchedd dŵr Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch chi wedi’ch contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn y ganolfan / lleoliad uchod a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. 

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Eleanor Ellick  neu Selby le Roux, eleanor.ellick@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu selby.leroux@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Wedi’ch lleoli yn ein Tîm Dulliau Rheoliadol Ansawdd Dŵr yn yr adran Tystiolaeth, Trwyddedu a Chynllunio, byddwch yn rhan o dîm sy’n gwireddu uchelgais polisi – gan ddatblygu’r offer, y canllawiau a’r hyfforddiant sydd eu hangen i gefnogi rheoleiddio effeithiol a chymesur ledled Cymru.

Yn y rôl newydd hon, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o lunio sut rydym yn ariannu ein gwaith drwy ddatblygu ffioedd a thaliadau teg a pharod ar gyfer y dyfodol. 

Bydd eich arbenigedd yn helpu i sicrhau bod ein cynlluniau codi tâl yn cefnogi dull cynaliadwy o reoleiddio ansawdd dŵr, gan adlewyrchu’r gwasanaethau a ddarparwn a’r uchelgeisiau yr ydym yn gweithio i’w cyflawni.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddull rheoliadol, cyngor technegol, a chanllawiau ar gyfer pob sector perthnasol.
  • Rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol a deddfwriaeth newydd, a dehongli deddfwriaethau, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) a meysydd cyfrifoldeb penodol.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au). 
  • Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gymhwyso gwybodaeth a phrofiad technolegol, deddfwriaethol a rheoliadol.
  • Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn prosiectau ar faterion cymhleth a phenodol, gan gynnwys comisiynau gan y Bwrdd Rheoleiddio Busnes, er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff sy’n arwain at ddarparu gwasanaethau rheoliadol yn effeithiol.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi’r gyfarwyddiaeth, a chynllun corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm er mwyn sicrhau bod gan y tîm wytnwch deddfwriaethol a thechnegol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ar gyfer ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiadau o’r angen i wella prosesau rheoleiddiol a thrwyddedu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi llywodraeth Cymru a’r DU yn eich sector(au) penodol.
  2. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau’r llywodraeth/rheoleiddwyr, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  3. Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a’r sefydliad ehangach.
  4. Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion gweithgareddau rheoliadol.
  5. Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
  6. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
  7. Bydd disgwyl i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn polisïau rheoliadol a newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf