Cynghorydd Arbenigol: Hydroddaeareg

Dyddiad cau: 03/09/2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Geowyddoniaeth, Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol 

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 26/09/2025

Rhif swydd: 204017

Y rôl

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (y Ddeddf) yn moderneiddio ac yn symleiddio’r broses ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru drwy sefydlu un broses gydsynio seilwaith ar gyfer mathau penodol o brosiectau seilwaith mawr. Bydd hyn yn cyflymu’r broses gydsynio ar gyfer prosiectau mawr ar dir ac yn y môr tiriogaethol, gan greu mwy o gysondeb a sicrwydd yng ngallu Cymru i gyflawni prosiectau seilwaith yn y dyfodol. Mae gan CNC rôl bwysig i’w chwarae fel ymgynghorai statudol ac fel y rheoleiddiwr ar gyfer ystod o gydsyniadau y gellir eu hystyried neu eu datgymhwyso drwy’r broses.

Rydym yn chwilio am hydroddaearegwr angerddol a medrus i ymuno â’n Tîm Gwyddor Daear deinamig yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog yn llunio dyfodol Cymru drwy gyflawni prosiectau seilwaith mawr – ar dir ac ar y môr.

Yn y rôl hon, byddwch yn gynghorydd dibynadwy ar hydroddaeareg, gan gefnogi datblygiadau seilwaith mawr o’r camau cynllunio cynharaf hyd at gymeradwyaeth reoleiddiol. Byddwch yn darparu mewnbwn technegol arbenigol ar ddiogelu dŵr daear, rheoli adnoddau ac asesiadau halogiad. O gyngor cyn ymgeisio i adolygiadau trwyddedau ac asesiadau tynnu dŵr daear, bydd eich gwaith yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws rhai o brosiectau pwysicaf Cymru.

Byddwch yn cydweithio â thimau mewnol a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys y llywodraeth, datblygwyr ac ymgynghorwyr, wrth sicrhau bod prosiectau seilwaith yn bodloni safonau amgylcheddol ac yn cyd-fynd â’n hamcanion strategol. Y tu hwnt i waith achos, byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygu canllawiau, offer gweithredol a pholisi ar gyfer rheoleiddio ym maes hydroddaeareg ledled Cymru.

Mae hwn yn fwy na swydd dechnegol – dyma’ch cyfle i helpu i ddiffinio sut rydym yn rheoli ac yn amddiffyn un o’n hadnoddau pwysicaf ar gyfer cenedlaethau i ddod.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Trystan James at Trystan.James@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrediad o wybodaeth a data cymhleth. 
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad dogfennau polisi, cyngor a chanllawiau CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill; rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau; ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. 
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol. 
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni. 
  • Cefnogi ymgysylltiad â sectorau a phartneriaid, Llywodraeth Cymru, defnyddwyr dŵr, awdurdodau lleol, diwydiant a’r rhai sy’n ddibynnol ar ddŵr daear yng Nghymru a’r DU, a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid. 
  • Cynnal gwybodaeth am wyddor hydroddaeareg, gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol ac i’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sectorau cysylltiedig. 
  • Cyfrannu at waith grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1.    Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â hydroddaeareg ac adnoddau dŵr; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn hydroddaeareg; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru. 
2.    Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o’r amrediad o bartneriaid a rhanddeiliaid a diwydiannau sydd ynghlwm â hydroddaeareg yng Nghymru.  
3.    Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli amrywiaeth o wybodaeth amgylcheddol a ffynonellau data cymhleth, a dadansoddi setiau data mawr.   
4.    Gweithio gyda/yn Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, sectorau a diwydiannau sy’n ddibynnol ar ddŵr daear, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, a Gweithrediadau CNC. 
5.    Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.  
6.    Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod. 
7.    Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi holl benaethiaid busnes y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y gofyn. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf